Y Borth

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Borth)
Neidio i: llywio, chwilio
Y Borth
Traeth Y Borth dan eira
Am y dref ar Ynys Môn, gweler Porthaethwy

Pentref ar arfordir Bae Ceredigion, 9 km i'r gogledd o Aberystwyth, yw y Borth. Mae ganddi tua 1,463 o drigolion, 43% ohonynt yn siarad Cymraeg (Cyfrifiad 2001).

Pentref bach pysgotwyr a morwyr fu'r Borth yn y gorffennol ond mae'r Borth, bellach, yn dref glan môr boblogaidd gyda sawl gwersyll carafanio yn y cylch. I'r dwyrain ceir corsdir eang o'r enw Cors Fochno ar lan aber Afon Dyfi.

Ar y traeth gellir gweld boncyffion hen goed sy'n profi fod tir yn gorwedd i'r gorllewin yn y gorffennol cyn iddo gael ei foddi gan y môr ar ddiwedd y cyfnod Mesolithig. Dyma un rheswm, mae'n debyg, am y chwedl gyfarwydd am Gantre'r Gwaelod, a gysylltir ag ardal Aberdyfi sydd ar yr ochr arall i'r afon, i'r gogledd.

Ar un adeg gellid croesi gyda fferi bach o'r Ynys Las i'r gogledd o'r pentref i Aberdyfi dros Afon Dyfi.

Mae gan y Borth orsaf reilffordd ar Reilffordd y Cambrian.

[golygu] Trigolion o nôd


WalesCeredigion.png Eginyn erthygl sydd uchod am Geredigion. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Offer personol
Parthau

Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill