Ben Arous
Oddi ar Wicipedia
Un o faesdrefi allanol Tunis, prifddinas Tunisia, yw Ben Arous (Arabeg: بن عروس). Mae'n gorwedd i'r de-ddwyrain o'r ddinas honno, tua 10 cilometr o'i chanol. Mae'n 'brifddinas' Talaith Ben Arous.
Mae'n dref ddiwydiannol dosbarth gweithiol ac mae nifer o'r trigolion yn teithio oddi yno i weithio yn y brifddinas. Mae'n gorwedd ar groesffordd bwysig, gyda ffyrdd yn ei chysylltu â Tunis, Hammam Lif a Zaghouan.