Bryn Euryn

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Cyfesurynnau: 53°18′N 3°45′W / 53.3°N 3.75°W / 53.3; -3.75
Bryn Euryn
(Mynydd Hiraethog)
Y copa
Cyfieithiad
Iaith Cymraeg
Testun y llun Y copa
Uchder (m) 131
Uchder (tr) 430
Amlygrwydd (m) 116
Lleoliad rhwng Llandudno a Wrecsam
Map topograffig Landranger 116;
Explorer 17E
Cyfesurynnau OS SH832798
Gwlad Cymru
Dosbarthiad HuMP
Bryn Euryn is located in Cymru
Bryn Euryn (Cymru)

Saif Bryn Euryn fymryn i'r gorllewin o Landrillo-yn-Rhos, tua milltir a hanner i'r gogledd-orllewin o Fae Colwyn, ym mwrdeistref sirol Conwy; cyfeiriad grid SH832798. Mae'n fryn 131 medr o uchder a goronir gan fryngaer.

Uchder cymharol, neu ”amlygrwydd” y copa, ydy 15metr: dyma'r uchder mae'r copa'n codi uwchlaw'r mynydd agosaf.

Wrth droed Bryn Euryn ceir Llys Euryn, safle llys canoloesol a fu'n perthyn i ystad Ednyfed Fychan, distain Llywelyn Fawr. Gellir cyrraedd y gaer trwy ddilyn llwybr trwy'r coed o'r maes parcio ger yr hen lys.

Dosbarthiad[golygu]

Yr olygfa o Fae Colwyn o'r copa.

Dosberthir copaon Cymru, a gweddill gwledydd Prydain, yn rhestri arbennig yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'n HuMP. Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghŷd ar wefan “Database of British and Irish hills”.[1] Uchder y copa o lefel y môr ydy 131 metr (430 tr). Cafodd yr uchder ei fesur a'i gadarnhau ar 8 Mehefin 2009.

Y fryngaer[golygu]

Bryn Euryn (bryngaer)
Bryn Euryn
Bryn Euryn, Betws-yn-Rhos

Codwyd caer ar ben y bryn yn Oes yr Haearn. Does dim tystiolaeth archaeolegol iddi gael ei defnyddio yng nghyfnod y Rhufeiniaid, ond ymddengys i'r hen gaer gael ei hatgyweirio ar ddechrau'r cyfnod ôl-Rufeinig, mor gynnar â'r 5ed ganrif efallai, a chael ei defnyddio fel amddiffynfa.[2] Mae traddodiad[3] yn ei chysylltu â'r Brenin Maelgwn Gwynedd (tua 480-547) a atgyfnerthodd Gaer Ddegannwy, rhai milltiroedd i'r gorllewin, ar ddechrau'r 6ed ganrif.

Ar y copa ceir olion dwy gorlan amddiffynnol, mewnol ac allanol, ac olion adeiladau hirsgwar sydd i'w dyddio i'r Oesoedd Canol cynnar. Hefyd o'r cyfnod hwnnw, ceir gweddillion dau gwningar crwn.[4]

Roedd hyn yn lleoliad strategol pwysig sy'n amddiffyn y mynediad i'r Creuddyn ac Afon Conwy ar hyd yr arfordir o gyfeiriad y dwyrain.

Cofrestrwyd y fryngaer hon gan Cadw a chaiff ei hadnabod gyda'r rhif SAM unigryw: DE071.[5] Ceir tua 300 o fryngaerau ar restr CADW o henebion, er bod archaeolegwyr yn nodi bod oddeutu 570 ohonyn nhw i gyd yng Nghymru.

Gweler hefyd[golygu]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. “Database of British and Irish hills”
  2. Helen Burnham, Clwyd and Powys, cyfres Ancient and Historic Wales (HMSO, 1995), tud. 53
  3. Thomas Pennant, Teithiau yng Nghymru, tud. 444.
  4. Clwyd and Powys, tud. 54
  5. Cofrestr Cadw.

Dolennau allanol[golygu]


Bryngaerau Cymru Caer Seion 01.JPG
Yr Alltwen | Braich-y-Dinas | Breiddin | Bryn Euryn | Bryn Myrddin | Bwrdd Arthur | Caerau Gaer | Caer Bach | Caer Caradog | Caer Drewyn | Caer Fawr (Llangadog) | Caer Gwrtheyrn | Caer Seion | Caer y Twr | Carn Fadryn | Castell Cawr | Castell Degannwy | Castell Dinas | Castell Henllys | Castell Nadolig | Castell Odo | Castell Olwen | Castell Tinboeth | Craig yr Aderyn | Coed Llanmelin | Craig Rhiwarth | Crug Hywel | Dinas Brân | Dinas Dinlle | Dinas Emrys | Dinas Mawr | Dinas Powys | Dinas Tŷ Du | Dinorben | Dinorwig | Foel Drygarn | Ffridd Faldwyn | Gaer Fawr | Garn Boduan | Garn Saethon | Llanymynech | Moel Arthur | Moel Fenlli | Moel Goedog | Moel Hiraddug | Moel y Gaer (Bodfari) | Moel y Gaer (Llanbedr) | Moel y Gaer (Llandysilio) | Moel y Gaer (Rhosesmor) | Mynydd y Gaer | Pen Dinas (Aberystwyth) | Pen Dinas (Mynydd Gorddu) | Penycloddiau | Pen y Corddyn | Pen-y-gaer (Llanaelhaearn) | Pen-y-gaer, Caerhun | Tre'r Ceiri | Twmbarlwm