Ieithoedd Italaidd

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r ieithoedd Italaidd yn perthyn i'r teulu Indo-Ewropeaidd o ieithoedd. Mae'n cwmpasu Lladin, a'r ieithoedd Romáwns sy'n tarddu o Ladin, ac hefyd dwy iaith y Cynfyd, Osgeg ac Wmbreg.

Mae gan y gangen ddwy is-gangen:

Fel yr oedd y Rhufeinwyr yn ehangu'u dylanwad dros bobloedd eraill yr Eidal, daeth eu iaith i oruchafu dros yr ieithoedd Italaidd eraill tan iddi gymryd eu lle yn llwyr. Lladin yw'r unig iaith Italaidd a oroesodd. Daeth mor lwyddiannus nes iddi ledu dros y rhan fwyaf o dde Ewrop a datblygu i esgor ar grŵp newydd o ieithoedd, y grŵp Romáwns.

Mae rhai ieithyddion yn rhagdybio cysylltiad clòs rhwng yr ieithoedd Italaidd a'r ieithoedd Celtaidd ac yn awgrymu iddynt darddu o un famiaitih Italo-Celtaidd (y rhagdybiaeth Italo-Celtaidd), ond mae'r syniad yn aros yn ddadleuol.

Globe of letters.svg Eginyn erthygl sydd uchod am iaith. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.