Thomas Johnes

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Thomas Johnes

Aelod seneddol, pensaer tirwedd, ffermwr, cyhoeddwr, llenor a chymwynaswr cymdeithasol o Llwydlo, Swydd Amwythig, Lloegr oedd Thomas Johnes (1 Medi 174823 Ebrill 1816). Mae'n fwyaf adnabyddus am ddatblygu ystâd Hafod Uchtryd yng Ngheredigion.

Symudodd Johnes o gartref y teulu yn Croft Castle i Hafod Uchtryd ger Cwmystwyth, Ceredigion, a dechreuodd ddatblygu yr ystâd drwy adeiladu capel anwes ar gyfer tenantiaid yr ystâd, yn ogystal ag ysgol a gerddi, llwybrau a phontydd godidog. Arbrofodd gyda bridio defaid a gwartheg, a thyfu cnydau newydd, gan sefydlu llaethdy ffynianus. Cafodd nifer sylweddol o goed eu plannu ar dir nad oedd yn addas ar gyfer cnydau; a gwobrwywyd medal aur y Royal Society of Arts i Johnes bum gwaith er mwyn cydnabod ei ymdrechion. Annogodd ei denantiaid i wella eu ymarfer ffermio, gan gyhoeddi A Cardiganshire Landlord's Advice to his Tenants ym 1800, ynghyd â chyfeieithiad Cymraeg, a cynnigodd wobrau am y cnydau gorau. Bu hefyd yn un o brif gefnogwyr Cymdeithas Amaeth Ceredigion a sefydlwyd ym 1784. Ymroddodd Johnes ei oes a'i ffortiwn i ddatblygu ystâd Hafod.[1][2]

Cefndir teuluol a bywyd cynnar[golygu]

Portread gan Stothard

Roedd Johnes yn aelod o hen deulu o Sir Gaerfyrddin a Cheredigon, ac yn perthyn i William Wilberforce trwy modryb ei fam, Anne Knight. Mae hefyd yn perthyn trwy ochr yma ei deulu i Marchweithian, Arglwydd Is Aled ac Aed Mawr, tywysog yn nhrefedigaeth cyntaf y Brythoniaid.[2]

Roedd yn fab hynaf Thomas Johnes (tua 17211780) o Lanfair Clydogau ac Elizabeth, merch Richard Knight o Croft Castle, Swydd Henffordd. Ganwyd ar 1 Medi 1748, a bedyddwyd yn Eglwys Sant Laurence, Llwydlo. Dysgodd ddarllen ac ysgrifennu Saesneg yn ei ysgol offeiriadol paratoadol lleol, cyn mynychu Ysgol Ramadeg Amwythig pan oedd yn saith oed. Ym 1760, aeth i Goleg Eton, lle bu am saith mlynedd, yn ystod y cyfnod hwn dysgodd Groeg a'r clasuron Lladin odan William Windham. Ym 1767, mynychodd gwrs o ddarlithoedd ar Resymeg ac Athroniaeth Moesol ym Mhrifysgol Caeredin. Wedi gadael y brifysgol yn hwyr ym 1768, aeth yn syth ar daith oamgylch y cyfandir ynghyd â Robert Listen Odan ei arweiniaid ef, eithiodd drwy Ffrainc, Sbaen a'r Eidal cyn mynd i'r Swistir a dilyn llwybr yr Afon Rhein cyn belled a Strasbourg a theithio trwy'r Alsace a Lorraine i Baris, lle buont yn byw am sawl mis.[3] Dychwelodd Johnes ym 1771, a treuliodd bron i dair mlynedd yn Swydd Henffordd, gan ddilyn amryw o orchwylion gwledig. Erbyn 1774, roedd wedi blino ar fyw bywyd hamddenol, ac roedd yn benderfynol o ymroddi ei hun i achos pwysicach a mwy arobryn. Safodd i ddod yn Aelod Seneddol, fel ymgeisydd dros Geredigion, yn erbyn Syr Robert Smith. Enillodd Johnes trwy ddeiseb yn y pen draw.

