Coed y Brenin
Gwedd
| Math | coedwig |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Gwynedd |
| Gwlad | |
| Cyfesurynnau | 52.825°N 3.916°W |
![]() | |
Coedwig yn ne Gwynedd yw Coed y Brenin neu Coed-y-Brenin, gydag arwynebedd o tua 9,000 acer. Saif i'r gogledd o dref Dolgellau, gyda mynediad oddi ar y ffordd i Drawsfynydd, ac mae'n cynnwys dyffrynnoedd afon Mawddach, afon Eden, afon Gain ac afon Wen.

Arferai'r goedwig fod ym mherchenogaeth Ystad Nannau. Prynwyd hi gan y Comisiwn Coedwigaeth yn 1922, ac ail-blannwyd rhannau helaeth ohoni. Ceir canolfan ymwelwyr ym Maesgwm, ac mae llawer o lwybrau ar gyfer beicio mynydd wedi eu datblygu yma, yn enwedig gan Dafydd Davis. Mae hefyd o bwysigrwydd ar gyfer bywyd gwyllt.

