Baner Feneswela
![]() | |
Data cyffredinol | |
---|---|
Enghraifft o'r canlynol | baner cenedlaethol ![]() |
Lliw/iau | gwyrdd, coch, gwyn, glas ![]() |
Dechrau/Sefydlu | 12 Mawrth 2007 ![]() |
Genre | horizontal triband ![]() |
![]() |
Codwyd baner Feneswela neu baner Venezuela gyntaf ym 1806 gan y gwrthryfelwr, Francisco de Miranda. Yn ystod ei hoes mae wedi bod trwy sawl newid. Ar 1 Mai 1817 ychwanegwyd saith seren i'r faner, yna o Dachwedd 1817 wyth seren. Tra bod baner Gran Colombia ("Colombia Fawr") (1819-1830) ac yna faner Venezuela (o 1830) yn dangos dim sêr i gychwyn, dangoswyd saith sêr ar y faner o 1859, roedd eu cynrychiolaeth yn amrywio tan y deddf staduol 1954. Ers 12 Mawrth 2006, mae gan y faner Feneswela wyth seren.
Mae baner Ecwador a baner Colombia yn seiliedig ar yr un cynllun trilliw bras.
Diwrnod y Faner Feneswela yw 3 Awst. Cyn 2006 y dathlwyd y diwrnod ar 12 Mawrth. Mae gan y faner anthem genedlaethol ei hun, sef Himno de la Bandera. Ceir hefyd llw ysgrifenedig y bydd myfyrwyr yn adrodd ar Ddiwrnod y Faner (3 Awst).
Symboliaeth[golygu | golygu cod y dudalen]
Mae'n dair-lliw, mae'r lliwiau yn cael eu dehongli fel a ganlyn:[1]
- Melyn - symboli'r haul a'r pridd euraidd yn Ne America.
- Glas - annibyniaeth oddi ar Sbaen a'r môr, sy'n gwahanu Venezuela o Sbaen.
- Coch - dewrder a gwaed yn ystod chwyldro Simón Bolívar i Venezuela.
Mae wyth sêr bum-bwyntiau gwyn yn y strip las yn cynrychioli'r saith talaith a gariodd annibyniaeth, Barcelona, Cumana, Caracas, Barinas, Merida, Margarita, a Trujillo. Yn 2006 ychwanegwyr wythfed seren yn dyddio'n ôl i archddyfarniad Simón Bolívar o 1817, pan gyflwynwyd yr wythfed seren i anrhydeddu talaith Guyana.
Esblygiad Baner Feneswela[golygu | golygu cod y dudalen]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]
|