Ailgoedwigo

Oddi ar Wicipedia
Ailgoedwigo
Mathsilviculture, Cadwraeth Edit this on Wikidata
Y gwrthwynebdatgoedwigo Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Coedwig aeddfed yn Nenmarc
Meithrinfa Planeta Verde Reforestación yn Vichada, Colombia

Plannu coed gyda'r nod o sefydlu coedwig yw ailgoedwigo neu ailfforestu[1][2] neu goedwigo. Mewn achosion lle na fu coedwig erioed (ar raddfa ddynol) neu lle na fu un ers amser maith, rydym yn sôn am goedwigo (Saesneg: "afforestate").[3] Nid yw adfywio coedwigoedd digymell yn cael ei ystyried yn ailgoedwigo.

Esboniad[golygu | golygu cod]

Coedwigaeth yw'r astudiaeth a'r arfer o reoli planhigfeydd fel adnoddau naturiol adnewyddadwy; mae'n perthyn yn agos i goedwigaeth. Mae ailgoedwigo yn cael ei ysgogi'n gyffredinol gan yr economi, yr angen am bren neu'r awydd i adfer y dirwedd ac, yn fwy diweddar, gan gapasiti amsugno carbon (CO₂) gan goedwigoedd. Un o swyddogaethau pwysig ailgoedwigo coedwigoedd fu gwarchod basnau dalgylch y cronfeydd dŵr er mwyn osgoi eu clogio'n gyflym oherwydd dyfodiad pridd a gynhyrchir gan erydiad.

Yn ól Partneriaethau Natur Lleol Cymru, ceir "10 rheol aur" ar gyfer plannu coed wrth ailgoedwigo.[4]

  • Diogelu’r goedwig bresennol yn gyntaf - Mae coedwigoedd sydd wedi’u hen sefydlu yn cynnwys natur fwy cyfoethog ac maent yn llawer gwell na choedwigoedd newydd o ran amsugno CO2 oherwydd eu strwythur gymhleth a’u gwydnwch i dân a llifogydd. Gall unrhyw ecosystem mewn coedwig gymryd dros 100 mlynedd i adfywio.
  • Cydweithio - Mae’r adroddiad yn pwysleisio’r angen i ‘gynnwys pob rhanddeiliad ac i wneud pobl leol yn rhan annatod o’r prosiect’.
  • Anelu at gynyddu adferiad bioamrywiaeth i’r eithaf er mwyn diwallu amrywiaeth o nodau - Mae Senedd Cymru newydd ddatgan argyfwng natur ac mae awdurdodau lleol wedi adleisio hyn. Mae’n hanfodol ein bod ni’n sicrhau bod unrhyw weithgarwch plannu coed yn gwella cynefinoedd naturiol Cymru.
  • Dewis ardaloedd addas ar gyfer ailgoedwigo - Y peth cyntaf i'w wneud yw adfer coedwigoedd presennol. Y peth gorau nesaf y gallwn yw plannu ar dir â choed lle y mae’r coetir wedi dirywio. Mae angen osgoi plannu ar dirweddau naturiol presennol (glaswelltiroedd, gwlyptiroedd ac ati) oherwydd bydd y rhain eisoes yn casglu carbon a siŵr o fod mwy o garbon nag y gallai coed newydd.
  • Defnyddio adfywio naturiol lle bynnag y bo modd - Yn aml, mae’n well i natur ymdrin â’r sefyllfa nag i ni ddechrau palu. Nid ar gyfer cynefinoedd yr ardaloedd ond hefyd ar gyfer yr hinsawdd. Mae’r adroddiad yn nodi, ‘Mae posibilrwydd bod dal a storio carbon mewn ardaloedd a adfywiwyd yn naturiol yn 40 gwaith yn fwy na mewn planhigfeydd.’ Fodd bynnag, mae’r adfywio’n dibynnu ar ffactorau eraill megis agosrwydd at goedwig naturiol a gwlypter yr hinsawdd. Os yw’r rhain yn cael eu bodloni, gadewch iddo dyfu.
  • Dewis rhywogaethau sy’n cynyddu bioamrywiaeth i’r eithaf - Sicrhau ystyried pa rywogaethau i’w plannu er mwyn helpu i greu cynefin coetir bywiog. Plannwch gasgliad o rywogaethau er mwyn annog bioamrywiaeth gan flaenoriaethu rhywogaethau cynhenid ac eithrio rhywogaethau anfrodorol. Un o brif fuddion bioamrywiaeth yw bydd yn cynyddu dwysedd y coetir oherwydd amrywiaeth mwy cyfoethog o heuwyr hadau.
  • Defnyddio deunydd planhigion gwydn - Os yw coedwig i ffynnu mae angen iddo fod mor amrywiol â phosibl o ran geneteg. Mae arfer da yn cynnwys casglu hadau gan o leiaf 50 o goed unigol ar draws y boblogaeth rhieni lawn.
  • Cynllunio o flaen llaw ar gyfer seilwaith, capasiti, a chyflenwad hadau - Bodola argyfwng hinsawdd oherwydd nad oedd dynol ryw wedi cynllunio tua’r dyfodol. Mae meithrinfeydd coed a chanolfannau tarddiad hadau yn sicrhau nad oes gennym ni goetiroedd ar gyfer heddiw yn unig ond bydden nhw yma am flynyddoedd i ddod.
  • Dysgu trwy wneud - Arfer gorau yw cynnal cynllun treialu bach cyn ymrwymo i blannu neu i adfywio coetir enfawr. Os ydych chi’n adfywio ar hen blot byddai hefyd yn syniad da i chi siarad â grwpiau cymunedol a fydd yn cofio’r goedwig yn ei hoes blaenorol.
  • Gwneud iddo dalu - Cyfeiria rhan hon yr adroddiad yn fwy at ardaloedd o fforestydd glaw trofannol y byddant, fel arall, yn dir amaeth – yr angen i sicrhau bod eu hincwm yn cynhyrchu mwy nag y byddai perchennog y tir yn ei ennill fel arall.

Mewn achos plannu mewn gwlad ddatblygiedig gall ‘talu’ hefyd olygu roi rhywbeth i’r gymuned – cyfle i ddysgu am fyd natur, blino’r plant, neu ardal heddychlon i ddal eich anadl. Trwy hwyluso’r cyfleoedd hyn cymaint â phosibl rydyn ni’n gwella ein coetir.

Effeithiau[golygu | golygu cod]

Coed y Brenin a welir effaith ailgoedwigo bwriadus

Rhaid i'r ailboblogi gymryd i ystyriaeth hinsawdd yr ardal sydd i'w hailboblogi, yn enwedig y natur a maint y glaw, y tymheredd a'r gwyntoedd. Rhaid ystyried hefyd agweddau megis y math o bridd, yr adwaith asid neu sylfaenol sy'n cyflyru'r rhywogaethau o blanhigion y gellir eu mewnblannu.

Mewn ardaloedd gweddol sych neu lled-gras (semi-arid), neu gyda thymhorau cyferbyniol (hafau sych), os yw'r coed yn cael eu plannu'n rhy drwchus a gyda thyfiant cyflym (poplys, ewcalyptws er enghraifft), yn eu cyfnod twf cyntaf gall y tyfiant gyfyngu'n rhannol ar lifogydd ac erydiad, ond bydd hefyd yn defnyddio ac yn anweddu llawer iawn o ddŵr gan amddifadu cyrsiau dŵr rhan o'r dŵr er bod y coed hefyd yn storio dŵr diolch i'w gwreiddiau.

Hanes[golygu | golygu cod]

Mae ailgoedwigo a gofal coedwigoedd yn gyffredinol wedi bod yn arfer hen iawn. Arferai'r Swmeriaid ond torri coedwigoedd cedrwydd yn y tymor mwyaf addas ar gyfer y coed (gaeaf) yn unig. Yn hen oes Tsieina hefyd, yn ystod llinach Han, cymerwyd gofal o goedwigaeth. Yn y canol oesoedd, roedd angen hawlenni i hela yn y goedwig a oedd dan reolaeth uchelwyr a brenhinoedd. Fodd bynnag, cwynodd y Brenin Alfonso X o Castile yn ysgrifenedig am sefyllfa ddrwg y coedwigoedd yn ei deyrnas. Yn yr 16g, gweithredwyd arferion coedwigaeth yn eang yn Ewrop (wladwriaethau'r Almaen) a Japan.[5] Yn nodweddiadol, rhannwyd y goedwig yn adrannau penodol a'i mapio, cynlluniwyd echdynnu pren o ran adfywio.

