Seize the Day (nofel)
Gwedd
Nofel fer Saesneg gan yr Americanwr Saul Bellow yw Seize the Day a gyhoeddwyd gyntaf ym 1956. Hon oedd ei bedwaredd nofel neu nofela, a chafodd ei chyhoeddi pan oedd newydd droi'n 40 oed. Mae dylanwad Tolstoy, Dostoyevsky a Chekhov i'w weld yn gryf yn y gwaith hwn: dywedodd y beirniad James Wood taw Seize the Day yw'r "nofela fwyaf Rwsiaidd" efallai yn llên yr Unol Daleithiau.[1] Yn debyg i'r mwyafrif o'i waith, ymdrinia'r nofel hon â themâu'r breuddwyd Americanaidd, llwyddiant y dyn cyffredin a'r fyth genedlaethol.[2]
Cafodd ei haddasu'n ffilm yn 1986 a Robin Williams yn portreadu'r prif gymeriad.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) James Wood on Saul Bellow, The Guardian (9 Ebrill 2005). Adalwyd ar 15 Mai 2017.
- ↑ (Saesneg) Seize the Day Reader’s Guide, Penguin Random House. Adalwyd ar 15 Mai 2017.