Bryngaer Tregaron

Oddi ar Wicipedia
Bryngaer Tregaron
Mathcaer bentir Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCeredigion Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.2241°N 3.9238°W Edit this on Wikidata
Cod OSSN68706020 Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethheneb gofrestredig Edit this on Wikidata
Manylion
Dynodwr CadwCD108 Edit this on Wikidata

Bryngaer Geltaidd sy'n perthyn i Oes yr Haearn, wedi'i lleoli tua hanner milltir i'r gogledd-ddwyrain o dref Tregaron, Ceredigion, Cymru, yw Bryngaer Tregaron (y cyfeirir ato yn Saesneg yn ôl ei lleoliad fel bryngaer Sunnyhill Wood).

Disgrifiad[golygu | golygu cod]

Lleolir y fryngaer ar lethrau bryn ger Tregaron tua 230 metr i fyny. Bryngaer gyda dau fur amddiffynnol ydyw, y naill o fewn y llall, ac fe'i disgrifir fel "caer ar drwyn o dir (promontory fort) wedi'i hamddiffyn yn gryf" sy'n "nodweddiadol o Oes yr Haearn".[1]

Cefndir[golygu | golygu cod]

Cofrestrwyd y fryngaer hon gan Cadw a chaiff ei hadnabod gyda'r rhif SAM unigryw: CD108.[2] Ceir tua 300 o fryngaerau ar restr CADW o henebion, er bod archaeolegwyr yn nodi bod oddeutu 570 ohonyn nhw i gyd yng Nghymru.

Fel arfer, fel mae'r gair yn ei awgrymu, ar fryn y codwyd y caerau hyn, er mwyn i'r amddiffynwyr gael mantais milwrol. Un o'r bryngaerau mwyaf trawiadol yng Nghymru ydy Tre'r Ceiri, a hon yw'r fryngaer Oes Haearn fwyaf yng ngogledd-orllewin Ewrop.[3] Mae ei harwynebedd oddeutu 2.5ha.[4] Y mwyaf o ran maint (arwynebedd), fodd bynnag ydy Bryngaer Llanymynech sydd ag arwynebedd o 57 hectar.[5]

Lloches i gartrefi a gwersyllfeydd milwrol oedd eu pwrpas felly, cyn y goresgyniad Rhufeinig; a chafodd cryn lawer ohonynh nhw eu hatgyfnerthu a'u defnyddio, yng nghyfnod y Rhufeiniaid; er enghraifft Dinorben yng ngogledd Cymru. Oes aur bryngaerau gwledydd Prydain oedd rhwng 200 CC ac OC 43.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Christopher Houlder, Wales: an Archaeological Guide (Llundain, 1978), t.173
  2. Cofrestr Cadw.
  3. References Wales gan John May; Gwasg Prifysgol Cymru.
  4. "Gwefan y BBC". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-04-11. Cyrchwyd 2012-03-04.
  5. "Gwefan CPAT". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-01-07. Cyrchwyd 2012-03-04.