Y Gymanwlad Bwylaidd–Lithwanaidd
Y Gymanwlad Bwylaidd–Lithwanaidd Rzeczpospolita Obojga Narodów (Pwyleg) Res Publica Utriusque Nationis (Lladin) | ||||||
Ffederasiwn deuarchaidd | ||||||
| ||||||
---|---|---|---|---|---|---|
| ||||||
Arwyddair
| ||||||
Y Gymanwlad Bwylaidd–Lithwanaidd (gwyrdd), a'i gwladwriaethau caeth (gwyrdd golau), ar ei hanterth ym 1619.
| ||||||
Prifddinas |
(de jure)
(de facto) | |||||
Ieithoedd | Swyddogol: Pwyleg a Lladin | |||||
Crefydd | Swyddogol: Yr Eglwys Gatholig Lleiafrifol: | |||||
Llywodraeth |
| |||||
Brenin / Uchel Ddug | ||||||
- | 1569–1572 | Zygmunt II August (cyntaf) | ||||
- | 1764–1795 | Stanisław August Poniatowski (olaf) | ||||
Deddfwrfa | Sejm | |||||
- | Cyfrin Gyngor | Senedd | ||||
Cyfnod hanesyddol | Y cyfnod modern cynnar | |||||
- | Undeb Lublin | 1 Gorffennaf 1569 | ||||
- | Rhaniad 1af | 5 Awst 1772 | ||||
- | Cyfansoddiad 3 Mai | 3 May 1791 | ||||
- | 2il Raniad | 23 Ionawr 1793 | ||||
- | 3ydd Rhaniad | 24 Hydref 1795 | ||||
Poblogaeth | ||||||
- | 1582 amcan. | 8,000,000 | ||||
Dwysedd | 9.8 /km² (25.4 /sq mi) | |||||
- | 1618 amcan. | 12,000,000 | ||||
Dwysedd | 12 /km² (31.1 /sq mi) |
Gwladwriaeth yng Nghanolbarth a Dwyrain Ewrop oedd y Gymanwlad Bwylaidd–Lithwanaidd a fodolai o 1569 i 1795. Ffurfiwyd y ffederasiwn deuarchaidd drwy gyfuno Teyrnas Gwlad Pwyl ac Uchel Ddugiaeth Lithwania. Y Gymanwlad Bwylaidd–Lithwanaidd oedd un o wladwriaethau mwyaf Ewrop yn ystod y cyfnod modern cynnar, ac yn cynnwys bron 400,000 milltir sgwâr a rhyw 11 miliwn o bobl ar ei heithaf yn nechrau yr 17g. Yn ffurfiol, cafodd ei alw gan yr enw hir Teyrnas Gwlad Pwyl ac Uchel Ddugiaeth Lithwania (Pwyleg: Królestwo Polskie i Wielkie Księstwo Litewskie, Lithwaneg: Lenkijos Karalystė ir Lietuvos Didžioji Kunigaikštystė, Lladin: Regnum Poloniae Magnusque Ducatus Lithuaniae), neu Gymanwlad y Ddwy Genedl (Pwyleg: Rzeczpospolita Obojga Narodów, Lladin: Res Publica Utriusque Nationis). Defnyddiwyd yr enw Gwlad Pwyl yn aml i ddisgrifio'r holl Gymanwlad.
Gwlad aml-ethnig ac amlieithog oedd y Gymanwlad, gan gynnwys Pwyliaid, Lithwaniaid, Rwtheniaid, Almaenwyr, Iddewon, a chymunedau bychain o Datariaid, Armeniaid, ac Albanwyr.[1] Roedd hefyd sawl crefydd, gan gynnwys yr Eglwys Gatholig, Protestaniaeth, yr Eglwys Uniongred Ddwyreiniol, Iddewiaeth, ac Islam. Bu ambell gymuned yn meddu ar rywfaint o hunanlywodraeth, er enghraifft Cyngor y Pedair Gwlad a oedd yn arfer y gyfraith Iddewig.
Ieithoedd
[golygu | golygu cod]- Pwyleg - un o ieithoedd swyddogol y wladwriaeth, iaith y rhan fwyaf o'r bonedd, a'r brif iaith yn ninasoedd a threfi'r wlad.
- Lladin – yr iaith swyddogol arall, defnyddiwyd Lladin wrth ymdrin â gwledydd eraill, ac fel ail iaith ymysg y bonedd.
- Ffrangeg – mewn gwirionedd, defnyddiwyd mwy o Ffrangeg nag o Ladin yn llys y Brenin o ddechrau'r 18fed ganrif ymlaen. Defnyddiwyd y Ffrangeg yn iaith gwyddoniaeth a llenyddiaeth.
- Iaith Slafonaidd Ddwyreiniol - a gelwid yn Rwscieg (руски езыкъ) ar y pryd. Hyd at 1697 roedd yn iaith swyddogol yn yr Uchel Ddugiaeth (Lithwania). Disgynyddion yr iaith hon a'i thafodieithoedd yw Wcreineg, Belarwseg a Rusyn. Dyma oedd y brif iaith yn rhannau ddwyreiniol y wlad.
- Lithwaneg – nid oedd yn iaith swyddogol. Siaradwyd yr iaith yn rhan ogleddol y wlad, sy'n cyfateb yn fras i'r Lithwania fodern, sy'n llai nag oedd Ddugiaeth.
- Almaeneg - defnyddiwyd yr iaith gan leiafrif yn y dinasoedd.
- Hebraeg – defnyddiwyd yr ieithoedd Hebraeg ac Aramaeg gan Iddewon wrth ymdrin â materion crefyddol, ysgolheigaidd a chyfreithiol.
- Iddew-Almaeneg – dyma oedd iaith bob dydd yr Iddewon, ac felly'n un o brif ieithoedd dinasoedd y wlad
- Eidaleg – iaith leiafrifol
- Armeneg – iaith leiafrifol
- Arabeg – defnyddiwyd Arabeg gan y Tatariaid ar gyfer materion crefyddol. Roeddynt hefyd yn ysgrifennu Rwscieg (gw. uchod) gan ddefnyddio'r Wyddor Arabeg.
Diwedd y gymanwlad
[golygu | golygu cod]Ym 1777, 1793 ac 1795, rhannwyd tiriogaeth y gymanwlad rhwng Prwsia, Ymerodraeth Rwsia, a'r Frenhiniaeth Hapsbwrgaidd (Awstria-Hwngari). Wedi 1795, daeth y gymanwlad i ben, a bu'n rhaid aros nes 1918 nes i Wlad Pwyl a Lithwania ddod yn annibynnol. Yn ogystal â'r ddwy wlad hynny, mae tiriogaeth y gymanwlad gynt bellach yn cynnwys rhannau o'r Wcráin, Moldofa (Transnistria), Belarws, Rwsia, Latfia ac Estonia.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Peter Paul Bajer, Scots in the Polish-Lithuanian Commonwealth, 16th–18th Centuries: The Formation and Disappearance of an Ethnic Group (Leiden: Brill, 2012).
- Y Gymanwlad Bwylaidd–Lithwanaidd
- 16eg ganrif yn Lithwania
- 16eg ganrif yng Ngwlad Pwyl
- 17eg ganrif yn Lithwania
- 17eg ganrif yng Ngwlad Pwyl
- 18fed ganrif yn Lithwania
- 18fed ganrif yng Ngwlad Pwyl
- Cyn-wladwriaethau Ewrop
- Deuarchaethau
- Gwladwriaethau a thiriogaethau a sefydlwyd ym 1569
- Gwladwriaethau a thiriogaethau a ddadsefydlwyd ym 1795