Claudio Monteverdi

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Claudio Monteverdi

Cyfansoddwr ac offeiriad Eidalaidd oedd Claudio Monteverdi (bedyddiwyd 15 Mai 1567 - bu farw 29 Tachwedd 1643). Mae ei waith fel cyfansoddwr yn garreg filltir bwysig sy'n nodi'r trawsnewid o gerddoriaeth y Dadeni i gerddoriaeth Faróc.[1]

Bywyd personnol[golygu]

Penddelw o Claudio Monteverdi yng 'Ngerddi Ioan Pawl II', yn Cremona, yr Eidal.

Fe'i ganwyd yn Cremona'n fab i'r meddyg Baldassare Monteverdi. Yn 1599 priododd y gantores llys Claudia Cattaneo,[2] a fu farw ym Medi 1607.[3] Roedd ganddynt ddau fab (Francesco a Massimilino) a merch (Leonora). Bu farw merch arall yn union wedi' enedigaeth.[4]

Yn 1632 fe'i ordeiniwyd yn offeiriad Pabyddol.[5]

Bu farw Monteverdi yn Fenis ar 29 Tachwedd 1643, ar ôl cystudd byr, a chladdwyd ef yn y Basilica di Santa Maria Gloriosa dei Frari.

Ei waith fel cyfansoddwr[golygu]

Yr oedd yn un o arloeswyr mwyaf blaenllaw dwy arddull gerddorol: 'Deulais y Dadeni' (Renaissance polyphony) a'r basso continuo, dau o dechnegau pwysicaf y Baróc.[6] Cyfansoddodd Monteverdi un o'r operau cyntaf erioed: y L'Orfeo, a dyma'r opera hynaf - sy'n dal i gael ei chanu'n rheolaidd heddiw. Caiff Monteverdi ei ystyried yn gyfansoddwr sydd a ddarganfu ei lais ei hun; llais newydd, gwahanol a chafodd y clod teilwng yn ystod ei oes yn ogystal ag wedyn.[7]

Yn ystod ei flynyddoedd olaf, mewn cyfnod o salwch, y cyfansoddodd ddau o'i gampweithiau gorau: Il ritorno d'Ulisse in patria (Dychweliad Ulysses, 1641), a'r opera hanesyddol L'incoronazione di Poppea (Coroni'r Poppea, 1642), sy'n seiliedig ar fywyd yr Ymerawdwr Nero.[8] Cyfrifir y L'incoronazione yn hynod bwysig, ei fagnum opus, ac mae'n cynnwys golygfeydd sy'n gymysgedd o drasiedi, rhamant a hwyl - yn union fel bywyd ei hun. Caiff hefyd ei gyfri fel llafn y swch Faróc, a dorrodd dir newydd, gyda'i gymeriadau real a'i gynghanedd cerddorol cynnes.[9] Hyd at y 1960 ystyriwyd ei weithiau drwy lygad yr hanesydd yn hytrach na'r cerddor, ond ers hynny fe'i gosodir ar lwyfan llawer uwch, yn enwedig The Coronation of Poppea, sy'n cael ei chanu heddiw ledled y byd.

Mae'r beddrod yn y Basilica di Santa Maria Gloriosa dei Frari

Y madrigalau[golygu]



Recordiad byw

Problemau wrth chwarae'r ffeiliau hyn? Gweler cymorth gyda ffeiliau sain a fideo.

Ar fadrigalau y gweithiod hyd nes oedd yn ei bedwar-degau, a chyfansoddodd naw llyfr. Cymerodd bedair blynedd i orffen ei lyfr cyntaf o 21 madrigal, ar gyfer 5 llais. [10] Fel cyfanwaith, gellir olrhain yr esblygiad o gerddoriaeth y Dadeni i arddull 'fonodig' cerddoriaeth Faróc yn y gweithiau hyn.

Yn dilyn ei farwolaeth[golygu]

Yn ogystal â nifer o enwau ffyrdd, neilltuwyd hefyd asteroid i'w goffáu: 5063 Monteverdi.[11] Ceir nifer o gorau a llefydd hefyd sy'n dwyn ei enw: Grŵp Polyffonig Claudio Monteverdi, Crema di Claudio Monteverdi Coro a Chôr Monteverdi.

Cyfansoddiadau[golygu]

Cyfansoddodd Monteverdi o leiaf deunaw opera. Dim ond yr isod sydd wedi goroesi[golygu]

Gweithiau seciwlar a chrefyddol[golygu]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. William D. Halsey; Ed. Collier's Encyclopedia. Cyfrol. 16. Efrog Newydd: MacMillan Educational Company; 1991
  2. Whenham, John, and Richard Wistreich, eds. The Cambridge Companion to Monteverdi. Gwasg Prifysgol Caergrawnt, 2007.
  3. Whenham, John, and Richard Wistreich, eds. The Cambridge Companion to Monteverdi. Gwasg Prifysgol Caergrawnt, 2007, 66.
  4. Ringer, Mark. Opera's First Master: The Musical Dramas of Claudio Monteverdi. Canada: Amadeus Press, 2006,[angen y dudalen].
  5. Marthaler, Benard L., ed. New Catholic Encyclopedia 2nd ed. Detroit: Thomson Gale, 2003.
  6. Ringer, Mark. Opera's First Master: The Musical Dramas of Claudio Monteverdi. Canada: Amadeus Press, 2006.[angen y dudalen]
  7. Mark Ringer; Opera's First Master: The Musical Dramas of Claudio Monteverdi; Canada: Amadeus Press; 2006
  8. Sadie, Stanley, gol. The New Grove Dictionary of Music and Musicians 2nd ed. Llundain: MacMillan Publishers Limited, 2001.
  9. Arnold, Denis, a Nigel Fortune, eds. The New Monteverdi Companion. Llundain: faber and faber, 1985,[angen y dudalen].
  10. Schrade, Leo. Monteverdi: Creator of Modern Music. New York: W. W. Norton & Company, 1950.
  11. Halsey, William D., ed. Collier's Encyclopedia. Vol. 16.. Efrog newydd: MacMillan Educational Company, 1991.

Dolenni allanol[golygu]

Baner yr EidalEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Eidalwr neu Eidales. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.