Y Gymanwlad
- Erthygl am Y Gymanwlad yw hon. Am ddefnyddiau eraill o'r gair gweler Cymanwlad (gwahaniaethu).
Cymdeithas o wledydd a gwladwriaethau annibynnol yw'r Gymanwlad. Y Deyrnas Unedig a'i chyn wladfeydd sy'n ffurfio mwyafrif llethol aelodau'r Gymanwlad. Ail dydd Iau mis Mawrth yw Dydd y Gymanwlad.
Mae brenhines y DU yn ben gwladwriaeth mewn nifer o aelod-wladwriaethau, sef yn Nheyrnasoedd y Gymanwlad. Mae mwyafrif aelodau y Gymanwlad yn weriniaethau neu yn deyrnasau. Ond mae pob un ohonynt yn cydnabod y Elisabeth II fel pen y Gymanwlad.
Hanes ac aelodaeth[golygu | golygu cod]
Olynydd yr Ymerodraeth Brydeinig yw'r Gymanwlad. Dechrau ffurfiol y Gymanwlad oedd y Cynadleddau Imperialaidd tua diwedd y 1920au, sef cynadleddau o Brif Weinindogion Prydain a'i (chyn)wladfeydd. Yn y cynadleddau hyn fe gydnabyddwyd annibyniaeth gwladfeydd a oedd yn rheoli eu hunain. Fe gydnabyddwyd perthynas gyfartal gwledydd y Gymanwlad yn fffurfiol yn Statud Westminster ym 1931.
Wedi'r ail ryfel byd roedd yr Ymerodraeth Brydeinig yn datgymalu o dipyn i beth. Roedd nifer cynyddol y cyn wladfeydd yn ennill eu hannibyniaeth yn rhannol oherwydd twf mudiadu dros annibyniaeth (fel ag yn yr India o dan ddylanwad Mohandas Gandhi) ac yn rhannol oherwydd bod llywodraeth Prydain o dan straen cyllidol wedi'r Ail Ryfel Byd. Fe ymunodd pob gwladfa flaenorol heblaw am ambell wlad tebyg i Myanmar (a elwir yn awr yn Myanmar; 1948) a De Iemen (1967). Bu Iwerddon yn aelod hefyd, ond gadawodd wedi iddi droi yn weriniaeth ym 1949. Ar hyn o bryd mae tua 30% o boblogaeth y byd yn drigolion y Gymanwlad.
Gall pa wlad bynnag sy'n cydnabod amcanion y Gymanwlad ymuno, ond fel arfer mae'n rhaid bod cysylltiad cyfansoddiadol rhwng yr aelod â'r DU neu unrhwy aelod arall y Gymanwlad. Gan hynny, mae rhai gwledydd y Môr Tawel yn aelodau yn sgil eu cyn rwymau ag Awstralia. Mae Namibia yn aelod oherwydd iddi gael ei rheoli gan De Affrica o 1920 hyd at 1990, sef blwyddyn ei hannibyniaeth. Ymunodd Camerŵn ym 1995 serch nad ond rhan fechan o'r wlad oedd wedi ei weinyddu gan Brydain. Yn eithriad nad oedd i osod cynsail cafodd Mosambic ymuno er nad oedd eriod wedi ei reoli gan Brydain nag unrhyw aelod arall y Gymanwlad.
Gwaharddwyd aelodaeth Ffiji a Phacistan am amser o achos cwymp eu llwyodraeth democrataidd a sefydliad llywodraeth milwrol. Gwaharddwyd De Affrica yn ystod adeg Apartheid ac ni ailgydiodd yn ei haelodaeth hyd at 1994. Gwaharddwyd Nigeria rhwng 1995 a 1999 a Simbabwe ers 2002 oherwydd problemau polisiau Robert Mugabe.
Strwythr ac amcanion[golygu | golygu cod]
Elisabeth II yw pen y sefydliad. Ers 1965 mae Swyddfa'r Gymanwlad yn Llundain. Ar hyn o bryd Don MacKinnon, a oedd gynt yn Weinidog Tramor Seland Newydd, yw Ysgrifennydd Cyffredinol y Gymanwlad.
Mae cynhadledd yr aelod-wladwriaethau yn digwydd bob yn ail flwyddyn. Er bod hynny yn gyfle i bobl o wledydd cyfoethog a gwledydd tlawd siarad a phenderfynu gyda'i gilydd, bu y berthynas rhwng Prydain a gwledydd Affrica yn oeri ers problemau Rhodesia, yn y 1970au, ac apartheid yn Ne Affrica, yn y 1980au. O ganlyniad, bu aelodau yn cryfhau eu perthynas â gwledydd eraill ac yn sgil hynny lleihaodd nerth gwleidyddol ac economaidd y Gymanwlad.
Heddiw, hybu cydweithrediad rhwng gwledydd, cryfhau iawnderau dynol a democratiaeth yw gwaith pennaf y Gymanwlad.
Aelodau[golygu | golygu cod]
(yn nhrefn y cyfandiroedd a blwyddyn eu hymuno)
Canada (1931)
Jamaica (1962)
Trinidad a Tobago (1962)
Barbados (1966)
Bahamas (1973)
Grenada (1974)
Dominica (1978)
Sant Lwsia (1979)
Sant Vincent a'r Grenadines (1979)
Antigwa a Barbiwda (1981)
Belîs (1981)
Sant Kitts-Nevis (1983)
De Affrica (1931; gadawodd ym 1961 ond ail-ymunodd ym 1994)
gwaharddwyd yn 2002 a gadawodd yn 2003Simbabwe
Ghana (1957)
Nigeria (1960; gwaharddwyd ym 1995 ond ail-ymunodd ym 1999)
Sierra Leone (1961)
Tansanïa (1961)
Wganda (1962)
Cenia (1963)
Malawi (1964)
Sambia (1964)
Botswana (1966)
Lesotho (1966)
Mawrisiws (1968)
Gwlad Swasi (1968)
Seychelles (1976)
Namibia (1990)
Mosambic (1995)
Camerŵn (1995)
India (1947)
Pacistan (1947; gadawodd ym 1972 ond ail-ymunodd ym 1989)
Sri Lanca (1948)
Maleisia (1957)
Singapôr (1965)
Bangladesh (1972)
Maldives (1982)
Brwnei (1984)
Awstralia (1931)
Seland Newydd (1931)
Samoa (1970)
Tonga (1970)
Ffiji (1970; gadawodd ym 1987 ond ail-ymunodd ym 1997)
Papwa Gini Newydd (1975)
Ynysoedd Solomon (1978)
Fanwatw (1980)
Twfalw (1978)
Ciribati (1979)
Nawrw (1999)
Aelodau gwaharddedig ar hyn o bryd:
Cyn aelodau:
Gweler hefyd[golygu | golygu cod]
- Organisation international de la Francophonie Sefydliad ryngwladol iaith Ffrangeg