Carles Puigdemont

Oddi ar Wicipedia

Roedd Carles Puigdemont Casamajó yn Arlywydd Catalwnia rhwng Ionawr 2016 a Hydref 2017.

Carles Puigdemont Casamajó
Carles Puigdemont Casamajó
Arlywydd Catalwnia
Deiliad
Cychwyn y swydd
10 Ionawr 2016
Rhagflaenwyd ganArtur Mas i Gavarró
Maer Girona
Yn ei swydd
1af Gorff. 2011 – 11 Ionawr 2016
Rhagflaenwyd ganAnna Pagans i Gruartmoner
Dilynwyd ganIsabel Muradàs i Vázquez
Aelod o Lywodraeth Catalwnia
Deiliad
Cychwyn y swydd
10th Tachwedd 2006
EtholaethGirona
Llywydd Associació de Municipis per la Independència
Deiliad
Cychwyn y swydd
17eg Gorff. 2015
Rhagflaenwyd ganJosep Maria Vila d'Abadal
Manylion personol
Ganwyd (1962-12-29) 29 Rhagfyr 1962 (61 oed)
Amer, Catalwnia
CenedligrwyddBaner Catalwnia Catalwnia Catalan
Plaid wleidyddolConvergència Democràtica de Catalunya
PriodMarcela Topor
PlantMagalí
Maria
Alma materPrifysgol Girona
Galwedigaethnewyddiadurwr

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod]

Fe'i ganed yn un o wyth o blant yn nhref Amer, (Talaith Girona) ar 29 Rhagfyr 1962,[1] ac mae'n byw yn Girona gyda'i wraig Marcela Topor a dwy ferch: Magalí a Maria.[2][3]

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Rhwng 10 Ionawr 2016 a 28 Hydref 2017 ef oedd Arlywydd Catalwnia, yn dilyn cytundeb rhwng Junts pel Sí ('Ie dros Gatalwnia!') a Candidatura d'Unitat Popular, CUP, dwy blaid sy'n hybu annibyniaeth i'r genedl.[4][5]

Bu'n aelod o Lywodraeth Catalwnia ac yn gyn-arweinydd y Llywodraeth honno (cyn iddo gael ei benodi'n Arlywydd) ac mae'n gyn-faer Girona.[6]

Yn dilyn camau Sbaen ar 28 Hydref 2017, nid yw'n cael ei gyflogi fel Arlywydd Catalwnia.[7]

Yn 2018, fe gwrddodd a Leanne Wood arweinydd Plaid Cymru â Puigdemont yn Brussels gan ddweud “Roedd yn anrhydedd cwrdd â’r Arlywydd Puigdemont a mynegi undod â phobl Catalwnia yn eu hymgyrch dros annibyniaeth” gan ychwanegu, "Mae’r Arlywydd, ei Weinidogion a llawer o bobl Catalwnia wedi dioddef gormes gwladwriaeth Sbaen."[8]

Ym mis Medi 2021, cafodd Puigdemont ei arestio yn yr Eidal a'i ddal yn Sardinia, pedair blynedd ers ffoi o Sbaen ar ôl i lywodraeth Sbaen gyhoeddi fod y refferendwm annibyniaeth Catalwnia yn "anghyfansoddiadol".[9] Cafodd Puigdemont ei ryddhau o'r carchar ar ôl un noson.[10]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Carles Puigdemont i Casamajó". www.enciclopedia.cat. Grup Enciclopèdia Catalana. Cyrchwyd 9 Ionawr 2016.
  2. Vilà, Dani. ""Si sabem oferir un producte genuí, la marca Barcelona és una oportunitat" - 05 març 2014". El Punt Avui (yn Catalaneg). Cyrchwyd 2023-02-20.
  3. Vilà, Dani (5 Mawrth 2014). "Si sabem oferir un producte genuí, la marca Barcelona és una oportunitat". El Punt Avui (yn catalan). Cyrchwyd 9 Ionawr 2016.CS1 maint: unrecognized language (link)
  4. "Junts pel Sí i la CUP tanquen un acord per a dur endavant la legislatura". VilaWeb.cat (yn Catalaneg). 9 Ionawr 2016. Cyrchwyd 9 Ionawr 2016.
  5. "Acord entre Junts pel Sí i la CUP amb Carles Puigdemont de president i sense Mas". 324.cat (yn Catalaneg). 9 Ionawr 2016. Cyrchwyd 9 Ionawr 2016.
  6. "Carles Puigdemont personal blog - About me".
  7. "Carles Puigdemont yn galw am ymateb heddychlon yng Nghatalwnia". Golwg360. 2017-10-29. Cyrchwyd 2023-02-20.
  8. "Wales has 'much to learn' from Catalonia says Wood as she meets with Puigdemont". Nation.Cymru (yn Saesneg). 2018-01-24. Cyrchwyd 2023-02-20.
  9. "Cyn-arlywydd Catalwnia yn cael ei arestio'n Yr Eidal". newyddion.s4c.cymru. Cyrchwyd 2023-02-20.
  10. "Catalan exile Puigdemont freed by Italian court". BBC News (yn Saesneg). 2021-09-24. Cyrchwyd 2023-02-20.
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: