Catalwnia: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
BDim crynodeb golygu |
→Gweler hefyd: gh |
||
Llinell 163: | Llinell 163: | ||
== Gweler hefyd == |
== Gweler hefyd == |
||
* [[Refferendwm ynghylch annibyniaeth Catalwnia 2014]] |
|||
* [[Refferendwm ynghylch annibyniaeth Catalwnia 2017]] |
|||
* [[Etholiad Cyffredinol Catalwnia, 2015]] |
|||
* [[Esquerra Republicana de Catalunya]]: y blaid weriniaethol |
* [[Esquerra Republicana de Catalunya]]: y blaid weriniaethol |
||
* [[Cenedlaetholdeb Catalanaidd]] |
* [[Cenedlaetholdeb Catalanaidd]] |
Fersiwn yn ôl 23:01, 13 Medi 2017
- Mae'r erthygl yma yn trafod y gymuned ymreolaethol bresennol. Am y dywysogaeth hanesyddol, gweler Tywysogaeth Catalwnia.
Catalwnia Catalunya Catalaneg Catalonha Ocsitaneg | |||
---|---|---|---|
Cymuned ymreolaethol | |||
| |||
Anthem: Els Segadors "Y Cynaeafwyr" | |||
Leoliad Catalwnia o fewn Penrhyn Iberia | |||
Gwlad sofran | Sbaen | ||
Hanes Catalwnia | 988 (de facto) 1137 (Undeb gydag Aragon) 1716 (Nova Planta) | ||
Ystatud Ymreolaethol | 9 Medi 1932 18 Medi 1979 9 Awst 2006 (cyfredol) | ||
Prifddinas | Barcelona 41°23′N 2°11′E / 41.383°N 2.183°E | ||
Taleithiau | Barcelona, Girona, Lleida, Tarragona | ||
Llywodraeth | |||
• Math | Llywodraeth ddatganoledig o fewn brenhiniaeth gyfansoddiadol | ||
• Corff | Generalitat de Catalunya | ||
• Arlywydd | Carles Puigdemont i Casamajó (JxSí) | ||
• Deddfwrfa | Llywodraeth | ||
Arwynebedd[1] | |||
• Cyfanswm | 32,108 km2 (12,397 mi sg) | ||
Poblogaeth (2012) | |||
• Cyfanswm | 7,565,603 | ||
• Dwysedd | 240/km2 (610/mi sg) | ||
• Safle | Ail (16% o Sbaen) | ||
CMC (nominal) | |||
• Cyfanswm | $255.204 biliwn (2012) | ||
• Y pen | $33,580 (2012)[2] | ||
Parth amser | CET (UTC+1) | ||
• Summer (DST) | CEST (UTC+2) | ||
Côd | +34 93 (Barcelona) +34 97- (gweddill Catalwnia) | ||
ISO 3166 | ES-CT | ||
Ieithoedd swyddogol | Catalaneg, Sbaeneg, Ocsitaneg (Araneg) | ||
Internet TLD | .cat | ||
Nawddsant | Sant Siôr, Morwyn Montserrat | ||
Llywodraeth Catalonia | 135 dirprwy | ||
Cynghrair Dirprwyon Sbaen | 47 dirprwy (o 350) | ||
Senedd Sbaen | 16 seneddwr (o 264) | ||
Website | Generalitat of Catalonia |
Mae Cymuned Ymreolaethol Catalwnia (Catalaneg: Catalunya, Araneg: Catalonha Sbaeneg: Cataluña) yn un o gymunedau ymreolaethol Sbaen, ond hefyd yn cael ei chyfrif fel gwlad ar wahân gan ei thrigolion. Mae Catalwnia yng ngogledd-ddwyrain Iberia, yn ffinio â Ffrainc ac Andorra i'r gogledd, â Môr y Canoldir yn y dwyrain, â chymuned ymreolaethol Aragón yn y gorllewin. Mae Ynysoedd Medas hefyd yn rhan o Gatalwnia.
Yn Nhachwedd 2014 cynhaliodd Llywodraeth Catalwnia Refferendwm Catalwnia 2014, yn groes i orchymyn gan Lywodraeth Sbaen; pleidleisiodd dros 80% o blaid bod yn Wladwriaeth annibynol, gyda dros dwy filiwn o bobl wedi bwrw'u pleidlais. Ar 27 Medi 2015, cynhaliwyd Etholiad Cyffredinol Catalwnia, 2015, ble gwelwyd y pleidiau a oedd o blaid annibyniaeth yn uno gyda'i gilydd;
Cynhelir diwrnod cenedlaethol Catalwnia, sef La Diada flynyddol ar 11 Medi,[3] a gwnaed hynny ers 'Y Cyrch ar Farcelona' yn 1714. Mae'n ddiwrnod o ddathiad bodolaeth y genedl, ond hefyd yn atgoffa pobl i'r genedl golli eu system ddeddfau wedi'r cyrch hwnnw.
Rhennir Catalwnia yn bedair talaith:
Enwyd y taleithiau hyn ar ôl y dinasoedd: Barcelona, Girona, Lleida a Tarragona.
Hanes
Yn 1164, casglodd Alfonso II, brenin Aragón deyrnas Aragón, Tywysogaeth Catalwnia, Terynas Mallorca, Teyrnas Valencia, Teyrnas Sicilia, Corsica a thiriogaethau eraill dan un goron. Yn 1289 yn y Corts de Monçó enwyd y tiriogaethau fel Corona d'Aragó i de Catalunya, a dalfyrrwyd yn ddiweddarach i Corona d'Aragó, Coron Aragón.
Baneri
Y faner swyddogol yw'r La Senyera, a chaiff ei ddefnyddio hefyd ar faner Aragón, yr Ynysoedd Balearig, Valencia a dinas Alghero yn Sardinia; fe'i ceir hefyd ar arfbais y Pyrénées-Orientales, Provence-Alpes-Côte d'Azur, baner Roussillon, Capcir, Vallespir, Provence yn Ffrainc ac ar arfbais Andorra. Ar un cyfnod, deuai'r mannau hyn i gyd o dan reolaeth Coron Aragón a Iarll Barcelona a heddiw mae'r Gatalaneg wedi goroesi yma a gelwir hwy yn Països Catalans (gwledydd Catalan).
Dywedir i'r faner gael ei chreu ar ddechrau brwydr yn erbyn y Mwriaid dan eu harweinydd Lobo ibn Mohammed, pan anafwyd Carles el Calb yn ddifrifol. Gwlychodd Iarll Barcelona, Guifré el Pilós, ei fysedd yng ngwaed Carles, a'u llusgo ar hyd ei darian felen. Cododd y darian yn uchel ac arweiniodd fyddin y Catalwniaid i fuddugoliaeth. Ers hynny, caiff ei hadnabod fel Els Quatre Dits de Sang, y pedwar byd gwaedlyd.
Addasiad o'r faner yw'r Estelada (enw llawn: Senyera Estelada), sef y faner serenog. Fel arfer, ceir seren wen ar gefndir glas ac weithiau ceir seren goch ar gefndir melyn. Fe'i defnyddir gan gefnodgwyr y mudiad dros annibyniaeth Catalwnia oddi wrth Sbaen. Fe'i hysbrydolwyd gan y sêr ar faner Cwba a {Puerto Rico]], a'u brwydr hwy dros annibyniaeth oddi wrth Sbaen yn 1902 ac 1898. Fe'i lluniwyd gan Vicenç Albert Ballester, ac fe'i defnyddiwyd hi gyntaf mewn pamffled a gyhoeddwyd ar ddiwrnod cenedlaethol y genedl, sef y Diada, yn 1918.
