Baner Gogledd Macedonia

Oddi ar Wicipedia
Baner Gogledd Macedonia
Enghraifft o'r canlynolbaner cenedlaethol Edit this on Wikidata
Lliw/iaucoch, melyn Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu5 Hydref 1995 Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Baner Gogledd Macedonia

Mae baner Gogledd Macedonia yn cynrychioli codiad yr haul: mae ganddi gylch melyn yng nghanol maes coch gydag wyth paladr o olau yn ymestyn i ymylon y faner.

Fel rhan o Iwgoslafia, Macedonia oedd yr unig weriniaeth ffederal nad oedd yn defnyddio'r lliwiau Pan-Slafaidd (sef coch, glas, a gwyn). Baner Gweriniaeth Sosialaidd Macedonia oedd maes coch gyda seren goch ag ochrau aur yn y canton.

Pan enillwyd annibyniaeth yn 1992, mabwysiadodd Gyn-weriniaeth Iwgoslafaidd Macedonia faner goch gyda Seren Vergina (symbol a ddarganfuwyd ym medd Philip II, brenin Macedon, tad Alecsander Fawr) yn ei chanol. Arweiniodd hyn at wrthwynebiad gan Wlad Groeg (gweler anghydfod enw Macedonia), sy'n honni taw symbol Groegaidd yw'r Seren. O ganlyniad mabwysiadwyd y dyluniad cyfredol ar 5 Hydref, 1995, gydag haul disglair yn lle Seren Vergina.

Ffynonellau[golygu | golygu cod]

  • Complete Flags of the World (Dorling Kindersley, 2002)