Araneg

Oddi ar Wicipedia
Araneg (Aranés)
Siaredir yn: Sbaen
Parth: Ewrop
Cyfanswm o siaradwyr: 6,000
Safle yn ôl nifer siaradwyr:
Achrestr ieithyddol: Indo-Ewropeaidd

 Italaidd
  Romáwns
   Ocsitaneg
    Araneg

Statws swyddogol
Iaith swyddogol yn: Val d'Aran, Catalwnia.
Rheolir gan: Conselh Generau d'Aran
Codau iaith
ISO 639-1 oc
ISO 639-2 oci
ISO 639-3 oci - Ocsitaneg
Gweler hefyd: IaithRhestr ieithoedd

Araneg yw'r dafodiaith o Ocitaneg neu Gasconeg a siaredir yn y Val d'Aran yng ngogledd-orllewin Catalwnia. Gyda'r ieithoedd Catalaneg a Sbaeneg, mae'n iaith swyddogol yn y Val d'Aran. Dysgir yr iaith yn yr ysgolion, a gellir cael addysg trwy gyfrwng Araneg. Y Val d'Aran yw'r unig diriogaeth lle rhoddir statws swyddogol i'r iaith Ocitaneg.

Yn ôl arolwg ieithyddol yn y Val d'Aran yn 2000, roedd 92.5% o'r boblogaeth yno yn deall Araneg, 90.2% yn medru ei siarad, 80.5% ym medru ei darllen a 50.8% ym medru ei hysgrifennu.

Arwyddion mewn Araneg