Caravaggio

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Darlun sialc o Caravaggio gan Ottavio Leoni, tua 1621

Arlunydd o'r Eidal oedd Michelangelo Merisi da Caravaggio (28 Medi 157118 Gorffennaf 1610). Caiff ei osod yn gyffredin yn yr ysgol Baróc; ef oedd cynrhychiolwr adnabyddus cyntaf yr arddull yma o ddarlunio.

Daeth i Rufain o Milano ym 1592, pan oedd yr arddull o beintio a elwir yn manierismo ar y blaen. Yn wreiddiol fe arbenigai mewn peintio ffrwythau a blodau (pwnc traddiodadol i beintwyr o Lombardia), ond fe ddatblygodd i ddarlunio ffigyrau dynol, gan gynnwys peintiadau "genre" o fywyd pob dydd. Ymhen tipyn fe ddaeth yn beintiwr i'r cardinal Francesco Maria del Monte. Ei ddarluniau mawr cyhoeddus cyntaf oedd Galwedigaeth Sant Mathew a Merthyrdod Sant Mathew yn San Luigi, eglwys y Ffrancod yn Rhufain. Fe beintiodd cymysgedd o weithiau crefyddol, rhai mytholegol a phortreadau o hyn ymlaen. Roedd yn enwog am realaeth ei ddarluniau, a oedd weithiau'n ysgytiol i'w gyfoedwyr. Roedd ei ddefnydd o olau a thywyllwch, neu chiaroscuro, yn enwedig o feistrolgar a dylanwadol.

Roedd ei fywyd yn gythryblys o fry; ffodd o Rufain ym 1606 ar ôl lladd gŵr o'r enw Ranuccio Tomassoni mewn gornest ar gwrt tenis. Ffodd yn gyntaf i Napoli ac yna i Malta. Yno e ddaeth yn farchog yn Urdd Sant Ioan o Jerwsalem, ac fe beintiodd ddarlun o Ddienyddiad Ioan Fedyddiwr uwchben allor y marchogion yng nghadeirlan Valletta. Ond ymhen llai na blwyddyn fe'i fwrwyd allan o Urdd Sant Ioan ar ôl iddo ymosod ar farchog arall. Teithiodd hyd a lled Sisili a Napoli yn ceisio osgoi ei elynion, ac fe fu farw o dwymyn yn Porto Ercole yn Toscana ym 1610, yn 38 oed.


Flag of Italy.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Eidalwr neu Eidales. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato

Offer personol
Parthau

Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill