Dinas Tŷ Du
Oddi ar Wicipedia
Bryngaer ger Llanberis, Gwynedd yw Dinas Tŷ Du. Fe'i lleolir tua milltir i'r de-orllewin o Lanberis ar fryn isel, creigiog, ar y llethrau i'r de o Lyn Padarn.
Ceir cylchoedd o gytiau cynhanesyddol gerllaw sy'n perthyn i'r un cyfnod â'r gaer, yn ôl pob tebyg, sef Oes yr Haearn.[1] Saif y gaer yn nhiriogaeth yr Ordoficiaid (Ordovices). Mae hen lwybr yn mynd heibio i'r gaer i groesi Bwlch y Gwynt, rhwng Cefn Du a Moel Eilio, gan gysylltu dyffrynnoedd Padarn a Gwyrfai.
Cyfeiriadau[golygu]
- ↑ Atlas Sir Gaernarfon (Caernarfon, 1977).