Alderney
Oddi ar Wicipedia
Un o Ynysoedd y Sianel yw Alderney (Ffrangeg: Aurigny; Auregnais: Aoeur'gny). Dyma'r mwyaf gogleddol o Ynysoedd y Sianel. Mae'n ynys fechan sy'n gorwedd tua 35 km i'r gogledd-ddwyrain o ynys Guernsey oddi ar arfordir Basse-Normandie yn Ffrainc ac mae ganddi gysylltiad hanesyddol cryf gyda Normandi. Mae'n Diriogaeth sy'n Dibynnol ar y Goron ac yn rhan o Ynysoedd Guernsey.