Wedi cwblhau ei astudiaethau ym Mhrifysgol Caeredin, aeth Johnes i Goleg yr Iesu, Rhydychen, a derbyniodd Meistr y Celfyddydau ar 8 Gorffennaf 1783. Yn Rhydychen y cyfarfodd gyda'r Arglwydd Thurlow am y tro cyntaf.[2]

Bywyd personol[golygu]

Jane Johnes

Ym mis Awst 1778, priododd Maria Burgh, o Sir Fynwy, yn Eglwys y Santes Fair, Chepstow. Hi oedd unig blentyn a oroesodd ac etifeddwraig y Parchedig Henry Burgh o Parc Llettis. Apwyntwyd yn Gyrnol milisia Sir Garfyrddin yr un flwyddyn. O fewn blwyddyn iddynt briodi, daeth Maria yn wael a bu farw ym 1782 yn Bath, Gwlad yr Haf yn ddi-blant.[2]

Mariamné Johnes

Cyn diwedd y flwyddyn honno, ail-briododd Johnes. Ei gefnder, Jane Johnes, oedd ei ail wraig, sef merch John Johnes o Ddolaucothi. Achosodd hyn ffrae a ddinistriodd ei berthynas gyda'i deulu am weddill ei oes. Tybier na siaradodd fyth gyda'i fam wedi'r ail briodas hon.[4] Roedd Jane yn ddynes prydferth a deallus iawn, a daeth a hapusrwydd iddo yn y briodas. Roedd y berthynas yn un agos, a rhanodd y ddau ddiddordeb mewn gwella Ceredigion a chariad am yr Hafod.

Ganed eu plentyn cyntaf, Mariamné ar 30 Mehefin 1784. Roedd Johnes wedi gwironi arni a bu'n ei magu llawer. Derbyniodd addysg ddrud, a chyflogwyd tiwtoriaid byd eang. Roedd perthynas agos rhwng y ddau a torodd ei galon pan fu farw ar y 4 Gorffennaf 1811.

Ganed ei fab, Evan, ym 1786, ond bu farw yn ifanc iawn.[4]

Erbyn gaeaf 1814, roedd yn dal i alaru wedi ei golled ac yn doreddig. Daeth yn wael a symudodd i dŷ a oedd wedi prynu ychydig ynghynt ar arfordir Dyfnaint. Bu farw ym mwthyn Langstone Cliff,[5] ger Dawlish ar 23 Ebrill 1816 yn 68 oed. Claddwyd ym Mhlwyf yr Eglwys Newydd, yn Eglwys Sant Michael, Hafod Uchtryd.

Hafod Uchtryd[golygu]

Ym 1780, ar farwolaeth ei dad, etifeddodd ystâd Hafod Uchtryd yng Ngheredigion. Symudodd i fyw yno ym 1783 gan ganfod mewn cyflwr gwael, hanner adfail ac wedi ei amgylchynnu gan 10,000 acer o ucheldir Cymreig. Roedd y tenantiaid ar lwg yn anobeithio mewn cartrefi gwael. Symudodd hwy o fythod i fythynod a cyflogodd nifer ohonynt i blannu coed ar y tir. Roedd ganddo'r weledigaeth a dull pragmatig o reoli ystâd.[6]

Roedd fferm yn Hafod Uchtryd ger Cwmystwyth ers yr 16eg ganrif, ar ffurf maenor mynachlog Ystrad Fflur yn nyffryn Ystwyth. Wedi diddymiad y mynachlogydd, daeth y fferm yn ganolbwynt ystâd a oedd yn eiddo i'r teulu Herbert. Pasiodd yr ystâd i ddwylo'r teulu Johnes o Lanfair Clydogau a Dolaucothi drwy briodas.[4]

Plasty[golygu]

Tŷ'r Hafod, tua 1795 gan John Warwick Smith

Adeiladwyd plasty newydd yn yr Hafod ym 1785 gan Johnes, wedi i'r tŷ hanner adfail a adeiladwyd gan y teulu Herbert gael ei ddymchwel. Dyluniwyd gan Thomas Baldwin o Bath yn yr arddull Gothig. Roedd llyfrgell eang mewn adeilad siap octagon o fewn y plasty. Casglodd Johnes nifer o lyfrau prin a bonheddig am hanes natur, llawysgrifau Cymraeg, Ffrangeg a Lladin a oedd yn cynnwys rhai gan Edward Lhuyd yn ogystal a nifer o lawysgrifau a rhifynau wedi eu argraffu o'r canoloesoedd yn Ffrangeg. Prynwyd hefyd gasgliad Marquis de Pesaro.[2] Safai cerflun gan Thomas Banks, yn cynyrchioli Thetis yn trochi Achilles yn yr afon Styx yn y llyfrgell; cafodd y cerflun ei gomisiynu gan ei wraig gyda delwedd ei ferch fel baban ar gyfer pen Achilles. Mae'r cerflun iw weld yn y Victoria and Albert Museum.[7]

