Baedd Gwyllt

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Baedd Gwyllt
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Mammalia
Urdd: Artiodactyla
Teulu: Suidae
Genws: Sus
Rhywogaeth: S. scrofa
Enw deuenwol
Sus scrofa
Linnaeus, 1758

O'r Baedd Gwyllt neu'r Baedd Coed (Sus scrofa) y datblygwyd y mochyn dof. Fe'i ceir trwy ran helaeth o ganolbarth Ewrop a'r tiroedd o gwmpas Môr y Canoldir, yn cynnwys Mynyddoedd yr Atlas yng Ngogledd Affrica, ac ar draws rhan helaeth o Asia cyn belled i'r de ag Indonesia.

Credir i'r baedd gwyllt ddiflannu o Brydain ac Iwerddon erbyn yr 17eg ganrif, ond mae'n parhau yn bur gyffredin ar gyfandir Ewrop. Yn ddiweddar mae nifer o boblogaethau wedi eu sefydlu yn Lloegr trwy fod anifeiliaid wedi dianc o ffermydd, ac mae un o'r poblogaethau hyn, yn Swydd Henffordd, yn agos i ororau Cymru.

Ceir pedair isrywogaeth:

  • Sus scrofa scrofa (gorllewin Affrica, Ewrop)
  • Sus scrofa ussuricus (gogledd Asia a Japan)
  • Sus scrofa cristatus (Asia Leiaf, India)
  • Sus scrofa vittatus (Indonesia)

Ystyrir y mochyn dôf fel isrywogaeth arall, Sus scrofa domestica, er bod rhai awduron yn ei ystyried yn rhywogaeth wahanol, Sus domestica.

Symbolaeth a mytholeg[golygu]

Gan fod y baedd yn anifail ffyrnig a pheryglus, mae'n ymddangos ym mytholeg llawer gwlad. Ym mytholeg Gwlad Groeg, mae Heracles yn hela Baedd Erymanthia, ac mae hefyd chwedl am hela Baedd Calydonia gan nifer o gymeriadau, yn cynnwys Atalanta.

Un o'r elfennau pwysicaf yn chwedl Culhwch ac Olwen yw hanes hela'r Twrch Trwyth. Ceir straeon tebyg ym mytholeg Iwerddon hefyd. Yn chwedl Math fab Mathonwy mae Math yn cosbi Gwydion fab Dôn a'i frawd Gilfaethwy fab Dôn am dreisio Goewin a dechrau rhyfel rhwng Gwynedd a Deheubarth trwy eu troi yn faedd a hwch am flwyddyn. Dychwelant gyda mab a gaiff ei fedyddio gyda'r enw Hychddwn. Ym mytholeg Hindwaeth, roedd y baedd Varaha yn un ffurf (avatar) o'r duw Vishnu.

Gwnaed defnydd o'r baedd fel symbol o ffyrnigrwydd a dewrder gan filwyr o gyfnod y lleng Rufeinig Legio XX Valeria Victrix trwy Clan Campbell yn Ucheldiroedd yr Alban hyd at unedau o lu awyr yr Unol Daleithiau heddiw.