Mahdia (talaith)

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Lleoliad Talaith Mahdia yn Tunisia

Talaith yng nghanolbarth Tunisia yw talaith Mahdia. Mae'n gorwedd yng ngogledd-orllewin y canolbarth ar lan y Môr Canoldir ac mae'n ffinio ar daleithiau Sousse a Monastir i'r gogledd, Sfax i'r de a Kairouan i'r gorllewin. Mahdia, dinas hanesyddol a enwir ar ôl y Mahdi, proffwyd olaf Islam yn ôl rhai traddodiadau, yw prifddinas y dalaith a'i dinas fwyaf.

Mae'r dalaith yn rhan o ardal sy'n adnabyddus i ymwelwyr o Ewrop fel un o brif ganolfannau twristiaeth yn Tunisia. Ceir traethau braf a nifer o westai ar hyd yr arfordir rhwng Mahdia a Monastir ond nid yw cefn gwlad wedi ei ddatblygu llawer.

Dinasoedd a threfi [golygu]


Taleithiau Tunisia Baner Tunisia
Ariana | Béja | Ben Arous | Bizerte | Gabès | Gafsa | Jendouba | Kairouan | Kasserine | Kebili | El Kef | Mahdia | Manouba | Medenine | Monastir | Nabeul | Sfax | Sidi Bou Zid | Siliana | Sousse | Tataouine | Tozeur | Tunis | Zaghouan
Flag of Tunisia-2.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Tunisia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato