Baróc

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Arddull arbennig mewn pensaernïaeth, cerddoriaeth a'r celfyddydau a fu'n boblogaidd rhwng diwedd yr 17eg ganrif a chanol y 18fed ganrif, yn enwedig yng ngwledydd Catholig Ewrop, yw Baróc (benthyciad o'r gair Saesneg Baroque sydd yn ei dro yn fenthyciad o'r gair Ffrangeg baroque o'r gair Sbaeneg barrueco). Mae'r term yn cael ei ddefnyddio weithiau i ddisgrifio unrhyw arddull anghyffredin yn y celfyddydau a.y.y.b. yn ogystal. Gellid ystyried yr arddull Baróc fel adwaith yn erbyn Clasuriaeth y Dadeni. Dechreuodd yn yr Eidal.

Abaty Melk, Awstria: enghraifft enwog o bensaernïaeth faróc

Fe'i nodweddir mewn pensaernïaeth ac arlunio gan y defnydd o linellau ystwyth neu dorredig, arddurnwaith blodeuog a goreuraidd (a arweiniodd at yr arddull Rococo) ac effeithiau gofodol dramatig. Ymhlith yr artistiaid baroc pwysicaf gellid crybwyll Bernini, Borromini, Caravaggio a Rubens.

Mewn cerddoriaeth gelwir cyfansoddiadau gan gyfansofddwyr fel Johann Sebastian Bach a Monteverdi yn gerddoriaeth Faroc. Dyma'r cyfnod a welai ddatblygiad yr opera, yr oratorio, y trio sonata a'r concerto grosso (gweler Arcangelo Corelli, er enghraifft).

Mewn llenyddiaeth mae Baróc yn derm llai pendant a diffiniedig. Gellid ystyried nofelau picaresg y cyfnod yn enghraifft. Roedd yn ddylanwad pwysig ar lenyddiaeth y cyfnod yn ogystal, yn enwedig yn Ffrainc, yr Eidal, de'r Almaen a Sbaen.

Rhai cyfansoddwyr Baróc[golygu]

Gweler hefyd[golygu]