Wy

Oddi ar Wicipedia
Wy
Enghraifft o'r canlynolcyfnod ym mywyd anifail, ffurf o organeb Edit this on Wikidata
Mathgorchudd Edit this on Wikidata
Yn cynnwysmelynwy, calasa, plisgyn wy Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Wyau adar amrywiol, ymlusgiaid, pysgod cartilagaidd, wyau môr -gyllyll (ystifflogod), gloÿnnod byw a gwyfynod amrywiol.

Wy (hefyd ofwm) yw'r llestr organig sy'n cynnwys y sygot lle mae embryo'n datblygu, hyd nes y gall oroesi ar ei ben ei hun, ac ar yr adeg honno mae'r anifail yn deor o'r wy. Mae'r wy yn deillio o ffrwythloniad cell wy ac mae’r rhan fwyaf o arthropodau, fertebratau (ac eithrio mamaliaid sy'n cario epil byw) a molysgiaid yn dodwy wyau, er nad yw pob un, fel y sgorpionau yn gwneud hynny.

Mae wyau ymlusgiaid, wyau adar, ac wyau rhywogaethau o urdd y monotremiaid yn ddŵr wedi'u hamgylchynu gan gragen amddiffynnol, boed hyblyg neu'n anhyblyg. Mae wyau a ddodwyd ar dir neu mewn nythod fel arfer yn cael eu cadw o fewn ystod o dymheredd cynnes a ffafriol tra bod yr embryo'n tyfu. Pan fydd yr embryo wedi'i ddatblygu'n ddigonol mae'n deor, hy, yn torri allan o blisgyn yr wy. Mae gan rai embryonau ddant wy arbennig, dros dro y maent yn eu defnyddio i gracio, neu dorri plisgyn wy.

Wy'r morgi morfilaidd yw'r mwyaf a gofnodwyd, ac roedd yn 30 wrth 14 cm mewn maint.[1] Mae wyau'r Morgi morfilaidd fel arfer yn deor o fewn y fam. Yn 1.5 kg, a hyd at 17.8 cm o hyd, wy'r estrys yw wy mwyaf unrhyw aderyn byw,[2] er bod yr aderyn eliffant (a ddifodwyd) o'r teulu Aepyornithidae a rhai'r deinosoriaid nad oeddent yn adar yn fwy. Y Sïedn bychan sy'n cynhyrchu'r wyau adar lleiaf y gwyddwn amdano, ac mae un o'r rhain yn pwyso hanner gram. Gall wyau sy'n cael eu dodwy gan ymlusgiaid a'r rhan fwyaf o bysgod, amffibiaid, pryfed ac infertebratau eraill fod hyd yn oed yn llai.

Wyau gwahanol grwpiau anifeiliaid[golygu | golygu cod]

Wyau pysgod ac amffibiaid[golygu | golygu cod]

Gelwir y strategaeth atgenhedlu fwyaf cyffredin ar gyfer pysgod yw dodwyedd (oviparity), lle mae'r fenyw yn dodwy wyau heb eu datblygu sy'n cael eu ffrwythloni'n allanol gan y gwryw. Fel arfer, mae niferoedd mawr o wyau yn cael eu dodwy ar yr un pryd ee gall penfras benyw llawn dwf gynhyrchu 4-6 miliwn o wyau mewn un llwyth) ac yna gadewir yr wyau i ddatblygu heb ofal rhieni. Pan mae’r larfa’n deor o’r wy, maen nhw’n aml yn cario gweddillion y melynwy mewn sach melynwy sy’n parhau i feithrin y larfa am rai dyddiau wrth iddyn nhw ddysgu sut i nofio. Unwaith y bydd y melynwy wedi'i fwyta, mae pwynt tyngedfennol ac ar ôl hynny mae'n rhaid iddynt ddysgu sut i hela a bwydo neu byddant yn marw.

