Castell Cawr

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

53°17′N 3°36′W / 53.28°N 3.6°W / 53.28; -3.6 (Castell Cawr (bryngaer).)

Castell Cawr (bryngaer)
Castell Cawr (bryngaer)
Castell Cawr (bryngaer), Abergele

Mae Castell Cawr (bryngaer) yn fryngaer Geltaidd sylweddol tua 2ha, sy'n perthyn i Oes yr Haearn, ac sydd wedi'i lleoli ger Abergele yn Conwy, Cymru; cyfeirnod OS: SH935767. Nid oes cloddio archaeolegol wedi digwydd yma.[1]

Cofrestrwyd y fryngaer hon gan Cadw a chaiff ei hadnabod gyda'r rhif SAM unigryw: DE114.[2] Ceir tua 300 o fryngaerau ar restr CADW o henebion, er bod archaeolegwyr yn nodi bod oddeutu 570 ohonyn nhw i gyd yng Nghymru.

Mae'r gaer yn mesur 186m (gogledd i dde) wrth 130m ac o ffurf led hirgsgwar. Ar ochrau'r de a'r dwyrain amddiffynir y gaer gan lethrau syrth y bryn ond ar ochrau'r gogledd a'r gorllewin ceir olion clawdd. Ceir mynedfa sy'n troi i mewn ar ei hun yn y clawdd gorllewinol. Er nad oes modd profi hynny heb gloddio archaeoloegol, mae'r gaer yn dyddio o Oes yr Haearn, yn ôl pob tebyg.[3][4]

Fel arfer, fel mae'r gair yn ei awgrymu, ar fryn y codwyd y caerau hyn, er mwyn i'r amddiffynwr gael mantais milwrol. Un o'r bryngaerau mwyaf trawiadol yng Nghymru ydy Tre'r Ceiri, a hon yw'r fryngaer Oes Haearn fwyaf yng ngogledd-orllewin Ewrop.[5] Mae ei harwynebedd oddeutu 2.5ha.[6] Y mwyaf o ran maint (arwynebedd), fodd bynnag ydy Bryngaer Llanymynech sydd ag arwynebedd o 57 hectar.[7]

Lloches i gartrefi a gwersyllfeydd milwrol oedd eu pwrpas felly, cyn y goresgyniad Rhufeinig; a chafodd cryn lawer ohonynh nhw eu hatgyfnerthu a'u defnyddio, yng nghyfnod y Rhufeiniaid; er enghraifft Dinorben yng ngogledd Cymru. Oes aur bryngaerau gwledydd Prydain oedd rhwng 200 CC ac OC 43.

Gweler hefyd [golygu]

Cyfeiriadau [golygu]

  1. Coflein
  2. Cofrestr Cadw.
  3. Coflein
  4. Helen Burnham, Clwyd and Powys yn y gyfres A Guide ot Ancient and Historic Wales (Cadw/HMSO, 1995), tud. 195.
  5. References Wales gan John May; Gwasg Prifysgol Cymru.
  6. Gwefan y BBC
  7. Gwefan CPAT


Bryngaerau Cymru Caer Seion 01.JPG
Yr Alltwen | Braich-y-Dinas | Breiddin | Bryn Euryn | Bryn Myrddin | Bwrdd Arthur | Caerau Gaer | Caer Bach | Caer Caradog | Caer Drewyn | Caer Fawr (Llangadog) | Caer Gwrtheyrn | Caer Seion | Caer y Twr | Carn Fadryn | Castell Cawr | Castell Degannwy | Castell Dinas | Castell Henllys | Castell Nadolig | Castell Odo | Castell Olwen | Castell Tinboeth | Craig yr Aderyn | Coed Llanmelin | Craig Rhiwarth | Crug Hywel | Darowen | Dinas Brân | Dinas Dinlle | Dinas Emrys | Dinas Mawr | Dinas Powys | Dinas Tŷ Du | Dinorben | Dinorwig | Foel Drygarn | Ffridd Faldwyn | Gaer Fawr | Garn Boduan | Garn Saethon | Llanymynech | Moel Arthur | Moel Fenlli | Moel Goedog | Moel Hiraddug | Moel y Gaer (Bodfari) | Moel y Gaer (Llanbedr) | Moel y Gaer (Llandysilio) | Moel y Gaer (Rhosesmor) | Mynydd y Gaer | Pen Dinas (Aberystwyth) | Pen Dinas (Mynydd Gorddu) | Penycloddiau | Pen y Corddyn | Pen-y-gaer (Llanaelhaearn) | Pen-y-gaer (Llanbedr-y-cennin) | Tre'r Ceiri | Twmbarlwm


CymruConwy.png Eginyn erthygl sydd uchod am fwrdeistref sirol Conwy. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato