Salvador Dalí

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Salvador Dali
Salvador Dalí 1939.jpg
Ganwyd 11 Mai, 1904
Figueres, Catalonia
Bu farw 23 Ionawr, 1989
Figueres, Catalonia
Yn enwog am Swrealaeth
Peintio
Ffilm
Cerfluniaeth
Galwedigaeth Arlunydd

Arlunydd Catalanaidd oedd Salvador Domingo Felipe Jacinto Dalí i Domènech, markies de Dalí de Pubol (11 Mai 190423 Ionawr 1989). Ganed Dalí yn Figueres, tref fechan ger troed y Pyreneau yng Nghatalonia. Cafodd hyfforddiant cynnar a datblygodd ddiddordeb mewn arlunwyrclasurol fel El Greco, Francisco Goya, Michelangelo a Diego Velázquez. [1][2]

Astudiodd ym Madrid o 1921 hyd 1924, a thynnodd sylw oherwydd ei ymddygiad anarferol. Yn 1929 aeth i Baris, lle daeth i adnabod Pablo Picasso ac André Breton a mabwysiadu arddull swrealaeth. Bu’n cydweithio a’r gwneuthurwr ffilmiau Luis Buñuel.

Efallai ei ddarlun mwyaf adnabyddus yw La persistència de la memòria, (Dyfalbarhad y Cof), 1931 sydd yn dangos clociau'n toddi mewn tirwedd afreal.

Yn 1940 aeth i fyw i’r Unol Daleithiau, lle bu am 25 mlynedd cyn dychwelyd i Sbaen. Ystyrir y cyfnod yma fel ei gyfnod “clasurol”. Bu farw yn Figueres ym 1989.


Bywyd cynnar[golygu]

Teulu Dalí (tua 1910)

Roedd ei dad, Salvador Dalí y Cusi, yn gyfreithiwr dosbarth canol gydag agwedd lem tuag at fagu plant - yn dra gwahanol i'w fam Felipa Domench Ferres a oedd yn hapus i annog ei ddiddordeb yng nghelfyddyd a thueddiadau ecsentrig. [3]

Dywedir iddo fod yn blentyn bywiog, deallus a digywilydd, yn debygol o golli ei dymer gyda'i rieni a disgyblion eraill. Fel canlyniad fe gafodd ei drin yn galed gan ei dad a phlant hŷn. Ni chafodd Dalí berthynas da gyda'i dad fel canlyniad i'r gosbi gan arwain at gystadleuaeth rhwng Dalí a'i dad am sylw Felipa. Bu ganddo frawd, 9 mis yn hŷn, hefyd yn Salvador, a bu farw yn ifanc. Yn ddiweddarach fe ddywedodd Dalí'n aml hanes cael ei hebrwng i fedd ei frawd gan ei rieni pan roedd yn 5 oed. Dywedodd ei rieni wrtho ei fod yn ailymgnawdoliad (reincarnation) ei frawd.

Amlygwyd talent Dalí yn ifanc iawn yn creu darluniau soffistigedig iawn am ei oed. Fe'i anfonwyd i'r coleg gelf leol ym 1916. Ond nid oedd yn fyfyriwr cydwybodol, yn treillio’r dydd yn breuddwydio gan wisgo dillad gwahanol i'r myfiwr eraill ac yn tyfu ei wallt yn hir. [4]

Ym 1921, bu farw mam Dalí o ganser. Roedd Dalí yn 16 oed ar y pryd, ac fe effeithiodd y golled yn fawr arno. Priododd ei dad chwaer ei wraig ymadawiad a oedd yn anodd i Dalí dygymod gan achosi straen pellach rhyngddo a'i dad.

Coleg Celf a Swrealaeth[golygu]

Dali3.jpg

Ym 1922, aeth Dalí i Academia de San Fernando ym Madrid ac fe ddaeth ei ymddygiad a'i wisg yn fwy rhyfedd byth.

