Saul Bellow

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Saul Bellow
SaulBellow.jpg
Ganwyd Solomon Belov
(1915-06-10)10 Mehefin 1915
Lachine, Québec, Canada
Bu farw 5 Ebrill 2005(2005-04-05) (89 oed)
Brookline, Massachusetts, UDA
Gwaith Llenor
Cenedligrwydd Canadiad/Americanwr
Alma mater Prifysgol Chicago
Prifysgol y Gogledd-orllewin
Prifysgol Wisconsin
Gwobrau nodedig Gwobr Lenyddol Nobel, 1976
Gwobr Pulitzer am Ffuglen, 1976
Y Fedal Gelfyddydau Genedlaethol, 1988
Y Wobr Lyfr Genedlaethol, 1954, 1965, 1971
Priod Anita Goshkin (1937–56)
Alexandra (Sondra) Tschacbasov (1956–59)
Susan Glassman (1961–64)
Alexandra Bagdasar Ionescu Tulcea (1974–85)
Janis Freedman (1989–2005)

Llofnod

Nofelydd Americanaidd a aned yng Nghanada oedd Saul Bellow (ganwyd Solomon Belov; 10 Mehefin 1915 – 5 Ebrill 2005). Enillodd Wobr Lenyddol Nobel ym 1976.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd Solomon Belov yn Lachine, ger Montréal, i deulu o Iddewon Lithwanaidd a ymfudodd i Ganada o St Petersburg ym 1913. Yn hwyrach, newidodd enw'r teulu yn Bellow a mabwysiadodd Solomon yr enw blaen Saul pan oedd yn fachgen.[1] Pan oedd Saul yn 3 oed, symudant i ardal Iddewig Montréal, ac yno fe rodd ei dad gynnig ar sawl math o waith: ffermwr, pobydd, gwerthwr brethynnau, deliwr hen bethau, brocer yswiriant, a gwerthwr diod anghyfreithlon (bootlegger). O ganlyniad i'w weithgareddau dichellgar, bu asiantiaid Cyllid Gwladol Canada ar ei drywydd. Pan oedd Saul yn 8 oed, cafodd y teulu ei smyglo dros y ffin i Chicago, ac yno y buont yn breswylwyr anghyfreithlon yn yr Unol Daleithiau.[2]

Medrodd Saul sawl iaith yn ystod ei blentyndod. Iddew-Almaeneg oedd ei famiaith, a Rwseg hefyd yn iaith yr aelwyd wrth siarad â'i chwaer a brodyr hŷn. Ym Montréal fe siaradodd Saesneg a Ffrangeg yn yr ysgol, ac yn Chicago fe ddysgodd iaith Americanaidd fras y strydoedd.[2] Astudiodd yr Hebraeg trwy gydol ei fywyd, ond fel arall cafodd ei "Americaneiddio'n llwyr" gan ei fagwraeth yn Chicago. Mynychodd Prifysgol Chicago gan newid ei radd o lenyddiaeth i anthropoleg. Mynychodd hefyd Prifysgol y Gogledd-orllewin a Phrifysgol Wisconsin cyn iddo symud i Ddinas Efrog Newydd. Treuliodd ei ugeiniau diweddar yng nghwmni'r arlunwyr, llenorion a newyddiadurwyr adain-chwith yn Greenwich Village. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, fe wasanaethodd yn Llynges Fasnachol yr Unol Daleithiau.

Gyrfa lenyddol[golygu | golygu cod y dudalen]

Ymdrinia'i nofel gyntaf, Dangling Man (1944), â dyn ifanc sydd wedi ymuno â'r fyddin. Wedi'r rhyfel fe symudodd i Baris, ac ysgrifennodd ei ail nofel, The Victim (1947), dan ddylanwad yr athroniaeth a chelfyddydau Ewropeaidd. Tra'n darllen Sartre mewn caffi, fe gafodd dadrith sydyn a dywedodd i'w hunan, "This has got to be a con". Dychwelodd y bachgen o Chicago i'w mamwlad. Yn y 1950au cynnar, cyhoeddodd straeon yn The New Yorker ac Harper's Bazaar, a chylchgronau tra-modern megis Partisan Review.

