Siôn Corn
Siôn Corn yw'r enw a ddefnyddir yn y Gymraeg am y cymeriad Nadoligaidd sy'n rhoddi anrhegion. Santa Clôs (o'r enw Santa Claus h.y. Sant Nicolas) mae rhai'n galw Siôn Corn, daw'r enw Siôn Corn o'r term 'corn simne'. Mae'n gwisgo dillad cynnes lliw coch a gwyn ac yn ymweld â phlant bach y byd unwaith y flwyddyn - ar ddydd Nadolig - os ydyn nhw'n blant bach da. Mae'n dod ag ychydig o anrhegion iddyn nhw mewn hen sach.
Honnir mai yn un o wledydd y Baltig mae'n byw. Dywedir hefyd ei fod yn briod i ferch o'r enw Siân a bod ganddo lawer o gorachod yn gweithio iddo, ac ambell garw i dynnu ei sled. Teithia o amgylch y byd ar noswyl Nadolig yn dosbarthu anrhegion i bobl. Mae ei sled yn cael ei dynnu gan nifer o geirw gwahanol ond efallai mai'r carw mwyaf adnabyddus yw Rwdolff, sydd â thrwyn coch sy'n goleuo er mwyn arwain Siôn Corn a gweddill y ceirw drwy'r noson dywyll.
Cynnwys |
Hanes [golygu]
Mae personoliad symbolaidd o'r Nadolig fel cymeriad hen a llawen yn dyddio'n ôl i'r 17eg ganrif, yng nghyd-destun y gwrthwynebiad i feirniadaeth y Piwritaniaid o gadw gŵyl y Nadolig. Mae'r cymeriad yn "hen" i gynrychioli hynafiaeth yr ŵyl, a oedd yn hen arfer Cristnogol da yn ôl ei amddiffynwyr. Ceid alegori poblogaidd ar y pryd, ac felly rhoddwyd llais i'r "hen Nadolig" i brotestio'r gwaharddiad ynghyd â chreu'r cymeriad o hen ddyn llawen.
Mae'n debygol mai'r personoliad cynharaf o'r Nadolig ydy'r cymeriad a grëwyd gan Ben Jonson yn y ddrama Christmas his Masque[1], Rhagfyr 1616: ynddi mae 'Nadolig' yn ymddangos yn gwisgo "round Hose, long Stockings, a close Doublet, a high crownd Hat with a Broach, a long thin beard, a Truncheon, little Ruffes, white shoes, his Scarffes, and Garters tyed crosse", ac yn datgan "Why Gentlemen, doe you know what you doe? ha! would you ha'kept me out? Christmas, old Christmas?" Yn ddiweddarach, mewn masque gan Thomas Nabbes, The Springs Glorie, a gynhyrchwyd yn 1638, mae "Nadolig" yn ymddangos fel hen ddyn parchus yn gwisgo gŵn a chap ffwr.
Parhaodd y cymeriad i ymddangos dros y 250 mlynedd nesaf dan amryw o enwau. Nid oedd y Siôn Corn traddodiadol yn dod ag anrhegion nac yn gysylltiedig â phlant. Pan gyrhaeddodd cymeriad Santa Claus o America yn ystod yr oes Fictoraidd, cafodd ei gyfuno gyda chymeriadau Seisnig "Sir Christmas", "Lord Christmas" neu "Old Father Christmas" i greu "Father Christmas", y Siôn Corn sy'n gyfarwydd i bawb yng ngwledydd Prydain heddiw. Defnyddir y term Santa yn gyfystyr a Siôn Corn bellach, er y buont yn wreiddiol yn ddau gymeriad ar wahân.
Enwau mewn amryw o wledydd [golygu]
Defnyddir amrywiadau ar y term "Tad y Nadolig" (Saesneg:"Father Christmas") mewn nifer o wledydd ac ieithoedd. Mae ffurfiau ar "Santa Claus" yn gyffredin yn ogystal. Defnyddir y term "Tad y Nadolig", "Santa Claus" ac weithiau "baban Iesu" (i gyfeirio at yr Iesu) yn y gwledydd a'r ieithoedd dilynol:
- Afghanistan - "Baba Chaghaloo"
- Yr Aifft - "Papa Noël"
- Ucheldiroedd yr Alban - "Daidaín na Nollaig"
- Albania - "Babadimri"
- Yr Almaen - "Weihnachtsmann" neu "Nikolaus"
- Armenia - "Gaghant Baba"
- Awstria - "Weihnachtsmann" or "Nikolaus"
- Brasil - "Papai Noel"
- Bwlgaria - "Dyado Koleda"
- Cernyw - "Tas Nadelik"
- Chile - "Viejito Pascuero"
- De Affrica - "Vader Kersfees" neu "Kersvader"
- Denmarc - "Julemanden"
- Ecuador - "Papa Noel"
- Yr Eidal - "Babbo Natale"
- Y Ffindir - "Joulupukki"
- Ffrainc a Canada Ffrengig - "le Père Noël"
- Gwlad y Basg - "Olentzero"
- Gwlad Groeg - "Άγιος Βασίλης-Άyos Vasílis"
- Gwlad yr Iâ - "Jólasveinninn"
- Hwngari - "Mikulás" neu "Télapó" ("Tad Gaeaf")
- Iran - "Baba Noel"
- Yr Iseldiroedd - "Kerstman", Gelderland a Overijssel
- Iwerddon - "Daidí na Nollag"
- Latfia - "Ziemassvētku vecītis"
- Libanus - "Baba Noël"
- Lithwania - "Kalėdų Senelis"
- Llydaw - "Tad-kozh an Nedeleg" ("Tad-cu y Nadolig"), "Tad-kozh ar pellgent" ("Tad-cu y plygain")
- Macedonia - "Dedo Mraz"
- Malta - "San Niklaw" or "Christmas Father" neu "Santa Klaws"
- Mecsico - "El Niñito Dios" ("Plentyn Duw", yn golygu Iesu)
- Norwy - "Julenissen"
- Gwlad Pwyl - "Święty Mikołaj"
- Portiwgal - "Pai Natal"
- Rwmania - "Moş Crăciun"
- Rwsia - "Ded Moroz"
- Sápmi - "Juovlastállu"
- Sardinia - "Babbu Nadale"
- Sbaen a rhannau o America Ladin Sbaeneg ei iaith - "Papá Noel", "San Nicolás" neu "Santa Claus"
- Serbia a Bosnia a Herzegovina - "Božić Bata"
- Japan - "サンタクロース" ("Santakurosu")
- Slofacia - "Ježiško"
- Slofenia - "Božiček"
- Sri Lanka - "Naththal Seeya"
- Sweden - "Jultomten"
- Y Swistir - "Samichlaus"
- Tsiena - "Shengdan laoren" (Tsieineeg draddodiadol: 聖誕老人, Tsieineeg syml: 圣诞老人, Cantoneg: Sing Dan Lo Yan, ("Hen Ddyn Nadolig")
- Gweriniaeth Tsiec - "Ježíšek"
- Twrci - "Noel Baba"