Pen-y-gaer (Llanaelhaearn)
Oddi ar Wicipedia
Bryn a bryngaer yn Llŷn, Gwynedd yw Pen-y-gaer. Mae'r gaer gynhanesyddol yn gorwedd ar ben y bryn, sy'n codi 387 metr uwch lefel y môr, rhwng Llanaelhaearn i'r gorllewin a Garn Dolbenmaen i'r dwyrain a thua 3 milltir i'r de o Glynnog. Cyfeirnod AO: (map 123) 429 455.[1]
Mae mur trwchus o gerrig, sydd â lled o hyd at 4.5 metr mewn mannau, yn amgylchynu pen y bryn gan amgae o'i fewn tua dwsin o safleoedd cytiau crwn. Mae'n dyddio o Oes yr Haearn. Ceir grŵp arall o gytiau cynhanesyddol gerllaw, wrth droed y bryn ger fferm Tyddyn-mawr. Ceir caeau cynhanesyddol ger y cytiau ac er nad oes modd profi eu bod yn gysylltiedig â'r gaer mae'n debyg eu bod.[2]
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ Lleoliad ar y map AO
- ↑ Christopher Houlder, Wales: an archaeological guide (Faber & Faber, 1977), tud. 51.
| Bryngaerau Cymru | |
|---|---|
| Yr Alltwen | Braich-y-Dinas | Breiddin | Bryn Euryn | Bryn Myrddin | Bwrdd Arthur | Caerau Gaer | Caer Bach | Caer Caradog | Caer Drewyn | Caer Fawr (Llangadog) | Caer Gwrtheyrn | Caer Seion | Caer y Twr | Carn Fadryn | Castell Cawr | Castell Degannwy | Castell Dinas | Castell Henllys | Castell Nadolig | Castell Odo | Castell Olwen | Castell Tinboeth | Craig yr Aderyn | Coed Llanmelin | Craig Rhiwarth | Crug Hywel | Darowen | Dinas Brân | Dinas Dinlle | Dinas Emrys | Dinas Mawr | Dinas Powys | Dinas Tŷ Du | Dinorben | Dinorwig | Foel Drygarn | Ffridd Faldwyn | Gaer Fawr | Garn Boduan | Garn Saethon | Llanymynech | Moel Arthur | Moel Fenlli | Moel Goedog | Moel Hiraddug | Moel y Gaer (Bodfari) | Moel y Gaer (Llanbedr) | Moel y Gaer (Llandysilio) | Moel y Gaer (Rhosesmor) | Mynydd y Gaer | Pen Dinas (Aberystwyth) | Pen Dinas (Mynydd Gorddu) | Penycloddiau | Pen y Corddyn | Pen-y-gaer (Llanaelhaearn) | Pen-y-gaer (Llanbedr-y-cennin) | Tre'r Ceiri | Twmbarlwm | |