Yn Lloegr hyrwyddwyd yr arferiad o sefydlu planhigfeydd coed gan John Evelyn; Yn Ffrainc , plannodd gweinidog Louis XIV, Jean-Baptiste Colbert goed derw yn Tronçais ar gyfer dyfodol llongau pren llynges Ffrainc a gynlluniwyd ar gyfer canol y 19g, ond fel y sylwodd Fernand Braudel Colbert ddwy ganrif yn ddiweddarach, roedd wedi darparu popeth ac eithrio'r injan stêm.[6] Sefydlwyd ysgolion coedwigaeth o 1825; y rhan fwyaf yn yr Almaen a Ffrainc.

Cafodd cyfreithiau coedwigaeth yng Ngorllewin Ewrop eu deddfu eisoes yn ystod yr 20g mewn ymateb i bolisïau cadwraeth a’r cynnydd yng ngallu technolegol cwmnïau pren.

Cymru ac Ailgoedwigo[golygu | golygu cod]

Map o safleoedd Coedwig Genedlaethol i Gymru gyda nifero ohonynt yn enghreifftiau o ailgoedwigo i rhyw raddau neu gilydd

Ceir hanes o ailgoedwigo bwriadus yng Nghymru sy'n estyn nól i gefnogi llueodd arfog Prydain a'r Llynges Frenhinol. Yn sgil y Rhyfel Byd Cyntaf planwyd coewigoedd er mwyn cefnogi'r ymgyrch filwrol esgorodd hyn ar y Gomisiwn Coedwigaeth Cymru. Bu hefyd gwrthwynebiad i'r ailgoedwigo yma gan iddo amddifadu ffermwyr o dir amaethyddol. Cafwyd hefyd gwrthwynebiad moesol a chenedlaethol a welir mewn cerddi.

  • Cynllun Plant! Mae Plant! yn gynllun a sefydlwyd gan Llywodraeth Cymru yn 2008. Ar gyfer pob plentyn a aned neu a fabwysiadwyd yng Nghymru, plannir coeden yn ddathliad, gan greu coetiroedd newydd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol ledled Cymru. Ers 2014, mae’r cynllun Plant! wedi ymrwymo i blannu coeden ychwanegol yn Wganda ar gyfer pob coeden a blannir yma yng Nghymru. Fel rhan o’n prosiect 10 miliwn o goed, bydd coed ffrwythau wedi’i blannu yn y gerddi cartrefi teuluol yn rhanbarth Mbale o Wganda. Bydd y coed hyn yn helpu cymunedau lleol trwy ddarparu cyflenwadau cynaliadwy o fwyd a lloches iddynt, yn ogystal â ffynhonnell incwm. Byddant hefyd yn diogelu pobl leol rhag effeithiau erydiad pridd a achosir gan ddatgoedwigo trwm yn yr ardal, a all arwain at dirlithriadau marwol.[7]

Cyflawniadau

Cymru
Dros 300,000 o goed wedi’u plannu yng nghoetiroedd Cymru
Dros 140 hectar o goetir newydd a grëwyd ar draws 15 o goedwigoedd
Yn 2018, dathlodd y cynllun Plant! ei ben-blwydd yn 10 oed!
Wganda
1,600 o deuluoedd mewn 30 o bentrefi wedi’u cefnogi gan y cynllun hwn
5 o blanhigfeydd coffi Masnach Deg a gefnogwyd
  • Maint Cymru - yn 2010 sefydlwyd elusen Maint Cymru. Enw'r elusen yn y Saesneg, yw Size of Wales sy'n chwarae ar y ffordd y mae Cymru'n aml yn cael ei defnyddio fel uned fesur ar tiriogaeth dramor., yn arbennig mewn cyd-destu gyfer cynefinoedd naturiol a gollir. Defnyddir y term "maint Cymru" hefyd gan bod Cymru yn wlad adnabyddus i siaradwyr Saesneg Prydain a bod tiriogaeth Cymru yn faint hawdd ei fesur - 20,000km sgwár. Mae'r elusen yn gweithio gyda phobl frodorol a phobl leol ar draws y byd i dyfu coed a diogelu o leiaf 2 filiwn hectar o goedwigoedd trofannol – ardal o faint Cymru.[8]
  • Coedwig Genedlaethol i Gymru - Yn 2020 sefydlwyd Coedwig Genedlaethol i Gymru er mwyn cynyddu maint coedtiroedd Cymru a'i defnydd amgylcheddol ac hamdden.[9] Mae'n rwydwaith o goedtiroedd ar draws Cymru (nid un coedwig fawr) gan wneud defnydd o athronaieth a thechnegau ailgoedwigo.