Arbrofodd gyda sawl steil o beintio yn cynnwys yr arddull newydd Ciwbiaeth. Ym 1923, fe ddisgyblwyd gan yr Academi wedi iddo feirniadu'r darlithwyr ac am achosi'r myfyrwyr creu helynt dros ddewis uwch ddarlithydd. Fe ddaeth i sylw Federico García Lorca a Luis Buñuel a ddaeth yn enwau mawr y byd celf mewn blynyddoedd i ddod. Er iddo fod yn ffrind gyda Lorca, yn y pendraw gwrthododd Dalí gobeithion Lorca i ffurfio perthynas agosach[5] [6]

Yn 1924 darluniodd ei lyfr cyntaf, darluniau i gyd fynd gyda'r cerddi iaith Catalaneg Les Bruixes de Llers gan Carles Fages de Climent. Tua'r adeg yma fe ymddiddorodd yn syniadaeth Dada – mudiad celf radicalaidd newydd a ffurfiwyd yn y Swistir a'r Almaen a fu'n ddylanwad mawr arno am weddill ei fywyd.

Yn ôl rhai hanesion fe arestiwyd Dalí yn Gerona am gefnogi mudiad annibyniaeth Catalonia.[7] [8] Yn 1926 fe daflwyd o'r Academia yn fuan cyn ei arholiadau terfynol am fynnu nad oedd aelodau'r staff â'r gallu i farcio ei waith.

Rhwng 1926 a 1929, teithiodd sawl tro i Baris, ble cyfarfu â pheintwyr dylanwadol fel Pablo Picasso a Joan Miró. Cyflwynodd Miró, y bardd Paul Éluard a'r peintiwr René Magritte syniadaeth y mudiad celfyddydol swrealaeth iddo. [9]

Fe ddaeth Dalí i fod prif ffigiwr swrealaeth ac un o brif enwau celfydd yr 20fed ganrif. Roedd gwaith Dalí yn seiliedig ar freuddwydion a'r is-ymwybod ac wedi'i ddylanwadu gan syniadaeth y seiciatrydd Sigmund Freud. Defnyddiodd Dalí dechnegau clasurol i greu darluniau a oedd yn gymysgedd o'r afreal-dychmygol yn aml yn gwrthgyferbynnu yn erbyn cefndiroedd o wir natur neu gydag elfennau'r byd go iawn.

Ym 1929, mentrodd Dalí i'r byd ffilmiau, yn cydweithio gyda Luis Buñuel ar Un Chien andalou a L'Age d'Or. Mae'r Chien Andalou yn adnabyddus am yr olygfa gychwynnol arswydus o lygaid merch yn cael ei thorri gyda rasel.[10] Rhai blynyddoedd yn ddiweddarach fe gyd weithiodd gydag Alfred Hitchcock ar ei ffilm Spellbound, (1945). Defnyddiodd Hitchcock darluniau Dalí i bortreadau golygfeydd o freuddwydion.

Hefyd ym 1929, cyfarfu a Gala (Elena Dmitrievna Diakonova), Rwsiad a oedd yn wraig i'r ysgrifennwr Paul Éluard. Yn 10 mlynedd yn hŷn na Dalí fe ddatblygodd perthynas cryf ac fe adwelodd ei gŵr. Roedd Diakonova'n ddylanwad a chytbwysedd perffaith i Dalí a fe briododd y cwpl ym 1934.

Gofalodd Gala am ochr busnes ac ariannol Dalí, yntau'n ormod o freuddwydiwr gwyllt i ymdrin â materion busnes yn ddoeth.