Cafodd ei gydnabod yn awdur pwysig yn sgil cyhoeddi The Adventures of Augie March ym 1953. Dilynwyd gan y nofela Seize the Day (1956), a'r nofel ddigrif Henderson the Rain King (1959). Cyhoeddid Herzog ym 1964, campwaith a gyflwynodd cymeriad y deallusyn comig i lên America. Credir nifer o feirniaid taw Humboldt's Gift (1975) yw nofel wychaf Bellow, a chanddi plot ffars ond strwythur arwrgerdd.

Yn hwyr yn ei yrfa, trodd yn fwyfwy at y nofela a'r stori fer, dan ddylanwad y meistr Chekhov. Ysgrifennodd ei nofel olaf, Ravelstein, yn sgil marwolaeth ei gyfaill, yr Athro Allan Bloom.

Bywyd personol[golygu | golygu cod y dudalen]

Dyn golygus a del ei wisg oedd Saul Bellow. Priododd pum gwaith, a chafodd tri mab ac un ferch.

Arddull lenyddol a dylanwadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Tro ar ôl tro yn ei nofelau, gwelir golygfeydd a chymeriadau o blentyndod Bellow: bywyd y stryd, bragu anghyfreithlon, a'r gudd-economi. Academyddion, llenorion, a brodorion Chicago yw arwyr ei brif nofelau. Ar y llaw arall, nid oes fawr o dystiolaeth o'i brofiadau milwrol yn ei lyfryddiaeth. Ei nofel gyntaf, Dangling Man, yw'r unig waith ganddo ar bwnc rhyfel. Ceir nodweddion o lenyddiaeth Iddewig ac Ewropeaidd yn ei waith, yn enwedig mawrion Rwseg y 19g, ond yn bwysicach oll straeon Americanaidd ydynt.

Digrifwch o bob haen sy'n lliwio nofelau Bellow: hiwmor bras, ffars, eironi, dychan cymdeithasol, a fwlgareiddiwch. Serch bod Bellow yn hoff o'i hiwmor isel-ael, llenor deallusol ydoedd a wnaeth fritho'i ryddiaith â chyfeiriadau at athronwyr a brawddegau mewn sawl iaith. Er yr elfen gomig gryf, straeon ysbrydol o ddifrif ydynt am gymeriadau sy'n chwilio am Dduw a phwrpas bywyd.[1]

Beirniadaeth a chlod[golygu | golygu cod y dudalen]

Clodforir Bellow fel un o hoelion wyth llên yr Unol Daleithiau yn ail hanner yr 20g. Cymharir ei nofelau gorau â Dostoevsky, a chanddynt "chwyldroadau'r ysbryd, ymwybyddiaeth gosmig, a themâu anferthol".[1] Enillodd Humboldt's Gift y Wobr Pulitzer am Ffuglen ym 1976. Yn yr un flwyddyn, rhoddwyd Gwobr Lenyddol Nobel iddo "am y cyfuniad yn ei waith o ddirnadaeth y ddynolryw a dadansoddiad cynnil y diwylliant cyfoes".[3] Derbyniwyd ef i Academi Americanaidd y Celfyddydau a'r Gwyddorau. Cydnabuwyd hefyd gan wledydd Ewrop: derbynodd y Croix de Chevalier a'r Légion d'honneur yn Ffrainc, acenillodd Wobr Malaparte yn yr Eidal.

