Neidio i'r cynnwys

Tresimwn

Oddi ar Wicipedia
Tresimwn
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSain Nicolas a Thresimwn Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.4586°N 3.3439°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Map
Tresimwn: hen dŷ gyda tho gwellt traddodiadol

Pentref yng nghymuned Sain Nicolas a Thresimwn, Bro Morgannwg, de Cymru, yw Tresimwn (Saesneg: Bonvilston). Mae'n gorwedd ar yr A48 rhwng Y Bont-faen i'r gorllewin a Sain Nicolas i'r dwyrain.

Enwir y pentref ar ôl yr arglwydd Normanaidd lleol Simon de Bonville (Cymraeg, "Tref Simon"; Saesneg, "Tref Bonville"). Adnewyddwyd Eglwys y Santes Fair yn yr arddull Gothig Fictorianaidd yn y 19g; cedwir cloch ganoloesol ynddi.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Jane Hutt (Llafur)[1] ac yn Senedd y DU gan Alun Cairns (Ceidwadwr).[2]

Enwogion

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Gwefan Senedd Cymru
  2. Gwefan Senedd y DU
  3. "Swimmer Harriet is selected for Commonwealth Games team". The Cowbridge GEM (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-01-28. Cyrchwyd 18 Mai 2021.
Eginyn erthygl sydd uchod am Fro Morgannwg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.