Tŷ gwydr
Oddi ar Wicipedia
Adeilad lle caiff planhigion eu tyfu ydy tŷ gwydr. Mae'n strwythr gyda tô gwydr neu plastig, ac yn aml waliau gwydr neu plastig yn ogystal; cynhesi'r planhigion, y pridd a phethau eraill y tu mewn i'r adeilad gan ymbelydredd solar o'r haul. Cedwir yr awyr cynnes, sydd wedi ei gynhesu gan arwynebedd poeth tu mewn y strwythr, o fewn yr adeilad. Mae tai gwydr yn amrywio o faint sied bychan i adeiladau mawr iawn.
Gellir rhannu tai gwydr yn rai gwydr a rhai phlastig. Y plastigion a'u defnyddir gan amlaf yw ffilm PE a dalen eml wal PC neu PMMA. Mae tai gwydr masnachol yn gyfleusterau cynhyrchu llysiau a blodau technoleg uwch. Llenwir tai gwydr gwydr gyda offer megis gosodiad sgrinio, cynhesu, oeri a goleuo a all cael eu rheoli'n awtomatig gan gyfrifiadur.
Mae'r gwydr a ddefnyddir mewn tai gwydr yn gweithio fel cyfrwng trawsyriant detholus gwahanol amlderau sbectrol, a'i effaith yw i ddal egni o fewn y tŷ gwydr, sy'n cynhesu'r planhigion a'r tir oddi fewn. Mae hyn yn cynhesu'r awyr yn agos i'r ddaear, ac yn cae ei atal rhag codi a dianc. Gellir dangos hyn drwy agor ffenestr bychain yn agos i'r to fel bo'r tymheredd yn gostwng. Yr egwyddor hwn yw sail y system oeri awtomatig, autovent. Mae tai gwydr yn gweithio trwy ddal ymbelydredd electromagnetig ac atal darfudiad. Gelwir tŷ gwydr miniatur yn ffram oer.
[golygu] Ffynonellau
- May Woods, (1988) Glass houses: history of greenhouses, orangeries and conservatories Aurum Press, Llundain, ISBN 0-906053-85-4
- Anne S. Cunningham, (2000) Crystal palaces : garden conservatories of the United States Princeton Architectural Press, Efrog Newydd, ISBN 1-56898-242-9
- Olivier de Vleeschouwer, (2001) Greenhouses and conservatories Flammarion, Paris, ISBN 2-08-010585-X
- Kenneth Lemmon, (1963) The covered garden Dufour, Philadelphia
- Erwin W B van den Muijzenberg, (1980) A history of greenhouses Institute for Agricultural Engineering, Wageningen, Yr Iseldiroedd
- Enoshima Jinja Shrine Botanical Garden
[golygu] Gweler hefyd
- Biosffer 2
- Tŷ gwydr (ynghlwm â tai)
- Effaith tŷ gwydr
- Tŷ gwydr solar (technegol)
- Ffermio fertigol
- Storfa thermol tymhorol
[golygu] Dolenni allanol
- (Saesneg) Cynllunio ac adeiladu tŷ gwydr
- (Saesneg) North Carolina State University Greenhouse Food Production
- (Saesneg) Cynhyrchiad Tomato Organig mewn Tai Gwydr
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.