Enghreifftiau byd-eang o ailgoedwigo[golygu | golygu cod]

Ailgoedwigo y nhalaith Montana, UDA

Cyhoeddodd Fforwm Economaidd y Byd 2020, a gynhaliwyd yn Davos, greu’r Ymgyrch Triliwn Coed, sef menter sy’n anelu at blannu 1 triliwn o goed ledled y byd. Gall y gweithredu fod â manteision amgylcheddol a chymdeithasol mawr ond mae angen ei deilwra i amodau lleol.[10]

Mae’r strategaeth adfer tirwedd coedwigoedd yn ceisio ailsefydlu tirweddau ac atgyweirio ardaloedd ymylol a diraddiedig er mwyn cynhyrchu tirweddau coedwig cynhyrchiol sy’n wydn ac yn hirdymor. Ei nod yw gwarantu bod swyddogaethau ecolegol a defnydd tir amrywiol yn cael eu hadfer, eu diogelu a'u cadw dros amser.[11]

Tsieina[golygu | golygu cod]

Yn Tsieina, mae rhaglenni ailblannu helaeth wedi bodoli ers y 1970au, sydd wedi cael llwyddiant cyffredinol. Mae gorchudd y goedwig wedi cynyddu o 12% o arwynebedd tir Tsieina i 16%.[12] Fodd bynnag, prin fu llwyddiant rhaglenni penodol. Bwriedir i "Wal Werdd Tsieina", ymgais i gyfyngu ar ehangiad Anialwch Gobi, fod yn 2,800 milltir (4,500 km) o hyd ac i'w gwblhau yn 2050.[13] Yn 2015 cyhoeddodd Tsieina gynllun i blannu 26 biliwn o goed erbyn y flwyddyn 2025; hynny yw, dwy goeden ar gyfer pob dinesydd Tsieineaidd y flwyddyn.[14] Ailgoedwigwyd Llwyfandir Loes.

Pacistan[golygu | golygu cod]

Lansiwyd y Billion Tree Tsunami yn 2014 trwy blannu 10 biliwn o goed, gan lywodraeth daleithiol Khyber Pakhtunkhwa (KPK) ac Imran Khan, fel ymateb i her cynhesu byd-eang. Fe wnaeth Tswnami Billion Tree Pacistan adfer 350,000 hectar o goedwigoedd a thir dirywiedig i ragori ar ei hymrwymiad i Her Bonn.[15]

Yn 2018, datganodd prif weinidog Pacistan, Imran Khan, y bydd y wlad yn plannu 10 biliwn o goed yn y pum mlynedd nesaf.[16]

Mae gwledydd llai, sydd á maint a phoblogaeth tebycach i Gymru, hefyd wedi bod yn weithgar yn ailgoedwigo. Byddant yn aml yn cyfuno teimladau o wladgarwch a chyswllt hanesyddol gyda'r tir i'r ymdrech i ailgoedwigo gan estyn am deimlad o oes a gollwyd ac a ail-enir.

Armenia[golygu | golygu cod]

Sefydlwyd yr Armenia Tree Project ym 1994 i fynd i'r afael â phryderon amgylcheddol ac economaidd yn ymwneud â choedwigoedd Armenia sy'n prinhau. Ers ei sefydlu, mae'r sefydliad wedi plannu mwy na 6.5 miliwn o goed mewn cymunedau ledled Armenia.[17]

Gwlad yr Iâ[golygu | golygu cod]

