Sfax (talaith)
Oddi ar Wicipedia
Un o daleithiau (gouvernourat) Tunisia yw Sfax. Fe'i lleolir yng nghanolbarth y wlad, ar lan Môr y Canoldir. Dinas Sfax, ail ddinas Tunisia ac un o ganolfannau masnach mwyaf y wlad, yw ei phrifddinas.
Dominyddir daearyddiaeth y dalaith gan yr ardal eang o wastadedd di-goed, rhwng 200m-400m uwch lefel y môr, a enwir y Sahel. Mae'n enwog am ei holewydd.
Ar hyd yr arfordir ceir y prif drefi a dinasoedd, sy'n cynnwys Sfax ei hun, Mahrès a Skhira. Cyferbyn â dinas Sfax ceir Ynysoedd Kerkennah.
Mae'r GN1, prif draffordd y wlad, yn cysylltu Sfax a'r brifddinas Tunis i'r gogledd a threfi a dinasoedd y de. Ceir rheilffordd hefyd, sy'n cysylltu Sfax ac El Jem, Hammamet a Tunis.
Dinasoedd a threfi [golygu]
- Agareb
- Bir Ali Ben Khélifa
- Bir Salah
- Chihia
- El Aïn
- Graïba
- Gremda
- Jebiniana
- Kerkennah
- El Hencha
- Mahrès
- Menzel Chaker
- Sakiet Eddaïer
- Sakiet Ezzit
- Sfax (prifddinas)
- Skhira
- Thyna
| Taleithiau Tunisia | |
|---|---|
| Ariana | Béja | Ben Arous | Bizerte | Gabès | Gafsa | Jendouba | Kairouan | Kasserine | Kebili | El Kef | Mahdia | Manouba | Medenine | Monastir | Nabeul | Sfax | Sidi Bou Zid | Siliana | Sousse | Tataouine | Tozeur | Tunis | Zaghouan | |