Mewn rhai sefyllfaoedd, mae rhai pysgod fel y Morgi pen morthwyl a'r siarc riff yn tyfu o fewn y fam, gyda'r wy yn cael ei ffrwythloni a'i ddatblygu'n fewnol, ond gyda'r fam hefyd yn darparu maeth uniongyrchol.

Mae wyau pysgod ac amffibiaid yn debyg i jeli. Mae wyau pysgod cartilagaidd (siarcod, morgathod, cwningod môr) yn cael eu ffrwythloni yn fewnol ac yn arddangos amrywiaeth eang o ddatblygiad embryonig mewnol ac allanol. Mae'r rhan fwyaf o rywogaethau pysgod yn silio wyau sy'n cael eu ffrwythloni'n allanol, yn nodweddiadol gyda'r gwryw yn ffrwythloni'r wyau ar ôl i'r fenyw eu dodwy. Nid oes gan yr wyau hyn gragen a byddent yn sychu yn yr awyr agored. Mae hyd yn oed amffibiaid sy'n anadlu aer yn dodwy eu hwyau mewn dŵr, neu mewn ewyn amddiffynnol fel gyda broga dringol Chiromantis xerampelina.

Wyau adar[golygu | golygu cod]

Mae wyau adar yn cael eu dodwy gan fenywod a'u deor am gyfnod sy'n amrywio yn ôl y rhywogaeth; mae un cyw yn deor o bob wy. Gall nifer yr wyau amrywio o un (fel gyda'r condor) i tua 17 (y betrisen lwyd). Mae rhai adar yn dodwy wyau hyd yn oed pan nad ydynt wedi'u ffrwythloni (ee ieir); nid yw'n anghyffredin i berchnogion anifeiliaid anwes ddod o hyd i'w hadar unigol yn nythu ar glwstwr o wyau heb eu ffrwythloni.

Lliwiau[golygu | golygu cod]

Wyau gwylogod

Lliw arferol wyau fertebrat yw gwyn, sef lliw'r calsiwm carbonad y gwneir y cregyn ohono, ond mae rhai adar, passerines yn bennaf, yn cynhyrchu wyau lliwgar. Mae'r pigment biliverdin a'i chelate sinc yn rhoi lliw gwyrdd neu las, ac mae protoporffyrin yn cynhyrchu coch a brown, yn aml, fel smotiau ar yr wy.

Cragen[golygu | golygu cod]

Mae plisgyn wyau adar yn amrywiol. Er enghraifft:

  • mae wyau'r fulfran yn arw ac yn galchog
  • mae wyau'r tinamw (Tinamiformes) yn sgleiniog
  • mae wyau'r hwyaden yn olewllyd, ac yn dal dŵr
  • mae dent ar wyau'r casowari: cafnau, neu bantiau bychan

Crewyd mandyllau bach ym mhlisg wyau adar, sy'n caniatáu i'r embryo anadlu. Mae gan wy yr iâr ddof tua 7000 o fandyllau.[3]

Siâp[golygu | golygu cod]

Model 3-D o wy

Mae gan y rhan fwyaf o wyau adar siâp hirgrwn (ofal), gydag un pen yn grwn a'r pen arall yn fwy pigfain. Mae'r siâp hwn yn ganlyniad i'r wy yn cael ei orfodi drwy'r ddwythell wyau (oviduct) gan fod y cyhyrau'n cyfangu'r ddwythell y tu ôl i'r wy, gan ei wthio ymlaen. Mae hedfan yn culhau'r ddwythell, sy'n newid y math o wy y gall aderyn ei ddodwy.[4] Yn aml mae gan adar sy'n nythu ar glogwyn wyau conigol iawn gan eu bod yn llai tebygol o rolio i ffwrdd, gan dueddu yn hytrach i rolio o gwmpas mewn cylch tynn. Dyma'r hyn a elwir yn"esblygiad trwy ddetholiad naturiol". Mewn cyferbyniad, mae gan lawer o adar sy'n nythu mewn tyllau wyau bron yn sfferig.[5]

Ysglyfaethu[golygu | golygu cod]

Mae llawer o anifeiliaid yn bwyta wyau. Er enghraifft, mae prif ysglyfaethwyr wyau'r bioden fôr ddu yn cynnwys racwniaid, drewgwn, mincod, dyfrgwn afon a môr, gwylanod, brain a llwynogod. Mae'r carlwm (Mustela erminea) a'r wenci gynffonhir (M. frenata) yn dwyn wyau hwyaid. Mae nadroedd o'r genera Dasypeltis ac Elachistodon yn arbenigo mewn bwyta wyau.

