Traeth baner las
Mae traeth baner las yn draeth morol neu ddŵr croyw adloniadol sy'n ateb gofynion llym o ran safonau'r dŵr trwy gydol y cyfnod nofio blaenorol. Rhoddir statws baner las i farinas hefyd.
Rhoddir statws baner las i draethau mewn dros 30 o wledydd yn Ewrop, De Affrica, Seland Newydd, Canada a'r Caribi yn seiliedig ar safonau a meini prawf a osodir ac a reolir gan y mudiad di-elw, Sefydliad dros Ymgyrch Addysgu Amgylcheddol (Sa:Foundation for Environmental Education (FEE) Campaign).
Rhaid i draeth sy'n ateb gofynion statws draeth las sicrhau safon glendid y dŵr, diogelwch, darpariaeth gwasanaethau a rheolaeth amgylcheddol cyffredinol. Darperir cyfleoedd nofio glân a diogel mewn awyrgylch di-gŵn.
Dynoda'r hawl i hedfan Baner Las ar draeth neu ddyfroedd adloniadol fod safonau amgylcheddol uchel yno a chaiff ei ystyried yn bluen yng nghap awdurdodau lleol a darparwyr cyfleusterau adloniadol ar y dŵr.
Yn 2008, roedd gan Sbaen 455 o draethau baner las, tra bod gan Gwlad Groeg 430 a Twrci 258. Mae yna 41 o draethau yng Nghymru sydd wedi derbyn statws baner las.[1]
Cymru [golygu]
Ceir 43 o draethau glas yng Nghymru.
1 Abergele, 2 Llandrillo yn Rhos, 3 Llanddona, 4 Porth Dafarch, 5 Bae Trearddur, 6 Cei Newydd, 7 Traethau Dinbych y Pysgod, 8 Saundersfoot, 9 Port Einon, 10 Bae Caswell
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ (Saesneg) Blue Flag Beaches of Wales 2009 08-08-2009. Adalwyd 11-05-2009
Dolenni allanol [golygu]
- Ymgyrch y Faner Las
- Baneri Glas yn ôl gwlad
- Baneri Glas yng Ngwlad Groeg (rhestr o'r 430 o draethau)
- Baneri Glas ym Mhortiwgal (193 traeth)
- Baneri Glas yn yr Eidal (214 traeth)
- Baneri Glas yn Sbaen (447 traeth)
- Meini prawf y traethau