Erbyn canol y 1930au, roedd Salvador Dalí yn enwog cymaint am ei bersonlaeth, ymddygiad hynod, ei wisg a'i fwstash ac am ei gelf.[11]

Diarddel o'r Swrrealwyr[golygu]

Gyda bygythiad ffasgiaeth ar draws Ewrop, yn arbennig yn Nghatalonia a Sbaen, siomwyd a syfrdanwyd y cyhoedd a'r Swrrealwyr eraill gan agwedd Dalí. Gwrthododd gymryd safiad yn erbyn Ffasgwyr Sbaen ac Hitler – er i'r rhan mwyaf o'r artistiaid eriall fel Luis Buñuel, Picasso a Miró eu gwrthwynebu'n gryf. Roedd syniadaeth y Ffasgwyr yn gwbl groes i gelfyddyd fodern a rhyddid barn, pan gipwyr y Ffasgwyr grym llofruddiasant artistiaid ac ysgrifennwr di-ri, yn cynnwys ei hen ffrind Fredrico Garcia Lorca. Yn y diwedd fe daflwyd Dalí o grŵp y Swrrealwyr ac bu cryn feirniadaeth o agwedd Dalí byth ers hynny. [12]

Pan feddiannwyd y Ffasgwyr y rhan mwyaf o Ewrop ar ddechrau'r ail ryfel byd fe ddihangodd Dalí a Gala i'r Unol Daleithiau. Ar ddiwedd y rhyfel fe ddychwelon i Gatalonia ym 1948 er i unbennaeth Franco ormesu arlunwyr a phobl eraill Sbaen am ddegawdau i ddod.

Amgueddfa Dalí, Figueres[golygu]

Dros y blynyddoedd canlynol beintiodd 19 o gynfasau mawrion yn cynnwys themau gwyddonol, henesyddol neu grefyddol. Fel alwodd yr cyfnod yn 'Hudoliaeth Niwclear'. Dros y cyfnod yma, fe ddatblygodd ei waith ddisgleirdeb technegol gan gyfuno manylion manwl gyda dychymyg hynod. O 1960 – 1974 rhoddodd Dalí lawer o ymdrech i greu'r ‘Teatre Museu Dalí’ yn yr un adeilad ble cynhaliwyd ei arddangosfa gyntaf yn 14 oed yn Figueres.

Agorwyd yr amgueddfa ym 1974 fel yr 'adeilad swrreal mwyaf y byd' yn arddangos casgliadau cynhwysfawr o'i waith ac yn denu miloedd o ymwelwyr o bob cwr o'r byd bob blwyddyn.

Paentiadau a gwaith celf arall[golygu]



Cyfeiriadau[golygu]

  1. "Phelan, Joseph, ',The Salvador Dalí Show". Artcyclopedia.com. http://www.artcyclopedia.com/feature-2005-03.html. Adalwyd August 22, 2010. 
  2. Dalí, Salvador. (2000) Dalí: 16 Art Stickers, Courier Dover Publications. ISBN 0-486-41074-9.
  3. Birth certificate and "Dalí Biography". Dalí Museum. Dalí Museum. http://www.salvadordalimuseum.org/history/biography.html. Adalwyd August 24, 2008. 
  4. Rojas, Carlos. Salvador Dalí, Or the Art of Spitting on Your Mother's Portrait, Penn State Press (1993). ISBN 0-271-00842-3.
  5. http://www.theguardian.com/uk/2007/oct/28/spain.books
  6. Etherington -Smith Meredith La persistència de la memòria: Una Biografia de Dalí, 1995 Da Capo Press, ISBN 0-306-80662-2
  7. http://www.biography.com/people/salvador-dal%C3%AD-40389
  8. http://translate.google.co.uk/translate?hl=cy&sl=en&tl=cy&u=http%3A%2F%2Fwww.abcgallery.com%2FD%2Fdali%2Fdalibio.html&anno=2
  9. Hodge, Nicola, and Libby Anson. The A–Z of Art: The World's Greatest and Most Popular Artists and Their Works. California: Thunder Bay Press, 1996. Online citation.
  10. Koller, Michael. Un Chien Andalou. senses of cinema January 2001. Retrieved on July 26, 2006.
  11. Gibson, Ian (1997). The Shameful Life of Salvador Dalí. London: Faber and Faber. tud. 238–9. ISBN 0-571-19380-3. 
  12. Luis Buñuel, My Last Sigh: The Autobiography of Luis Buñuel (Vintage, 1984) ISBN 0-8166-4387-3