Datgysylltu'r Eglwys Anglicanaidd yng Nghymru

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Datgysylltu'r Eglwys Anglicanaidd yng Nghymru oedd un o bynciau gwleidyddol a chrefyddol mwyaf chwerw y bedwaredd ganrif ar bymtheg yng Nghymru. Yn hanesyddol ac yn gyfreithiol, caif y Mesur hwn ei gyfri'n gam pwysig gan mai dyma un o'r troeon cyntaf i ddarn o gyfraith gwlad gael ei greu'n benodol am Gymru, yn hytrach nac am Gymru a Lloegr.[1]

Yng Nghymru fe'i gwelwyd fel coron ar waith a brwydrau hir a gychwynwyd yng nghanol y 19g gyda'r Anghydffurfwyr yn ei harwain, ymgyrchoedd megis Rhyfel y Degwm pan ataliodd cannoedd o bobl rhag talu arian prin (degfed rhan o'u hincwm) i'r Eglwys yn Lloegr. Ym mhlith yr ymgyrchwyr hyn yr oedd Thomas Gee, Tom Ellis a Chymru Fydd.

Gyda sefydlu'r Liberation Society yn 1844 troes yr holl eglwysi Anghydffurfiol, gan gynnwys y Methodistiaid Calfinaidd, i gefnogi'r alwad. Ar ôl dros 60 mlynedd o ymgyrchu a dadlau pasiwyd mesur i ddatgysylltu'r eglwys yn Senedd San Steffan yn 1914 ond oherwydd y Rhyfel Byd Cyntaf ni ddaeth i rym tan 1920.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Philip Bell, Irish and Welsh Disestablishment (1969)
  • K.O. Morgan, Freedom or Sacrilege? (1966)
  • David Walker (gol.), A History of the Church in Wales (1976)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Philip Jenkins, A History of Modern Wales 1536–1990 (Harlow: Longman, 1992)
Baner CymruEicon awrwydr   Eginyn erthygl sydd uchod am hanes Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Cruz template.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Gristnogaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.