Neidio i'r cynnwys

Wmbreg

Oddi ar Wicipedia

Mae'r Wmbreg (Saes. Umbrian) yn iaith hynafol farw yn perthyn i'r Osgeg, ac i raddau i'r Lladin, yng nghangen ieithoedd Italig y teulu ieithyddol Indo-Ewropeaidd.

Mae'r Wmbreg ynghyd â'r Osgeg yn ffurfio'r is-gangen Osgo-Wmbreg yn yr ieithoedd Italig, ond mae rhai ieithyddion yn dadlau fod yr is-gangen honno'n gangen ar wahân yn y teulu Indo-Ewropeaidd.

Ar wahân i lond llaw o arysgrifau byrion, daw'r brif dystiolaeth am yr Wmbreg o gyfres o saith llech efydd o natur ddeddfodol - y Llechi Igufaidd - a ddarganfuwyd yn adfeilion Teml Iau yn Iguvium (Gubbio gynt), yn 1444.

Gyda 4,000 o eiriau, hyn yw'r cofnod llawnaf o hen ieithoedd yr Eidal sydd wedi goroesi, ac eithrio'r Lladin, wrth gwrs. Mae'r rhan fwyaf o gynnwys y llechi wedi'i ysgrifennu mewn ysgrifen hynafol frodorol sydd wedi'i seilio ar yr wyddor Etrwsgeg. Dichon bod y llechi hyn yn dyddio o tua 200 C.C.

Nid yw'r orgraff yn sefydlog, ffaith sy'n awgrymu nad oedd yr Wmbreg wedi datblygu'n iaith lenyddol safonol, mewn gyferbyniad â'r Osgeg.

Rhai geiriau'r Wmbreg

[golygu | golygu cod]
  • arv(am) ‘cae’ (cf. Cym. erw)
  • frater ‘brawd’
  • inuk ‘wedyn, yna’
  • pir ‘tân’ (cf. Saes. fire)
  • sakre ‘offrwm’ (cf. Lladin sacer)
  • uhtur ‘oracl, daroganwr’ (cf. Llad. auctor)
  • uvem ‘dafad’ (cf. Llad. ovis)

Llyfryddiaeth

[golygu | golygu cod]
  • Carl Darling Buck: A Grammar of Oscan and Umbrian, 1928.
  • Rex E. Wallace: The Sabellic languages of Ancient Italy, Munich: LINCOM, 2007.