St. Arvans

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Eglwys Arfan Sant, St. Arvans.

Pentref a chymuned yn Sir Fynwy yw St. Arvans (Cyfeirnod OS: ST516966). Efallai fod ffurf Gymraeg, Llanarfan, ar yr enw ar un adeg, ond yn sicr St Arwyn oedd yr hyn a ysgrifenid yn 1307 a Santo Arwino yn 1193. Saif y pentref tua dwy filltir i'r gogledd o dref Cas-gwent, heb fod ymhell o Gae Rasio Ceffylau Cas-gwent. Roedd poblogaeth yn gymuned yn 2001 yn 710.

Cysegrir yr eglwys i Sant Arfan. Yn ôl traddodiad, roedd yn feudwy o'r 9g, a foddodd tra'r pysgota yn Afon Gwy yn ei gwrwgl. Mae'r fynwent gron yn awgrymu fod y fan yn sefydliad Celtaidd cynnar, ond mae'r eglwys bresennol yn dyddio o'r cyfnod Normanaidd.

Cyfrifiad 2011[golygu | golygu cod y dudalen]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[1][2][3][4]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned St. Arvans (pob oed) (765)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (St. Arvans) (61)
  
8.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (St. Arvans) (331)
  
43.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(St. Arvans) (112)
  
35.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. http://www.ons.gov.uk/ons/rel/census/cyfrifiad-2011/ystadegau-allweddol-ar-gyfer-awdurdodau-unedol-yng-nghymru/stb-2011-key-statistics-for-wales---welsh.html. Adalwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  2. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  3. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013