Pen Dinas (Aberystwyth)
Pendinas yw'r enw ar y bryn i'r de o Aberystwyth. Adnabyddir y bryn yn syth gan y twr uchel sy'n ei goroni. Ar yr ochr orllewinol i Ben Dinas, rhed yr Afon Ystwyth i'r môr, tra fod harbwr Aberystwyth a'r Afon Rheidol yn gorwedd i'r gogledd. Ceir golygfeydd oddi yma o ddyffrynoedd y ddwy afon, tref Aberystwyth, y Llyfrgell Genedlaethol a Bae Ceredigion. Saif y copa 114 metr uwchlaw lefel y môr.
Hanes [golygu]
Adeiladwyd caer Oes yr Haearn ar Ben Dinas, sydd o bosibl yn esbonio'r enw hefyd. Yn ystod cloddio archaeolegol yn ystod y 1930au, darganfuwyd olion crochenwaith yn dyddio o tua 100 CC ar y bryn. Credir i'r gaer gyntaf gael ei hadeiladu gan y Celtiaid ar ochr ogleddol y bryn, ac na adeiladwyd ar gopa deheuol y bryn tan ddegawdau'n ddiweddarach. Er fod nifer o gaerau Oes yr Haearn eraill yn y cyffiniau, mae arddull adeiladu'r gaer yn fwy tebyg i gaerau a welir i'r dwyrain, yn agosach at y ffin bresennol a Lloegr, sy'n awgrymu o bosibl i'r gaer gael ei hadeiladu gan fudwyr o'r dwyrain tua 300 CC (Stanford: 1972). Mae'n debyg i ddyfodiad y Rhufeiniaid ddod ag oes y gaer fel amddiffynfa i ben.
Cofgolofn o'r 19eg ganrif yw'r twr a welir heddiw. Mae'r twr, sydd ar siap magnel yn wynebu i fyny, yn deyrnged i Dug Wellington a Brwydr Waterloo. Gobeithiwyd coroni'r golofn gyda cherflun o Wellington ar gefn ei geffyl, ond aeth y noddwyr i drafferthion ariannol cyn cwblhau'r gwaith.
Cyfeiriadau [golygu]
- 'Welsh border hill-forts', S. C. Stanford, yn The Iron Age in the Irish Sea Province (C.B.A. Research Report 9, 1972) tud. 35 [1]
Dolenni allanol [golygu]
- (Saesneg) Canllaw Ymwelwyr i Ben Dinas
| Bryngaerau Cymru | |
|---|---|
| Yr Alltwen | Braich-y-Dinas | Breiddin | Bryn Euryn | Bryn Myrddin | Bwrdd Arthur | Caerau Gaer | Caer Bach | Caer Caradog | Caer Drewyn | Caer Fawr (Llangadog) | Caer Gwrtheyrn | Caer Seion | Caer y Twr | Carn Fadryn | Castell Cawr | Castell Degannwy | Castell Dinas | Castell Henllys | Castell Nadolig | Castell Odo | Castell Olwen | Castell Tinboeth | Craig yr Aderyn | Coed Llanmelin | Craig Rhiwarth | Crug Hywel | Darowen | Dinas Brân | Dinas Dinlle | Dinas Emrys | Dinas Mawr | Dinas Powys | Dinas Tŷ Du | Dinorben | Dinorwig | Foel Drygarn | Ffridd Faldwyn | Gaer Fawr | Garn Boduan | Garn Saethon | Llanymynech | Moel Arthur | Moel Fenlli | Moel Goedog | Moel Hiraddug | Moel y Gaer (Bodfari) | Moel y Gaer (Llanbedr) | Moel y Gaer (Llandysilio) | Moel y Gaer (Rhosesmor) | Mynydd y Gaer | Pen Dinas (Aberystwyth) | Pen Dinas (Mynydd Gorddu) | Penycloddiau | Pen y Corddyn | Pen-y-gaer (Llanaelhaearn) | Pen-y-gaer (Llanbedr-y-cennin) | Tre'r Ceiri | Twmbarlwm | |