Mwgwd y Dyn Gwyrdd ar ffynon Hafod Uchtryd

Roedd tŷ gwydr 160 troedfedd o hyn yn cysylltu gyda'r llyfrgell, ac roedd hwn yn llawn planhigion prin.[8] Ger y mynedfa o'r ystafell hwn i'r ystafell fwyta, roedd paentiad yn hongian, gan Peter Paul Rubens o Decius Mus yn derbyn Bendithiad o'r Pontifex Maximus. Roedd paentiad uwchben y lle tân, o'r proffwyd Elijah yn cael ei fwydo gan cigfrain, a fu'n wreddiddiol yn hongian yn Abaty Talley, ac a roddwyd iw hynafiaid wedi diddymiad y mynachlogydd. Ymysg y nifer o baentiadau yn y plasty, roedd portread o "Mr. Johnes of Llanvair", gan Syr Godfrey Kneller; o "Robert Liston, Esq.", gan Wickstead; o "Richard Gorges, Esq., of Eye", Swydd Henffordd; ac o Viganoni; copi o "Cupid Sleeping" gan Guido, tirluniau gan Both a Berghem, a phaentiad o'r Alchymist wedi ei ddinistrio, gan Salvator Rosa. Yn yr ystafell groeso roedd llun enwog Hogarth o Ffair Southwark, Descent from the Cross gan Van Dyck, "Ecce Homo" dau Moralez, dau dirlun gan Claude, gorymdaith y Doge Fenis gan Canaletti; Assumption gan Bernardo Lonino, un o ddisgyblion Leonardo da Vinci, a fu'n wreiddiol ar allor Lugano; Holy Family gan Reubens, portread o Yr Arglwydd Ganghellor Thurlow gan Gardener, a rhai gweithiau miniatur gan Miss Johnes. Cafodd y neuadd ei adeiladu o farmor Mona[9] a'i ed with a'i addurno gyda cerflun Groegaidd o Dionysus; chwe paentiad gan Froissart, a dynwarediad o basso relievo, gan Stothard.

Ar 13 Mawrth 1807, dinistrwyd y plasty a chynwys y llyfrgell gan dân. Roedd Johnes yn y Senedd yn Llundain pan glywodd y newyddion. Fe lwyddodd ei wreig a'i ferch ddianc o'r tân.[8] Rhentodd y teulu Castle Hill ger Aberystwyth a cyflogwyd Baldwin o Bath fel pensaer unwaith eto. Ar 1 Medi yr un flwyddyn, dechreuwyd y gwaith o ail-adeiladu, a cytunodd y contractwyr i daru cosb ariannol os nad oedd tô ar y plesty erbyn y Nadolig. Dechreuodd y teulu Johnse brynu dodrefn newydd yn barod i symyd i fewn i'r tŷ newydd, gan gynnwys o blasty Palladinaidd Fonthill Splendens, a oedd yn eiddo i William Thomas Beckford. Prynwyd drysau gwydr Ffrengig a nifer o lefydd tân, un wedi ei gerfio gan Banks gyda dau wyneb: Pan ac Iris, Penelope ac Odysseus. Cadwyd rhain yn yr Hafod tan fu'r plasty wedi ei orffen. Yn ystod y gwaith adeiladu, gadawodd y teulu Castle Hill, gan deithio oamgylch Llundain a'r Alban, gan ddychwelyd pob blwyddyn i ganfod y tŷ dal heb ei orffen. Bu llawer o oedi yn yr adeiladu, hyd i Johnes aros yng Nghymru a gorychwylio'r gwaith gan ymweld yn wythnosol i gadw llygad ar y datblygiad. Cymerodd y prosiect dair mlynedd iw gwblhau.

Cymryn[golygu]

Erbyn heddiw, mae ystâd Hafod yn parhau i adlewyrchu gweledigaeth a chynefin Thomas Johnes.[10] Mae'r ystâd yn eiddo i Ymddiriedolaeth Hafod a'r Comisiwn Coedwigaeth, sy'n ceisio cadw a gwella tirwedd Thomas Johnes.

Llyfryddiaeth[golygu]

  • John a Bernard Burke (1847). Burke's Genealogical and Heraldic History of the Landed Gentry. London: H. Colburn

  • Sidney Lee (1908). The Dictionary of National Biography: From the Earliest Times to 1900. London: Oxford University Press

  • (1817) The Annual Biography and Obituary for the Year 1817. London: Longman, Hurst, Rees, Orme, and Brown

  •  The National Library of Wales, Welsh Biography Online.
  • Grigson G (1949) Places of the Mind Routledge & Kegan Paul
  • Ingrams R & Piper J (1983) Piper's Places, Chatto & Windus/Hogarth Press, ISBN 0-7011-2550-0
  • Linnard, W. (1971) Forestry 44 Journal of the Royal Forestry Society tud. 139–140
  • Linnard W. (2000) Welsh Woods and Forests – A History, Gomer Press, ISBN 1-85902-864-0
  • Gibson W. (1990) Thomas Johnes of Hafod Royal Society of Arts Journal (Study Group for the Society's History) ISBN 0958-0433
  • Jenkins, Dafydd "Johnes, Thomas (1748–1816), landowner and man of letters
  • Honourable Society of Cymmrodorion (1959) Gol.
  • Sir J. E. Lloyd, Dictionary of Welsh Biography down to 1940, B. H. Blackwood Ltd
  • Society of Arts (1800) Transactions Vol 18 tud. 81 – 83
  • Society of Arts (1800) Transactions Vol 18 tud. 134 – 139
  • Society of Arts (1801) Transactions Vol 19 tud. 78 – 81
  • Society of Arts (1802) Transactions Vol 20 tud. 182 – 191
  • Society of Arts (1805) Transactions Vol 23 tud. 26 – 29
  • Society of Arts (1810) Transactions Vol 28 tud. 30 – 32
  • Elizabeth Inglis-Jones (1950). Peacocks in Paradise. Faber & Faber, Ltd.

, sy'n cynnwys map gan William Blake a darluniau gan Thomas Johnes.

, paralel ffotograffaidd cyfoes i 'An Attempt to Describe Hafod'

  • Thomas Johnes; Richard J. Moore-Colyer (1992). A Land of Pure Delight: Selections from the Letters of Thomas Johnes of Hafod, Cardiganshire, 1748–1816. Gomer. ISBN 0863837514

Cyfeiriadau[golygu]

  1. National Library of Wales, Welsh Biography Online
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 2.4 The Annual Biography and Obituary for the Year 1817
  3. The Dictionary of National Biography: From the Earliest Times to 1900
  4. 4.0 4.1 4.2 Peacocks in Paradise, Elisabeth Inglis-Jones
  5. The Land of Pure Delight
  6. Burke's Genealogical and Heraldic History of the Landed Gentry 1847
  7.  Thetis dipping Achilles into the River Styx 1790. Tate.
  8. Gwall cyfeirio: Tag <ref> annilys; ni osodwyd unrhyw destun ar gyfer y 'ref' DNB
  9. Anglesey Serpentine, Mona Marble
  10. The Royal Society for the encouragement of Arts, Manufactures & Commerce
  11. 11.0 11.1 Hafod Estate

Dolenni allanol[golygu]

Senedd Prydain Fawr
Rhagflaenydd:
Syr Robert Smyth, 5ed Barwnig
Aelod Seneddol dros Bwrdeistrefi Ceredigion
17751780
Olynydd:
John Campbell, Barwn 1af Cawdor
Rhagflaenydd:
Thomas Johnes
Aelod Seneddol dros Sir Faesyfed
17801796
Olynydd:
Walter Wilkins
Rhagflaenydd:
Wilmot Vaughan, Iarll 1af Lisburne
Aelod Seneddol dros Sir Ceredigion
17961800
Olynydd:
Senedd y Deyrnas Unedig
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Senedd Prydain Fawr
Aelod Seneddol dros Sir Ceredigion
18011816
Olynydd:
William Edward Powell