John William Thomas

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
John William Thomas
Ganwyd 1805 Edit this on Wikidata
Bu farw 12 Mawrth 1840 Edit this on Wikidata
Gwaith mathemategydd Edit this on Wikidata

Mathemategydd dawnus o Gymro oedd John William Thomas (180512 Mawrth 1840), sy'n adnabyddus wrth ei lysenw Arfonwyson. Fe'i ganed yn 'Allt Isaf', Pentir ger Caernarfon. Tair mlynedd o ysgol yn unig a gafodd a 7 mlynedd yn y chwarel, ond wedi addysgu ei hun yn athro, daeth yn un o fathemategwyr mwya'r byd. Ceir cerfiadau llechi yn Nhyddyn Dicwm, Tregarth, wedi'u gwneud gan John yn 1837, sy'n darlunio llwybrau'r planedau o amgylch yr haul ac un arall o'r Sidydd a'r ysgrifen eglurhaol yn uniaith Gymraeg.[1][2]

Ysgrifennodd nifer o lyfrau gan gynnwys: Elements of Mathematics, Welsh Dictionary of Technical and Scientific Terms, ac An Infallible Way for a Monoglot Welshman to Read English Correctly.[3]

Cychwynodd ysgol yn Nhregarth ger Bangor, Gwynedd. Priododd yn 21 oed, a symudodd i Fangor. Bu'n barddoni tipyn ac yn Llundain bu'n golygu llyfrau ac yn ysgrifennydd i’r Aelod Seneddol William Cobbett. Gweithiodd am beth amser yn Arsyllfa Greenwich cyn ei benodi bron yn syth fel Gruchwylydd yr Arsyllfa. Oherwydd ei allu, galwai George Airey ef yn “My computer, Thomas.”

Ag yntau bron a gorffen sgwennu llyfr ar seryddiaeth, bu farw o'r diciau yn 1840 yn 35 oed.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. www.friendsofgwyneddmuseum.co.uk; adalwyd 20 Mawrth 2015
  2. Gwefan Coflein; adalwyd 20 Mawrth 2015
  3. Darn Bach o Hanes; blog Dewi Prysor adalwyd 20 Mawrth 2015


Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.