Yn sgil ei enwogrwydd, cafodd ei feirniadu am hiliaeth a gwreig-gasineb honedig yn ei nofelau, ac ennynai rhagor o ymateb o ganlyniad i'w sylwadau cyhoeddus. Ymddengys geiriau difrïol megis niggerlove (Herzog) a kikes (Humboldt's Gift) yn ei waith, a'r brif gymeriadaeth fenywaidd a geir yn ei straeon yw'r gnawes neu'r gecren. Ceisiodd Bellow amddiffyn ei hunan drwy ofyn, "ble mae Tolstoy y Zulu? Pwy yw'r Marcel Proust o Bapwa Gini Newydd?" Llwyddodd i fegino'r tân yn unig. Cafwyd gwrthdaro rhynddo a myfyrwyr Harvard a chyhoeddwyd erthyglau yn condemnio'i hiliaeth gan The New York Times. Cyhuddodd Bellow ei feirniaid o fod yn "heddlu meddwl Stalinaidd", a chwynodd am gywirdeb gwleidyddol. Ceisiodd dalu'r pwyth yn ôl drwy lunio cyfyng-gyngor rhyddfrydol i'r prif gymeriad yn The Dean's December, ond ni lwyddodd i leddfu ei elynion. Gofynnid cwestiwn sardonig iddo: Ble mae'r Tolstoy Canadaidd?[1]

Ar anterth ei gydnabyddiaeth ryngwladol, magodd arfer doethinebu a thraethu barn ar sawl pwnc. Mynegodd yn fachog ac yn athronyddol ar fywyd a chymdeithas fodern, a siaradodd yn erbyn dirywiad addysg a byd llên. Enillodd enw'r hen lenor doeth, ond denodd rhagor o sylw negyddol yn sgil ambell datganiad. Dadleuodd, er enghraifft, taw "gwendid bach ffiaidd" oedd beio'r rhieni am broblemau yn oedolaeth yr unigolyn, ac "esgus i beidio â chymryd cyfrifoldeb am fywyd" oedd profiad o gamdriniaeth tra'n blentyn. Yn ei wyth degau, gwrthododd ymddeol gan ddatgan "nid oes cyfnod golffio ym mywyd y llenor ... dim ond y gadair galed ei chefn a'r llyfr nesaf". O safbwynt ei wrthwynebwyr, dechreuodd Bellow ymhel â chasineb a dicter yn ei henaint ac hynny oedd ei ddifyrwaith yn lle golff.[1]

Edmygir ei waith gan sawl feirniad o fri, megis James Wood a Christopher Hitchens. Un o'i fychanwyr yw Harold Bloom, a alwodd prif gymeriadau Bellow "bob tro yn fethiant gwirion", a'i gymeriadau benywaidd yn "freuddwydion o'r drydedd radd", er iddo ganmol ei gymeriadau bychain Dickensaidd.[4] Cafodd Bellow ddylanwad ar ei gyfoedion Americanaidd, yn eu plith Philip Roth a John Updike,[5] yn ogystal ag awduron Saesneg i ddod, er enghraifft Ian McEwan, Martin Amis, a Jon Gower.[6]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Dangling Man (1944)
  • The Victim (1947)
  • The Adventures of Augie March (1953)
  • Seize the Day (1956)
  • Henderson the Rain King (1959)
  • Herzog (1964)
  • Mr. Sammler's Planet (1970)
  • Humboldt's Gift (1975)
  • To Jerusalem and Back (1976)
  • The Dean's December (1982)
  • More Die of Heartbreak (1987)
  • A Theft (1989)
  • The Bellarosa Connection (1989)
  • Something To Remember Me By: Three Tales (1991)
  • The Actual (1997)
  • Ravelstein (2000)
  • Collected Stories (2001)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 (Saesneg) Obituary: Saul Bellow, The Guardian (7 Ebrill 2005). Adalwyd ar 8 Ebriill 2017.
  2. 2.0 2.1 (Saesneg) Zachary Leader. ‘I got a scheme!’ – the moment Saul Bellow found his voice, The Guardian (17 Ebrill 2015). Adalwyd ar 23 Mai 2017.
  3. (Saesneg) The Nobel Prize in Literature 1976, Sefydliad Nobel. Adalwyd ar 8 Ebrill 2017.
  4. (Saesneg) Harold Bloom, The Art of Criticism No. 1, The Paris Review (1991). Adalwyd ar 23 Mai 2017.
  5. (Saesneg) Saul Bellow: 'American writer supreme', The Daily Telegraph (10 Mehefin 2015). Adalwyd ar 23 Mai 2017.
  6. Awdur blaenllaw yn cyhoeddi casgliad o straeon byr, lleol.cymru (5 Gorffennaf 2006). Adalwyd ar 23 Mai 2017.