Aberogwr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
TXiKiBoT (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: br:Aberogwr
Llinell 9: Llinell 9:
[[Categori:Pentrefi Bro Morgannwg]]
[[Categori:Pentrefi Bro Morgannwg]]


[[br:Aberogwr]]
[[en:Ogmore-by-Sea]]
[[en:Ogmore-by-Sea]]

Fersiwn yn ôl 15:38, 5 Tachwedd 2009

Pentref glan-môr ar arfordir Bro Morgannwg yn ne Cymru yw Aberogwr (Saesneg: Ogmore-by-Sea). Gorwedd tua 3 milltir i'r de o dref Pen-y-bont ar Ogwr ger aber yr afon Ogwr ym Môr Hafren.

Mae'r traeth, sy'n dywodlyd pan fo'r llanw allan, yn cynnig golygfa dros Craig y Sger allan yn y môr ac i arfordir Dyfnaint a Gwlad yr Haf ar dywydd braf. Ar ochr arall yr aber gellir gweld tywynod Merthyr Mawr. Mae'r arfordir creigiog yn atynnu dringwyr a cheir nifer o ffosilau yn y graig.

Bu'r arfordir hwn yn ddrwgenwog am longdrylliadau yn y gorffennol. Aeth nifer o longau i ddinistr ar Graig y Sger, crib isel o gerrig ysgythrog a orchuddir gan y môr pan fo'r llanw i mewn. Ar un adeg bu Aberogwr yn un o'r llefydd yng Nghymru lle arferai rhai o'r trigolion gamarwain llongau trwy chwifio llusernau a'u harwain felly i longdryllio ar y cregiau er mwyn eu hysbeilio.