Baner Colombia

Oddi ar Wicipedia
Baner Colombia
Enghraifft o'r canlynolbaner cenedlaethol Edit this on Wikidata
Lliw/iaumelyn, glas, coch Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu26 Tachwedd 1861 Edit this on Wikidata
Genrehorizontal triband Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Baner Colombia
Lluman sifil Colombia

Mabwysiadwyd baner Colombia Fawr ar 17 Rhagfyr, 1819 yn dilyn ei hannibyniaeth ar Sbaen, a chadwyd fel baner Colombia yn dilyn annibyniaeth y wlad fel gweriniaeth ar wahân yn 1930. Baner drilliw lorweddol yw hi, gyda hanner uchaf y faner yn felyn (symbol o Golombia Fawr), y chwarter nesaf i lawr yn las (i gynrychioli annibyniaeth o Sbaen) a'r chwarter isaf yn goch (am ddewrder). Lliwiau Francisco de Miranda, yr arweinydd rhyddid, ydynt. Am beth amser, trefnwyd y stribedi yn fertigol, ond adferwyd y dyluniad gwreiddiol yn 1861.

Fel baneri eraill y cyn-drefedigaethau Sbaenaidd, gosodir arfbais y wlad yn ei chanol pan defnyddir fel lluman gwladwriaethol neu lyngesol. Gosodir hirgylch glas gyda border coch a seren wen yn ei ganol yng nghanol y faner ar gyfer defnydd lluman sifil, er mwyn ei gwahaniaethu o faner Ecwador.

Ffynonellau[golygu | golygu cod]

  • Complete Flags of the World, Dorling Kindersley (2002)
Eginyn erthygl sydd uchod am Colombia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato