Harpo Marx
Oddi ar Wicipedia
Harpo Marx ym Monkey Business
Yr oedd Adolph Arthur Schoënburg Marx, enw llwyfan Harpo Marx (23 Tachwedd 1888 - 28 Medi 1964) yn actor a chomediwr Americanaidd. Mae'n adnabyddus fel un o'r Brodyr Marx.
Ganed Harpo yn Ninas Efrog Newydd yn 1888. Gyda'i frodyr Chico (Leonard), Groucho (Julius Henry) a Zeppo (Herbert), serennodd mewn nifer o ffilmiau comedi rhwng 1926 a diwedd y 1950au. Roedd ei gymeriad yn fud, yn chwarae'r delyn ac yn actio'n blentynaidd neu'n gwbl wallgof, gan amlaf yng nghwmni Chico.
Gweler hefyd [golygu]
Am restr o'i ffilmiau gweler Brodyr Marx.