Arcangelo Corelli

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Corelli

Cyfansoddwr a fiolinydd o'r Eidal oedd Arcangelo Corelli (1653 - 1713).

Cyfansoddodd nifer o sonatas i'r fiolin ac yn ogystal sefydlodd y concerto grosso fel ffurf gerddorol. Daeth y concerto grosso, sy'n cyferbynu grŵp bach o offerynnau â cherddorfa lawn, yn un o hoff ffurfiau'r cyfansoddwyr baroc yn y 18fed ganrif.

Gwaith mwyaf adnabyddus Corelli yw Concerto'r Nadolig.

Gwaith cerddorol[golygu]

Mae chwech opus yn cael eu derbyn fel gwaith Corelli, ynghŷd ag ambell waith arall:

  • Opus 1: 12 sonatas da chiesa (trio o sonatas i 2 fiolin a continuo) (Rhufain 1681)
  • Opus 2: 12 sonatas da camera (trio o sonatas i 2 fiolin a continuo) (Rhufain 1685)
  • Opus 3: 12 sonatas da chiesa (trio o sonatas i 2 fiolin a continuo) (Rhufain 1689)
  • Opus 4: 12 sonatas da camera (trio o sonatas i 2 fiolin a continuo) (Rhufain 1694)
  • Opus 5: 12 Suonati a violino e violone o cimbalo (6 sonatas da chiesa a 6 sonatas da camera i fiolin a continuo) (Rhufain 1700)
  • Opus 6: 12 concerti grossi (8 concerti da chiesa a 4 concerti da camera i'r concertino o 2 fiolin a tsielo, ripieno llinynnol a continuo) (Amsterdam 1714)
  • op. post.: 6 Sonate a tre WoO 5–10 (Amsterdam 1714)
Baner yr EidalEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Eidalwr neu Eidales. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.