Neidio i'r cynnwys

Baner Bolifia

Oddi ar Wicipedia
Baner Bolifia
Baner wladwriaethol (swyddogol) Bolifia

Baner drilliw lorweddol gyda stribed uwch coch (i symboleiddio dewrder), stribed canol melyn (i gynrychioli cyfoeth fwynol y wlad), a stribed is gwyrdd (i symboleiddio ffrwythlondeb) yw baner Bolifia.

Ar ôl i Simón Bolívar sicrháu ymwahaniad Bolifia o Sbaen yn 1825, mabwysiadwyd baner drilliw lorweddol o stribedi coch ar y brig a'r gwaelod a gwyrdd yn y canol, gyda phum seren, o fewn plethdorchau llawryf, i gynrychioli pum adran wreiddiol y wlad. Newidiwyd y faner yn 1826 i faner drilliw lorweddol gyda stribed uwch melyn, stribed canol gwyrdd, a stribed is coch gyda'r arfbais genedlaethol yn y canol. Mabwysiadwyd y dyluniad cyfredol ar 30 Tachwedd, 1851 pan newidiwyd trefn y stribedi i goch-melyn-gwyrdd. Erbyn heddiw dim ond y faner swyddogol sydd â'r arfbais yn y canol.

Ffynonellau

[golygu | golygu cod]
  • Complete Flags of the World, Dorling Kindersley (2002)