-
Yr Estelada - baner cefnogwyr dros Annibyniaeth Catalwnia
-
Yr Estelada a godir gan weriniaethwyr, ac aelodau asgell-chwith y mudiad dros Annibyniaeth
-
Cefnogwyr F.C. Barcelona yn ffurfio'r Senyera o streipiau coch a melyn yn Camp Nou yn Hydref 2012, rhwng FC Barcelona a Real Madrid
-
Baner a ddefnyddir gan gefnogwyr F.C. Barcelona sydd o blaid Annibyniaeth.
Annibyniaeth
Yn Nhachwedd 2014 cynhaliwyd Refferendwm Catalwnia 2014, a phleidleisiodd dros 80% o blaid bod yn Wladwriaeth annibynol, gyda dros dwy filiwn o bobl wedi bwrw'u pleidlais. Ar 15 Ionawr cyhoeddodd Llywydd y wlad, Artur Mas, ei fod yn galw etholiad ar 27 Medi 2015.[4] Canlyniad y bleidlais oedd i dros 68 o'r seddi allan o gyfanswm o 135 gael eu llenwi gan gynrychiolwyr a oedd o blaid annibyniaeth.[5]
Ieithoedd
Ceir tair iaith swyddogol yng Nghatalwnia: Catalaneg, Sbaeneg ac Araneg, a siaredir yn Val d'Aran yn y gogledd-orllewin. Mae canran uchel ym medru Catalaneg:
Catalaneg | ||
---|---|---|
Yn medru | Nifer | Canran |
Deall | 5.872.202 | 94,5% |
Siarad | 4.630.640 | 74,5% |
Darllen | 4.621.404 | 74,4% |
Ysgrifennu | 3.093.223 | 49,8% |
Cyfanswm | 6.215.281 | 100% |
Un o awduron mwyaf nodedig y Gatalaneg yw Joan Oliver i Sallarès, dramodydd a bardd.
Chwaraeon
Er bod gan y wlad ei thîm pêl-droed cenedlaethol, nid oes gan Catalwnia statws fel gwlad bêl-droed gydnabyddiaedig yng ngolwg UEFA na FIFA. Serch hynny ceir ymgyrch i ennill statws swyddogol i'r tîm, a thrwy hynny i'r wlad.
Gweler hefyd
- Refferendwm ynghylch annibyniaeth Catalwnia 2014
- Refferendwm ynghylch annibyniaeth Catalwnia 2017
- Etholiad Cyffredinol Catalwnia, 2015
- Esquerra Republicana de Catalunya: y blaid weriniaethol
- Cenedlaetholdeb Catalanaidd
- Països Catalans: y tiriogaethau lle siaredir y Gatalaneg gryfaf
Cyfeiriadau
- ↑ "Indicadors geogràfics. Superfície, densitat i entitats de població: Catalunya". Sefydliad Ystadegaeth Catalwnia. Cyrchwyd 2015-11-23.
- ↑ National Statistics Office (Spain's GDP and GRP), National Statistics Office. Niferoedd CMC ar gyfer y Cymunedau Ymreolaethol a Rhanbarthau Sbaen 2008-2012.
- ↑ barcelonas.com; adalwyd 29 Awst 2017.
- ↑ "Mas announces an agreement with ERC and will call a snap election for 27 September 2015 " (yn Sbaeneg). El País. 2015-01-14. Italic or bold markup not allowed in:
|publisher=
(help) - ↑ www.theguardian.com adalwyd 2015
Andalucía ·
Aragón ·
Asturias ·
Cantabria ·
Castilla-La Mancha ·
Castilla y León ·
Catalwnia ·
Extremadura ·
Galisia ·
Gwlad y Basg ·
Madrid ·
Murcia ·
Navarra ·
La Rioja ·
Valenciana ·
Ynysoedd Balearig ·
Yr Ynysoedd Dedwydd ·
Dinasoedd ymreolaethol
Ceuta ·
Melilla