Baner Dominica

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
FIAV 111111.svg Baner Dominica. Cymesuredd 1:2

Mabwysiadwyd baner Dominica yn swyddogol ar 3 Tachwedd 1978 ond mae wedi cael y nodwedd neilltuol o gael ei ailwampio dair gwaith ers hynny. Ni ddylid cymysgu baner Dominica gyda baner Gweriniaeth Dominica, sef baner y genedl sy'n rhannu ynys Hispanola gydag Haiti. I ychwanegu at y drwswch, mae'r ddau genedl wedi eu lleoli ym Môr y Caribî, ond tra bod Dominica yn gyn-drefedigaeth Brydeinig, mae Gweriniaeth Dominica yn cyn-drefedigaeth Sbaeneg.

Dyluniad a Symboliaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Dylunwyd y faner wreiddiol gan y dramodydd Alwin Bully yn gynnar yn 1978 wrth i'r wlad baratoi ar gyfer annibyniaeth.[1] Mae'r faner yn cynnwys maes werdd gyda chroes trilliw. Mae'r groes yn symbol o Gristnogaeth, sef crefydd y wladwriaeth. Mae'r groes hon yn cynnwys tri lliw (melyn, gwyn, du) sy'n cynrychioli y Drindod Sanctaidd ac mae gan bob un ohonynt ystyr:

Melyn - cynrychioli'r Haul ac amaethyddiaeth (cynhyrchu llwynau neu bananas); mae hefyd yn arwyddlun yr Indiaid cyntaf, sef yr Arawciaid a'r Carib
Gwyn - cynrychioli afonydd a ffynhonnau dwr, a phurdeb
Du - cynrychioli'r tir cyfoethog ond hefyd y boblogaeth a deilliodd o'r fasnach gaethweision. Wrth i Dominica ddiddymu caethwasiaeth yn 1833, ffodd llawer o gaethweision o ynysoedd cyfagos i'r wlad
Gwyrdd - symbol o'r llystyfiant ir

Yng nghanol y faner, ceir cylch coch gyda pharot Sisserou [2] sy'n unigryw i'r ynys ac yn cael ei chydnabod fel aderyn genedlaethol y gened. Mae'r aderyn yn brin iawn ac mewn perygl gyda dim ond oddeutu 250-300 pâr ar ôl. Mae'r aderyn yn ymgorffori'r awydd a'r ewyllys i godi mwy a mwy tuag at ddynodiad uchel. Mae ei ben, ei gwddf a'i frest yn las-fioled sy'n gwneud baner Dominica yr unig faner sy'n cynnwys y lliw porffor (ynghyd â baner dinas Malaga). Fodd bynnag, mae baner Nicaragua yn cynnwys enfys ac felly, porffor, er nad yw'r un haen o borffor. Yn ei gylch, mae lliw coch y cylch yn symbol o gyfiawnder cymdeithasol.

Mae deg seren werdd pum pwynt yn amgylchynu'r anifail. Mae pob seren yn cynrychioli un o blwyfi'r wlad.

Diwrnod y Faner[golygu | golygu cod y dudalen]

Diwrnod y faner yw 19 Hydref. Gelwir y diwrnod hefyd yn Jounen Dwapo.[1] Mae'r gair diarth yma yn dyst i'r ffaith i'r ynys am gyfod yn yr 18g fod yn drefedigaeth Ffrengig ac i Creole Ffrangeg gael ei siarad ar yr iaith. Mae'r ynys hanner ffordd rhwng ynysoedd Ffrancoffôn Guadeloupe a Martinique.

Baneri Hanesyddol[golygu | golygu cod y dudalen]

Baner Blwyddyn Disgrifiad
Flag of Dominica (1955-1965).png 1955-1965 Yn 1956, enillodd Dominica ymreolaeth o fewn Ffederasiwn Ynysoedd Windward. Mae'r faner wedi'i seilio ar y 'Blue Ensign' 'gyda arfbais o long tair mast yn agosau at borthladd Roseau.
Flag of Dominica (1965-1978).png 1965-1978 Ym 1967, daeth yn wladwriaeth cyswllt i'r Gymanwlad a dechreuodd osod cyfundrefn ddemocrataidd. Disodlwyd yr hen arfbais gan arfbais newydd y wlad.

Yn 1978, enillodd Dominica ei hannibyniaeth ac mae ei faner wedi'i man-newid sawl gwaith ers hynny.

Baner Blwyddyn Disgrifiad
Flag of Dominica (1978–1981).svg 1978–1981 Trefn lliw y bandiau yw melyn, gwyn, du. Mae'r parot yn wynebu tuag at y dde, ochr cyhwfan y faner.
Flag of Dominica (1981–1988).svg 1981–1988 Newidiodd trefn lliw y bandiau i felyn, du, gwyn. Mae hyn mewn cadw at Rheol Tintur gan fod yr hen gynllun gyda'r du ar y gwyrdd yn torri'r rheol tintur. Mae rhoi'r band gwyn rhwng y du a'r gwyrdd yn ei gwneud yn haws ac yn gliriach i'r lygad. Mae gan y sêr ffin felen.
Flag of Dominica (1988–1990).svg 1988–1990 Mae'r parot yn wynebu i'r chwith (ochr y mast, sydd yn fwy arferol mewn banereg). Mae lliwiau'r parot wedi eu newid.
Flag of Dominica.svg 1990–cyfredol Mae ffin y sêr wedi troi'n ddu. Mae lliwiau'r parot wedi tywyllu. Maen mân-newid i gymuseredd y faner.

Dolenni[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Flag template.svg Eginyn erthygl sydd uchod am faner neu fanereg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Flag of Dominica.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Ddominica. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.