Enghreifftiau amrywiol[golygu | golygu cod]

Wyau amniotau ac embryonau[golygu | golygu cod]

Wyau crwban mewn nyth a gloddiwyd gan grwban môr cyffredin benyw (Chelydra serpentina)

Fel amffibiaid, mae amniotau yn fertebratau sy'n anadlu aer, ond mae ganddyn nhw wyau neu embryonau cymhleth, gan gynnwys pilen amniotig. Mae amniotau yn cynnwys ymlusgiaid (gan gynnwys deinosoriaid a'u disgynyddion, adar) a mamaliaid.

Mae wyau ymlusgiaid yn aml yn debyg i rwber ystwyth ac maent wastad yn wyn i ddechrau. Yn aml, tymheredd yr amgylchoedd sy'n penderfynu rhyw yr embryo mewnol, gyda thymheredd oerach yn ffafrio gwrywod. Nid yw pob ymlusgiad yn dodwy wyau; mae rhai yn geni'n fyw.

Roedd deinosoriaid yn dodwy wyau, ac mae rhai ohonynt wedi'u cadw fel ffosilau caregog.

Ymhlith mamaliaid, roedd rhywogaethau diflanedig cynnar yn dodwy wyau, fel y mae hwyatbigau ac ecidnaod (grugeirth pigog). Nid yw bolgodogion na brychiaid yn dodwy wyau, ond mae gan eu cywion heb eu geni y meinweoedd cymhleth sy'n adnabod amniotau.

Wyau mamaliaid[golygu | golygu cod]

Mae wyau'r mamaliaid (yr hwyatbig a'r ecidnaod) yn wyau macrolecital, yn debyg iawn i rai'r ymlusgiaid. Mae wyau bolgodogion yn yr un modd yn macrolecithal, ond yn llai, ac yn datblygu y tu mewn i gorff y fenyw, ond nid ydyw'n ffurfio brych. Mae'r rhai bach yn cael eu geni'n gynnar iawn, a gellir eu dosbarthu fel ‘larfa’ yn yr ystyr biolegol. [6]

Wyau infertebratau[golygu | golygu cod]

Doris croen oren (Acanthodoris lutea), noethdagellog, yn dodwy wyau mewn pwll glan môr

Mae wyau'n gyffredin iawn ymhlith infertebratau, gan gynnwys trychfilod, corynod, molysgiaid a chramenogion.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Whale Shark – Cartilaginous Fish". SeaWorld Parks & Entertainment. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-06-09. Cyrchwyd 2014-06-26.
  2. D.R. Khanna (1 January 2005). Biology of Birds. Discovery Publishing House. t. 130. ISBN 978-81-7141-933-3.
  3. "The Parts of the Egg". www.sites.ext.vt.edu. Archifwyd o'r gwreiddiol ar November 23, 2016.
  4. Young, Ed (22 June 2017). "Why Are Bird Eggs Egg-Shaped? An Eggsplainer". The Atlantic. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 24 June 2017. Cyrchwyd 23 June 2017.
  5. Yutaka Nishiyama (2012). "The Mathematics of Egg Shape". International Journal of Pure and Applied Mathematics 78: 679–689. https://ijpam.eu/contents/2012-78-5/8/8.pdf.
  6. Colbert, H.E & Morales, M. (1991): Evolution of the Vertebrates – A History of Backboned Animals Through Time. 4. utgave. John Wiley & Sons inc, New York City. 470 pages ISBN 0-471-85074-8