Coed Gwent
| Coed Gwent () |
|
|---|---|
| Cyfieithiad | |
| Iaith | Cymraeg |
| Testun y llun | |
| Uchder (m) | 309 |
| Uchder (tr) | 1014 |
| Amlygrwydd (m) | 240 |
| Lleoliad | rhwng Castell-nedd a Chas-gwent |
| Map topograffig | Landranger 171 172; Explorer 14W 152 |
| Cyfesurynnau OS | ST411943 |
| Gwlad | Cymru |
| Dosbarthiad | Marilyn (mynydd) |
Ardal o fryniau coediog yng Ngwent, de-ddwyrain Cymru yw Coed Gwent (Saesneg: Wentwood). Saif rhan o'r ardal yn Sir Fynwy a rhan yn ardal cyngor dinas Casnewydd. Mae'r copa uchaf yn cyrraedd 309 medr; y pwynt uchaf yn ardal Casnewydd.
Saif Coed Gwent i'r gogledd-ddwyrain o ddinas Casnewydd. Yma y ceir y darn mwyaf o hen goedwig sy'n weddill yng Nghymru, gweddillion yr hun oedd unwaith yn goedwig lawr mwy, yn ymestyn o afon Wysg i afon Gwy. Yn y Canol Oesoedd roedd yn rhannu Gwent yn ddwy ran: Gwent Uwch Coed a Gwent Is Coed.
Dosberthir copaon Cymru, a gweddill gwledydd Prydain, yn rhestri arbennig yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'n Marilyn (mynydd). Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghŷd ar wefan “Database of British and Irish hills”.[1] Uchder y copa o lefel y môr ydy 309 metr (1014 tr). Cafodd yr uchder ei fesur a'i gadarnhau ar 28 Hydref 2001.
Gweler hefyd [golygu]
- Rhestri copaon a sut y cânt eu dosbarthu
- Rhestr mynyddoedd Cymru
- Rhestr o gopaon Cymru
- Rhestr Mynyddoedd yr Alban dros 2,000'