Gian Lorenzo Bernini
Oddi ar Wicipedia
Pensaer a cherflunydd Eidalaidd oedd Gian Lorenzo Bernini (7 Rhagfyr 1598 - 28 Tachwedd 1680). Ysgrifennir ei enw cyntaf hefyd fel Gianlorenzo. Gweithiai yn yr arddull Baroc.
Gabed Bernini yn Napoli. Rhwng 1656 a 1667, bu'n gyfrifol am adeiladu'r Piazza San Pietro yn Rhufain, y sgwar o flaen Basilica Sant Pedr, ar orchymyn Pab Alexander VII. O gwmpas y sgwar mae 284 o golofnau Dorig, gyda 140 o gerfluniau arnynt. Yn y canol, mae obelisc Eifftaidd, a gariwyd i Rufain yn 39 OC ar orchynyn yr ymeradwr Caligula.
Bu gan Bernini, gyda'i gystadleuydd mawr Francesco Borromini, ddylanwad fawr ar gynllun dinas Rhufain fel y mae heddiw. Mae hefyd yn adnabyddus fel cerflunydd; ei waith enwocaf efallai yw ei gerflun Dafydd.
Gweithiau Bernini [golygu]
- Pont yr Angylion yn Rhufain
- Piazza San Pietro yn Rhufain
- Baldachin Bernini ym Masilica Sant Pedr, Rhufain
- Beddrod Alexander VII
- Dafydd yn yr amgueddfa Galleria Borghese yn Rhufain
- Apollo a Daphne yn y Galleria Borghese
- Neifion a Triton