René Magritte

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
René Magritte
Rene Magritte by Wolleh.jpg
René Magritte gan Wolleh
Ganwyd 21 Tachwedd, 1898
Lessines, Gwlad Belg
Bu farw 15 Awst, 1967
Enwau eraill Ganwyd: René François Ghislain Magritte
Yn enwog am Swrealaeth
Galwedigaeth Arlynydd

Roedd René François Ghislain Magritte (21 Tachwedd, 1898 - 15 Awst, 1967) yn beintiwr Swrrealaidd, a adnabyddir am ei ddarluniau a heriodd dulliau arferol o weld realiti. Bu'n gyfaill i André Breton a Salvador Dalí ac yn rhan o'r grŵp celf y Swrrealyddion y 1920au. [1]

Gweithiodd am lawer o flynyddoedd fel arlunydd masnachol, yn creu hysbysebion a chloriau llyfrau, mae'n debyg cafodd steil a disgyblaeth y byd masnachol gryn ddylanwad ar ei waith ddiweddarach fel Ceci n'est pas une pipe (Nid pib yw hon).

Yn wahanol i fywydau rhemp lawer o'r Swrrealyddion eraill roedd well ganddo fywyd distaw dosbarth canol di-nod, fel y dynion hêt-bowler a ymddangosodd yn aml yn ei ddarluniau.[2]

Bywyd Cynnar[golygu]

Ganwyd René Magritte yn Lessines, talaith Hainaut, Gwlad Belg, yn 1898. Yn fab hynnaf i Léopold Magritte teiliwr a masnachwr cyfoethog. [3] [4] Dechreuodd René Magritte wersi darlunio ym 1910. Yn 1912, pan roedd Magritte yn 13 oed, fe gyflawnodd ei fam hunanladdiad gan daflu ei hun i'r Afon Sambre. Roedd hi wedi ceisio lladd ei hun nifer o weithiau o flaen gan yrru i'w gŵr ei chloi yn ei hystafell gwely, un diwrnod fe'i llwyddodd ddianc a darganfuwyd ei chorff yn ddiweddarach yn yr afon.

Yn wreiddiol, fe gredir i Magrette fod yn bresennol pan gafodd ei thynnu o'r afon, ond mae ymchwil diweddarach yn gwrthddweud yr hanes yma.[5]

Dywedir i'w fam chael ei darganfod gyda'i ffrog yn gorchuddio ei wyneb, ac awgrymir bod hyn yn ysbrydoliaeth i nifer o ddarluniau Margritte yn dangos defnydd yn cuddio wynebau’r ffigyrau, yn cynnwys Les Amants.[6]

Gyrfa[golygu]

Artistiaid o Wlad Belg, cartref Victor Servranckx (Mehefin 1922); o'r chwith i'r dde: (uchaf) René Magritte, ELT Mesens, Victor Servranckx, Pierre-Louis Flouquet, Pierre Bourgeois; (gwaelod) Georgette Berger, Pierre Broodcoorens, Henriette Flouque

Mae ei ddarluniau cynharach, yn dyddio o tua 1915, mewn arddull Argraffiadaeth (Impressionism).[5] O 1916-1918, fe astudiodd yn yr Académie Royale des Beaux-Arts ym Mrwsel, ond ni chafodd ei ysbrydoli gan y darlithwyr. Dangosodd ei ddarluniau 1918–1924 dylanwad Dyfodoliaeth (Futurism) a Ciwbiaeth a oedd yn fudiadau celfyddydol newydd, cyffroes ar y pryd.[5]

Ym 1922, priododd Magritte Georgette Berger, a chyfarfu ym 1913 pan fuont yn blant.[4]

O 1920 tan 1921 fe wasanaethodd ym myddin Gwlad Belg ac o 1922-23 fe weithiodd fel drafftsmon mewn ffactri papur wal. Bu'n cynllunydd posteri a hysbysebion tan 1926 pan gafodd gytundeb gydag Oriel Gelf ym Mrwsel a oedd yn ei alluogi rhoi'r gorau i'w swydd er mwyn canolbwyntio ar beintio ei waith ei hun.

Ym 1926 fe beintiodd ei waith swreal cyntaf Le jockey perdu ac ym 1929 fe gynhaliodd ei arddangosfa gyntaf ym Mrwsel. Cafodd ei arddangosfa ei beirniadu'n hallt ac yn siomedig gan ei fethiant symudodd i Baris ble daeth yn aelod blaenllaw o grŵp swrrealyddion André Breton.[7]

Mae llun René Magritte yn ymddangos ar arian bapur Gwlad Belg er iddo wneud arian ffug

Er waethaf ei gysylltiad gydag artistiaid fel Salvador Dalí a Marcel Duchamp a ddaeth yn enwog iawn yn ddiweddarach, bu rhaid i Margritte dychwelydd i Frwsel i weithio ar hysbysebion.[8] Fe ddechreuodd asiantaeth hysbysebu gyda'i frawd, Paul, er mwyn gwneud bywoliaeth.

Yn ystod blynyddoedd cyntaf ei yrfa, cafodd Magritte gefnogaeth y patron Edward James a adawodd iddo aros am ddim yn ei gartref yn Llundain i beintio. Mae James yn ymddangos mewn dau o ddarluniau Margreitte Le Principe du Plaisir a La Reproduction Interdite.[9]

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd fe feddiannodd Wlad Belg gan y Natsïwyr ond arhosodd Magritte ym Mrwsel er i'r Natsïwyr erlyn a lladd llawer o artistiaid modern.

Yn 1943-44 fe beintiodd mewn steil lliwgar, bywiog fel ymateb i broblemau bywyd y rhyfel. Ym 1946 arwyddodd y maniffesto surréalisme en plein soleil gyda nifer o arlunwyr eraill. Yn ystod y cyfnod yma fe gynhaliodd ei hun trwy beintio copïau ffug o waith Picasso a Braque, yn ddiweddarach fe aeth ymlaen i ffugio papur arian. [10] Ar ddiwedd 1948, fe ddychwelodd i'w steil a themau swreal o gyn y rhyfel.

Amgueddfa Magritte, Rue de la Régence 3, 1000 Bruxelles, Gwlad Belg

Roedd Magritte arfer ail wneud, neu wneud addasiadau o'r un delweddau trwy ei yrfa yn arbennig ar ôl iddo ddechrau ennill enw ar ôl yr ail ryfel byd. Er enghraifft mae dros 20 fersiwn o L'Empire des lumières (Ymerodraeth y golau) – delwedd o stryd yn y nos o dan awyr las a chymylau'r prynhawn.

Bu farw Magritte o gancer ar 15 Awst, 1967 ym Mrwsel. Fel llawer o arlunwyr eraill fe gynyddodd ddiddordeb yn eu gwaith yn dilyn eu marwolaeth wrth iddo fod yn ddylanwad ar gelf Pop y 1960au. [11]

Yn 2005 fe ddaeth yn nawfed yng nghystadleuaeth De Grootste Belg (Y Belgiad Gorau)[12] yn Walonia (rhan Ffrangeg ei iaith o Wlad Belg) a 18fed yn Fflandrys (Rhanbarth gogleddol, Iseldireg ei iaith).

Yn 2009 agorwyd Amgueddfa Magritte mewn adeilad pump llawer ym Mrwsel, yn arddangos dros 200 o'i weithiau. Mae ei hen gartref yn 135 Rue Esseghem hefyd wedi'i droi'n amgueddfa ble cafodd Olympia (portread o'i wraig, 1948) ei ddwyn gan ladron arfog yn 2009. Credir i'r darlun fod yn werth dros $1 miliwn ond roedd y lladron yn methu ei werthu ar y farchnad du oherwydd ei enwogrwydd ac fe ddychwelwyd y darlun yn 2012.


Dolenni Allanol[golygu]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i:



Cyfeiriadau[golygu]

  1. http://www.musee-magritte-museum.be/Typo3/index.php?id=65
  2. http://www.theartstory.org/artist-magritte-rene.htm
  3. http://www.theartstory.org/artist-magritte-rene.htm
  4. 4.0 4.1 Meuris 1991, p 216.
  5. 5.0 5.1 5.2 Calvocoressi 1990, p. 9.
  6. "National Gallery of Australia | Les Amants [The lovers]". Nga.gov.au. http://nga.gov.au/International/Catalogue/Detail.cfm?IRN=148052. Adalwyd 2010-10-14. 
  7. ...], contributors Rachel Barnes (2001). The 20th-Century art book. (Reprinted. ed.). London: Phaidon Press. ISBN 0714835420. 
  8. Meuris 1991, p. 217.
  9. "Professor Bram Hammacher", The Edward James Foundation souvenir guide, edited Peter Sarginson, 1992.
  10. Lambith, Andrew (28 February 1998). "Ceci n'est pas an artist". The Independent (London). http://www.independent.co.uk/life-style/ceci-nest-pas-an-artist-1147477.html. Adalwyd 22 May 2010. 
  11. Calvocoressi 1990, p. 26.
  12. http://en.wikipedia.org/wiki/De_Grootste_Belg
  • Allmer, Patricia (2009). René Magritte - Beyond Painting. Manchester: Manchester University Press. ISBN 0-7190-7928-4. 
  • Bertolucci, Bernardo; Gérard, F. S.; Kline, T. J. (2000). Bernardo Bertolucci: Interviews. Jackson: Miss. ISBN 1-57806-205-5. 
  • Calvocoressi, Richard (1990). Magritte. New York: Watson-Guptill. ISBN 0-8230-2962-X. 
  • Fragola, Anthony; Smith, Roch C. (1995). The Erotic Dream Machine: Interviews with Alain Robbe-Grillet on His Films. SIU Press. ISBN 0-8093-2004-5. 
  • Kaplan, Gilbert E. and Baum, Timothy (1982). The Graphic Work of René Magritte. Two Editions. ISBN 0-686-39199-3. 
  • Levy, S (1997). Surrealism: Surrealist visuality. Edinburgh: Keele University Press. ISBN 1-85331-193-6. 
  • Meuris, Jacques (1991). René Magritte. Cologne: Benedikt Taschen. ISBN 3-8228-0546-7. 
  • Roisin, Jacques (1998). Ceci n'est pas une biographie de Magritte. Bruxelles: Alice Editions. ISBN 2-930182-05-9. 
  • Spitz, Ellen Handler (1994). Museums of the Mind. Yale University Press. ISBN 0-300-06029-7. 
  • Sylvester, David (1992). Magritte. Abrams. ISBN 0-500-09227-3. 
  • West, Shearer (1996). The Bullfinch Guide to Art. UK: Bloomsbury Publishing Plc. ISBN 0-8212-2137-X. 


Baner Gwlad BelgEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Felgiad. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.