Rheilffordd y TGM

Oddi ar Wicipedia
Trên yng ngorsaf TGM La Goulette

Rheilffordd y TGM yw'r rheilffordd drydan ysgafn sy'n cysylltu dinas Tiwnis a La Marsa yn y gogledd. Fe'i henwir ar ôl ei gorsaf ar ben Avenue Habib Bourguiba, sef 'Tunis Gare Marine'; TGM yw enw'r rheilffordd ar lafar. Adeiladawyd y TGM gan y Ffrancod ar ddiwedd y 19g a dechrau'r 20g. Erbyn heddiw mae'n ddolen hollbwysig yn rhwydwaith cludiant Tiwnis Fwyaf gyda threnau'n rhedeg yn rheolaidd ddydd a nos (ac eithrio oriau mân y bore yn y gaeaf). Mae'n rheilffordd brysur iawn sy'n cludo miloedd bob dydd. Yn yr oriau brys mae trenau'n rhedeg bob deuddeg munud. Am y rhan fwyaf o'i chwrs mae'r rheilffordd yn rhedeg o fewn chwarter milltir i lan Gwlff Tiwnis. Ei hyd yw tua 30 km ac mae'r siwrnai o'r naill ben i'r llall yn cymryd 45 munud.

Rhed y rheilffordd o'r orsaf TGM, wrth ymyl porthladd Tiwnis, i La Marsa yn y gogledd. Mae'n croesi Llyn Tiwnis ar forglawdd ac yna gamlas La Goulette i gyrraedd La Goulette ei hun, sy'n derminws fferi ac ymdrochfa poblogaidd. Rhwng La Goulette a La Marsa mae'n galw yn Carthage a rhan isaf Sidi Bou Saïd.

Gorsafoedd[golygu | golygu cod]

Gorsaf y TGM yn La Marsa, terminws gogleddol y rheilffordd