Bryn Myrddin

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Bryngaer  Abergwili (Merlins Hill)
Bryngaer Abergwili
Bryngaer Abergwili), Abergwili

Bryn yn Sir Gaerfyrddin yw Bryn Myrddin. Fe'i lleolir ger y Felin-wen, rhwng Abergwili a Nantgaredig tua 2.5 milltir i'r dwyrain o dref Caerfyrddin, ac i'r gogledd o'r briffordd A40 yn Nyffryn Tywi; cyfeirnod OS: SN454215.

Bryn Myrddin

Gorchuddir llawer o lethrau Bryn Myrddin gan goed. Ceir bryngaer gynhanesyddol ar ei gopa. Ni ddarganfuwyd y gaer Geltaidd hon gan archaeolegwyr tan yn bur ddiweddar. Mae'n amgau 4 hectar o dir ac mae'n cael ei amddiffyn gan glawdd trwchus enfawr. Ceir mynedfa yng nghornel y gogledd-ddwyrain a amddiffynir gan droad i mewn tyn a gwaith amddiffynnol allanol sylweddol.[1]

Ymddengys fod y cysylltiad ag enw Myrddin, y bardd a dewin o'r cyfnod ôl-Rufeinig sydd â rhan amlwg yn chwedlau cylch Arthur, yn hen. Cyfeirir y bardd Seisnig Edmund Spenser (c.1522-1599) ato fel "Merlin's Hill" yn ei gerdd hir The Faerie Queene. Mae'n cofnodi traddodiad lleol fod gan Fyrddin efail danddaearol dan y bryn, a bod trwst y gofion wrth eu gwaith i'w clywed pe rhoddir clust ar y ddaear.[2]

Cadw [golygu]

Cofrestrwyd y fryngaer hon gan Cadw a chaiff ei hadnabod gyda'r rhif SAM unigryw: CM231.[3] Ceir tua 300 o fryngaerau ar restr CADW o henebion, er bod archaeolegwyr yn nodi bod oddeutu 570 ohonyn nhw i gyd yng Nghymru. Fel arfer, fel mae'r gair yn ei awgrymu, ar fryn y codwyd y caerau hyn, er mwyn i'r amddiffynwr gael mantais milwrol. Un o'r bryngaerau mwyaf trawiadol yng Nghymru ydy Tre'r Ceiri, a hon yw'r fryngaer Oes Haearn fwyaf yng ngogledd-orllewin Ewrop.[4] Mae ei harwynebedd oddeutu 2.5ha.[5] Y mwyaf o ran maint (arwynebedd), fodd bynnag ydy Bryngaer Llanymynech sydd ag arwynebedd o 57 hectar.[6]

Cyfeiriadau [golygu]

  1. Christopher Houlder, Wales: an archaeological guide (Faber & Faber, 1978), tud. 169.
  2. Aneirin Talfan Davies, Crwydro Sir Gâr (Cyfres Crwydro Cymru, Llandybie, ail argraffiad 1970), tud. 268-69.
  3. Cofrestr Cadw.
  4. References Wales gan John May; Gwasg Prifysgol Cymru.
  5. Gwefan y BBC
  6. Gwefan CPAT

Gweler hefyd [golygu]


Bryngaerau Cymru Caer Seion 01.JPG
Yr Alltwen | Braich-y-Dinas | Breiddin | Bryn Euryn | Bryn Myrddin | Bwrdd Arthur | Caerau Gaer | Caer Bach | Caer Caradog | Caer Drewyn | Caer Fawr (Llangadog) | Caer Gwrtheyrn | Caer Seion | Caer y Twr | Carn Fadryn | Castell Cawr | Castell Degannwy | Castell Dinas | Castell Henllys | Castell Nadolig | Castell Odo | Castell Olwen | Castell Tinboeth | Craig yr Aderyn | Coed Llanmelin | Craig Rhiwarth | Crug Hywel | Darowen | Dinas Brân | Dinas Dinlle | Dinas Emrys | Dinas Mawr | Dinas Powys | Dinas Tŷ Du | Dinorben | Dinorwig | Foel Drygarn | Ffridd Faldwyn | Gaer Fawr | Garn Boduan | Garn Saethon | Llanymynech | Moel Arthur | Moel Fenlli | Moel Goedog | Moel Hiraddug | Moel y Gaer (Bodfari) | Moel y Gaer (Llanbedr) | Moel y Gaer (Llandysilio) | Moel y Gaer (Rhosesmor) | Mynydd y Gaer | Pen Dinas (Aberystwyth) | Pen Dinas (Mynydd Gorddu) | Penycloddiau | Pen y Corddyn | Pen-y-gaer (Llanaelhaearn) | Pen-y-gaer (Llanbedr-y-cennin) | Tre'r Ceiri | Twmbarlwm