Catalwnia
- Mae'r erthygl yma yn trafod y gymuned ymreolaethol bresennol. Am y dywysogaeth hanesyddol, gweler Tywysogaeth Catalonia.
|
|||
![]() |
|||
| Prifddinas | Barcelona | ||
| Arwynebedd – Cyfanswm – % o Sbaen |
Rhenc 6fed 32,114 km² 6.3% |
||
| Poblogaeth – Cyfanswm – % o Sbaen – Dwysedd |
Rhenc 2fed 7,083,618 15.98% 220.57/km² |
||
| ISO 3166-2 | CT | ||
| Arlywydd y Generalitat | Artur Mas (CiU) | ||
| Generalitat de Catalunya | |||
Mae Cymuned Ymreolaethol Catalwnia (Catalaneg: Catalunya, Araneg: Catalonha Sbaeneg: Cataluña) yn un o gymunedau ymreolaethol Sbaen, ond hefyd yn cael ei chyfrif fel gwlad ar wahan gan lawer o'r trigolion.
Mae Catalwnia yng ngogledd-ddwyrain Iberia, yn ffinio â Ffrainc ac Andorra i'r gogledd, â Môr y Canoldir yn y dwyrain, â chymuned ymreolaethol Aragón yn y gorllewin. Mae Ynysoedd Medas hefyd yn rhan o Gatalonia.
Rhennir Catalonia yn bedair talaith:
Mae'r taleithiau hyn yn cymeryd eu henwau o'u prifddinasoedd: Barcelona, Girona, Lleida a Tarragona.
Cynnwys |
Hanes[golygu]
Yn 1164, casglodd Alfonso II, brenin Aragón deyrnas Aragón, Tywysogaeth Catalwnia, Terynas Mallorca, Teyrnas Valencia, Teyrnas Sicilia, Corsica a thiriogaethau eraill dan un goron. Yn 1289 yn y Cortes de Monzón enwyd y tiriogaethau fel Corona de Aragón y de Cataluña, a dalfyrrwyd yn ddiweddarach i Corona de Aragón, Coron Aragón.
Ieithoedd[golygu]
Mae tair iaith swyddogol yng Nghatalwnia: Catalaneg, Sbaeneg ac Araneg, a siaredir yn Val d'Aran yn y gogledd-orllewin. Mae canran uchel ym medru Catalaneg:
| Catalaneg | ||
|---|---|---|
| Yn medru | Nifer | Canran |
| Deall | 5.872.202 | 94,5% |
| Siarad | 4.630.640 | 74,5% |
| Darllen | 4.621.404 | 74,4% |
| Ysgrifennu | 3.093.223 | 49,8% |
| Cyfanswm | 6.215.281 | 100% |
Chwaraeon[golygu]
Er bod gan y wlad ei thîm pêl-droed cenedlaethol, nid oes gan Catalwnia statws fel gwlad bêl-droed gydnabyddiaedig gan UEFA ac FIFA. Serch hynny ceir ymgyrch i ennill y statws yma a chwaraeir gemau di-statws gan y tîm.
Gweler hefyd[golygu]