Ailgoedwigo yng Ngwlad yr Iâ

Cyn datgoedwigo Gwlad yr Iâ yn yr Oesoedd Canol, roedd tua 40% o'r tir yn goedwig.[18] Heddiw, mae'r wlad tua 2% yn goediog, gyda Gwasanaeth Coedwig Gwlad yr Iâ yn anelu at gynyddu'r gyfran honno i 10% trwy ailgoedwigo ac aildyfiant naturiol.[19]

Israel[golygu | golygu cod]

Ers 1948, cyflawnwyd prosiectau ailgoedwigo a choedwigo mawr yn Israel. Mae 240 miliwn o goed wedi'u plannu. Mae'r gyfradd atafaelu carbon yn y coedwigoedd hyn yn debyg i'r coedwigoedd tymherus Ewropeaidd.[20]

Cafodd Israel a dim ond un wlad arall ei dogfennu i gael cynnydd net mewn coedwigaeth yn y 2000au. Gellid priodoli'r math hwn o gynnydd i'r arferion cymdeithasol y mae Israel yn eu hymgorffori yn eu cymdeithas.[21] Mae hefyd wedi bod yn rhan ganolog o gennad y Jewish National Fund ers blynyddoedd. Ymysg yr enghreifftiau mwyaf llwyddiannus o ailgoedwigo neu coedwigo yw Coedwig Yatir ar gyrion anialwch y Negef, er bod trafodaeth ddiweddar wedi bod ar os yw plannu cymaint o goed ar dir mor fregus cystal syniad ag a dybiwyd yn wreiddiol.

Oriel[golygu | golygu cod]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "reforestate". TermauCymru. Cyrchwyd 22 Awst 2023.
  2. "ailgoedwigo". Geiriadur Prifysgol Cymru. Cyrchwyd 22 Awst 2023.
  3. Glossaire du site greenfacts.org, cyrchu 7 Awst 2009.
  4. "Deg rheol aur ar gyfer plannu coed". Partneriaeth Natur Cymru. Cyrchwyd 22 Awst 2023.
  5. Japanese Forestry Archifwyd 2011-06-28 yn y Peiriant Wayback.
  6. Braudel, The Wheels of Commerce, 15th-18th Century, vol. II of Civilization and Capitalism, 1979, iilus. p. 240.
  7. "Cynllun Plant". Gwefan Maint Cymru. Cyrchwyd 22 Awst 2023.
  8. "Am Maint Cymru". Gwefan Maint Cymru. Cyrchwyd 22 Awst 2023.
  9. "National Forest for Wales – Size of Wales" (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-10-05. Cyrchwyd 29 Ebrill 2022.
  10. "Tree-planting programs can do more harm than good". Environment (yn Saesneg). 2019-04-26. Cyrchwyd 2020-07-04.
  11. "The Role of Planted Forests in Forest Landscape Restoration" (PDF).
  12. Henkel, Marlon (22 February 2015). 21st Century Homestead: Sustainable Agriculture III: Agricultural Practices (yn Saesneg). Lulu.com. ISBN 9781312939752.Nodyn:Self-published source
  13. "China's Great Green Wall" (yn Saesneg). 2001-03-03. Cyrchwyd 2020-05-06.
  14. "China to plant 26 billion trees over next decade - People's Daily Online". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-04-02. Cyrchwyd 2015-03-12.
  15. "Pakistan's Billion Tree Tsunami restores 350,000 hectares of forests and degraded land to surpass Bonn Challenge commitment". IUCN. August 11, 2017.
  16. Chow, Lorraine (30 July 2018). "Pakistan's Next Prime Minister Wants to Plant 10 Billion Trees". Ecowatch. Cyrchwyd 7 September 2018.
  17. Aram Arkun (October 3, 2014). "Armenian Tree Project Celebrates 20th Anniversary". The Armenian Mirror-Spectator.
  18. "Iceland is replanting its forests 1,000 years after vikings razed them". April 6, 2018.
  19. "Spades, saplings and sheep: Iceland battles to restore long-lost forests". Skógræktin.
  20. Brand, David; Moshe, Itzhak; Shaler, Moshe; Zuk, Aviram; Riov, Dr Joseph (2011). Forestry for People (PDF). UN. tt. 273–280. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 30 September 2018. Cyrchwyd 30 September 2018.
  21. "Reforesting Israel, Restoring Israel". AllCreation.org (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-05-16.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am yr amgylchedd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato